Sgwrs Wicipedia:Arddull

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Fe ddilyn cynnig ar argymhellion ynglŷn â'r dewis o dermau lle y ceir termau amgen, i'w drafod cyn rhoi argymhellion ar y dudalen sgwrs. Lloffiwr 09:41, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)[ateb]

Mae canllaw cyffredinol ar dermau amgen ar y dudalen arddull yn barod. Lloffiwr 10:28, 12 Gorffennaf 2006 (UTC)[ateb]

Termau amgen eraill[golygu cod]

Ceir weithiau term Saesneg wedi ei Gymreigeiddio a therm Cymraeg eisoes yn bodoli megis comed a seren gynffon. Y mae'n debyg bod addysgwyr yn ffafrio defnyddio termau wedi eu benthyg o'r Saesneg er mwyn hyrwyddo'r newid mewn iaith cyfrwng addysg ar gyfer disgyblion (gweler neges Ann Corkett yn archifau Welsh-Termau-Cymraeg Canolfan Bedwyr (darllenwyd 4 Mehefin 2006) http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A2=ind0307&L=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&P=R44781&I=-3). Am yr un rheswm ffafrir sillafiad agos at y Saesneg gwreiddiol ganddynt, hyd yn oed pan fod y sillafiad yn groes i'r ynganiad traddodiadol Gymraeg. Oherwydd hyn arfer Geiriadur yr Academi yw cynnig mwy nag un sillafiad ar gyfer rhai termau technegol, e.e. meicroffon a microffon ar gyfer y Saesneg microphone.

Mae'r Termiadur ar y llaw arall yn cynnig microffon yn unig. Pwrpas y Termiadur yw safoni a phennu'r geirfa a ddefnyddir mewn ysgolion. Er hyn nid yw'r sefyllfa yng Nghymru mor gaeth ac yw hi yn Ffrainc lle mae'r Academíe Francaise wedi ei awdurdodi gan y llywodraeth i bennu rheolau iaith a gorfodi eu defnydd.

Dewis termau wrth gyfrannu a dewis term ar gyfer teitl erthygl newydd[golygu cod]

Y mae modd dadlau y bydd Wicipedia yn fwy defnyddiol i fyfyrwyr os y defnyddir y termau safonol. Ar y llaw arall mae o bosib yn haws i ddarllenwyr cyffredinol i ddeall termau a sillefir fel eu hyngenir, neu sy'n barod yn gyfarwydd. Hefyd nid pawb o'r cyfranwyr sydd â copi o'r Termiadur diweddaraf na'r amynedd i wirio sillafiad safonol pob term y mae am ei ddefnyddio nac ychwaith a chanddo'r ewyllys i roi heibio termau traddodiadol a chyfarwydd am rai newydd estron yr olwg. Nid yw felly'n ymarferol pennu rheol bod yn rhaid defnyddio geirfa un geiriadur yn unig, nac ychwaith yn ennyn brwdfrydedd nyni gyfrannwyr bod gormod o reolau ynglŷn â thermau yn bodoli.

Wrth ddewis term byddai'n dda cadw mewn golwg natur yr erthygl arbennig honno. Os yw'n erthygl am bwnc academaidd, yn trin cysyniadau cymhleth, yna termau'r Termiadur amdani. Os yw'n erthygl ar bwnc o ddiddordeb cyffredinol yna byddai term cyfarwydd, bob dydd o bosib yn fwy addas na therm estron.

Newid termau wrth olygu neu ehangu erthygl?[golygu cod]

Mae cysondeb arddull o fewn un erthygl yn gymeradwy er mwyn sicrhau rhwyddineb darllen yr erthygl. Wrth olygu neu ehangu erthygl felly gellir newid termau er mwyn cysonni trwy'r erthygl gyfan, h.y. os defnyddio termau o'r Termiadur yna cadw at dermau'r Termiadur yn yr erthygl honno. Yr un yw'r ystyriaethu ynghlwm wrth y dewis arddull â'r ystyriaethau uchod am ddewis term mewn erthygl newydd. Ar y llaw arall digon diflas byddai newid termau nôl a mlaen yn ddiddiwedd wrth bod erthygl yn ehangu. Felly os am newid sillafiad neu newid term heb newid ystyr yna rhaid bod yn barod i gyfiawnhau'r newid yng ngwyneb ymholiad.

Ardull dyddiadau[golygu cod]

Wrth fformatio dyddiadau argymhellir y patrwm: diwrnod mis blwyddyn.

Ni argymhellir ei ehangu'n frawddeg gyflawn, er engraifft ni ddylid ysgrifennu ar y 21ain o Fehefin. Yn hytrach argymhellir ysgrifennu ar 21 Mehefin.

Argymhellir rhoi un gwagle (space) rhwng y mis a'r flwyddyn, heb comma.

Dylid creu dolen ar gyfer pob dyddiad yn yr erthygl. h.y. [[21 Mehefin]] [[1926]] / 21 Mehefin 1926


Amrediad o ddyddiadau neu rhifau

Dylid defnyddio llinell doriad en, nid cysylltnod, i ddynodi amrediad, gellir teipio hwn fel –

Fel rheol, ni ddylid rhoi gwagle rhwng y rhifau a'r llinell doriad en. h.y. 1926–1932 sy'n gywir. Ond weithiau, gellir defnyddio gwagle pan y gallai amrediad fod yn aneglur hebddo, er engraifft gydag amrediad o ddyddiadau penodol megis Mehefin 1926 – Gorffennaf 1932 neu 21 Mehefin 1926 – 3 Gorffennaf 1932.

Gweler yr erthygl llinell doriad am fwy o wybodaeth am ddefnydd amryw o atalnodau tebyg.

Dyddiadau geni a marw Dylai rhain fod mewn cromfachau ar ôl enw'r person mewn erthyglau am bobl.

Os mai dim ond dyddiad geni sydd, dylid ysgrifennu (ganwyd 21 Mehefin 1926)

Os mai dim ond dyddiad marw sydd, dylid ysgrifennu (bu farw 21 Mehefin 1926)

Os yw'r ddau ddyddiad yn yr erthygl, ni ddylid ysgrifennu "ganwyd" na "bu farw", yn hytrach dylid ei fformatio fel amrediad o ddyddiadau fel y disgrifir uchod.

Ni ddylid cynnyws lle geni a marw person o fewn y cromfachau sy'n dynodi rhychwant bywyd, ond dylid ei gynnwys mewn brawddeg. Mae hyn yn osgoi gor-gymlethu'r frawddeg agoriadol ac yn rhoi cyfle i ehangu'r erthygl ymhellach.

Enwau lleoedd[golygu cod]

Roedd yr adran yma heb ei diweddaru. Mae'n anghywir i ddweud ein bod yn dilyn rhestr yr Atlas Cymraeg Newydd: dydyn ni ddim, a hynny ers tro byd. Efallai taw diweddariad dros dro yw hyn, ond dyna yw'r sefyllfa ar hyn o bryd. Anatiomaros 22:22, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Am y record, roedd y geiriad wedi aros yr un fath ers Gorffennaf 2006, dros dair blynedd yn ôl. Mae ein polisi yn wahanol heddiw. Os penderfynom newid hynny eto bydd yn ddigon hawdd newid y testun yma ond yn y cyfamser doedd dim pwynt mewn cadw datganiad sydd allan o ddyddiad. Ac i fod yn deg, wnes i ychwanegu gwybodaeth am restr Bwrdd yr Iaith hefyd (cyn i'r golygiad gael ei ddileu...). Anatiomaros 23:11, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Oni ddylid fod wedi trafod hyn (naill ai yma neu yn y caffi) CYN DILEU penderfyniad, waeth pa mor hen ydyw? Dyma'r geiriad rwyt newydd ei ddileu: Argymhellir dilyn sillafiad yr Atlas Cymraeg Newydd ar Wicipedia, fel ag ar restr gwledydd y byd. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl. Ai oherwydd dy fod yn anghytuno gyda dewis-eiriau'r Atlas ee Korea? Awgrymaf yn gry dy fod yn trafod penderfyniadau fel hyn cyn mynd ati i'w newid o dy ben a dy bastwn! Llywelyn2000 23:35, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Llywelyn, mae'r ateb yn y Sgwrs yn y Caffi (ac uchod, o ran hynny). Dydyn ni ddim yn dilyn rhestr yr Atlas Cymraeg Newydd (wyt ti isio i ni dderbyn barn yr "arbenigwyr" hynny a chael Iraq yn lle Irac a Lithuania yn lle Lithwania ayyb? A chofia pwy benderfynodd symud Corea/De Corea/Gogledd Corea i Korea/De Korea/Gogledd Korea "o'i ben a'i bastwn ei hun", chwarae teg - nodyn o esboniad yw hyn, dim fel newid enw gwlad gyda phopeth mae hynny'n olygu. Anatiomaros 23:41, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Eh? Does gen i ddim syniad am be wyt ti'n son! "Korea" fyddai fy sillafiad i, nid Corea. Tydw i ddim yn deall dy resymeg. Gawn ni gadw'r sgwrs ar y ddadl hon i'r Caffi? Llywelyn2000 23:51, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Ac Iraq yn lle Irac hefyd? Mae hyn yn mynd yn wirion, Llywelyn. Anatiomaros 23:53, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
"Does gen i ddim syniad am be wyt ti'n son!" Hyn efallai?. Nos da. Anatiomaros 23:56, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Korea ydy sillafiad yr Atlas Cymraeg. Korea sydd ar ein rhestr ni'n hunain (gweler Gwledydd y byd. Korea fyddai fy newis innau hefyd - er nad ydy hynny'n berthnasol, gan mai galw am dderbyn un Safon, termau un corff proffesiynol ydw i, ac nid dadlau dros fy marn (amhroffesiynol) i. Ond mae na egwyddor arall pwysig yma. Os oes gennym gytundeb i fabwysiadu enwau gwledydd fel y'i ceir yn yr Atlas Cymraeg (gan hefyd geisio cymryd i ystyriaeth yn ogystal argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg) yna dylid glynnu at hynny. Hy os oes gennym gytundeb, dylem lynnu ato; ac yn sicr ni ddylid ceisio'i newid heb drafodaeth synhwyrol. Llywelyn2000 00:09, 14 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Yr arddull ei hun[golygu cod]

Wrth inni ysgrifennu erthyglau, pa fath o Gymraeg ddylwn ni ei defnyddio? Er enghraifft, mae en yn defnyddio Plain English. Y fersiwn Cymraeg yw Cymraeg Clir. Dwi'n ceisio defnyddio'r ddogfen (ac "Ysgrifennu'n glir (canllawiau cyffredinol)," ar gael yma) hon wrth ysgrifennu erthylau fy hun, ond wrth weld y mwyafrif o erthyglau sydd yma, ni ddefnyddir Cymraeg "clir" - pethau fel "Dwedodd e" yn lle "Dywedodd ef" ayyb. Nod Cymraeg Clir yw annog cyrff cyhoeddus (a phrosiectau fel hyn) i ysgrifennu dogfennau cyhoeddus mewn iaith syml, naturiol a chlir. Beth ydych chi'n meddwl? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:19, 8 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Mae 'Cymraeg Clir' yn syniad da, ond dwi ddim yn siwr fod popeth sydd yn y cynllun yn berthnasol yma, e.e. "dim mwy na 25 gair mewn brawddeg, osgoi termau technegol", am fod gwyddoniadur yn wahanol i ddogfen gyhoeddus [dwi wedi defnyddio mwy na 25 gair i ddweud hynny!]. Cymraeg safonol ddealladwy sydd ei angen, gan osgoi geiriau a dulliau sgwennu tafodieithol a ffurfiau llafar. Wrth gwrs mae llawer yn dibynnu ar y pwnc; dydym ni ddim yn disgwyl iaith lenyddol/academaidd mewn erthygl am fand ond mi rydym ni'n disgwyl hynny mewn erthyglau hanes a llenyddiaeth. Anatiomaros 17:27, 8 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno am y "dim mwy na na 25 gair mewn brawddeg" - ni fydd hynny'n gweithio ar wyddoniadur. Ond beth am pethau fel yr uchod - "Dyw" yn lle "Nid yw"; "Dwedodd e" yn lle "Dywedodd ef" ayyb? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:24, 8 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Dylem anelu at ddefnyddio iaith safonol, felly "Nid yw" a "Dywedodd" (does dim angen "ef" fel rheol) fyddai'r dewis yn yr achosion hyn. Ond cofier mae'r diffiniad o 'iaith safonol' y dyddiau hyn yn amrywio gyda rhai ffurfiau safonol yn cael eu gweld yn rhai "hen ffasiwn" gan nifer gynyddol o awduron. Mae "Dyw" am "Nid yw" yn weddol gyffredin mewn print erbyn hyn, er enghraifft, ac mae "Dwi" wedi hen ennill ei blwyf yn lle "Yr wyf, Yr ydwyf [etc]" (nid bod dim byd o'i le gyda'r ffurfiau hynny, wrth gwrs!). Ar y llaw arall mae ffurfiau fel "Dwedodd e" ac "Aeth o" yn dafodieithiol ac felly i'w osgoi. Anatiomaros 15:59, 9 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Iawn. Efallai dylwn ni bwyntio hyn allan yn yr arddull ei hun? Bydd adran gyda phethau fel hyn yn ddefnyddiol iawn iawn! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:28, 9 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Pwyllgor Cymrodedd[golygu cod]

Ben Bore wnaeth y sylw nad oes gennym Bwyllgor Cymrodded. Nagoes, bellach. Mae unrhyw anghydweld yn cael ei wyntyllu yn y Caffi lle down i gytundeb democrataidd. Pe bai rhagor ohonom, yna mi ffyddai'n ddoeth ei sefydlu. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:06, 22 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Dw i'n cofio gwneud y sylw, ond does dim cof gennyf ym mhle na'r rheswm. Gan bod cyn lleied ohonom, mae'n debyg mai'r 'usual suspects' fyddai'r rhai mwyaf amlwg i'w ffurfio, a gan ein bo dyn dod i gytundeb fel criw bychan fel mai falle does dim glaw mawr am hyn. Ond ss oes gwir angen ei ffurfio, efallai dylid ystyried gofyn i bobl off-wiki fod yn rhan ohono, yn enwedig gan mai ar achosion prin iawn y byddai angen eu barn?--Rhyswynne (sgwrs) 12:32, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Enwau lleoedd Cymru[golygu cod]

Gwnaed golygiad heddiw sy'n newid yr adran cyn dipyn ac yn ei symleiddio. Does dim sylw/gwrthwynebiad gennyf i mond meddwl byddai'n werth cael cofnod amlwg yma o'r newid, ac fel all eraill adael sylw yma petai nhw'n gwel dyr angen.--Rhyswynne (sgwrs) 12:35, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Canrifoedd[golygu cod]

Symudwyd y Sgwrs isod gan Llywelyn2000 o'r dudalen Sgwrs:Cadwaladr ap Rhys Trefnant. Dechreuais ddefnyddio nodiant Cymraeg modern i ddynodi canrifoedd mewn testun ar y dudalen hon, sef tudalen Cadwaladr ap Rhys Trefnant. Yna, er sicrhau na fyddai darllenwyr eraill yn camddeall y dull hwn, gadewais restr cyflawn o'r nodiant modern hwn ar wicipedia i egluro beth yn y byd yw ei ystyr. Gobeithio y gall hyn fod o help i eraill hefyd sydd wedi diflasu ar yr hen ddull traddodiadol Cymreig o gyfrif canrifoedd, neu o gyfrif unrhyw beth arall mewn gwirionedd. Dyma'r esboniad;

      Cymraeg Modern (grét!)                                                          Cymraeg Traddodiadol (bww!)
      Canrif 1    neu    C1     yn darllen:       canrif un                           y Ganrif gyntaf
      Canrif 2    neu    C2     yn darllen:       canrif dau                          yr ail Ganrif
      Canrif 3    neu    C3     yn darllen:       canrif tri                          y drydedd Ganrif
      Canrif 10   neu    C10     yn darllen:      canrif deg                          y ddegfed Ganrif
      Canrif 11   neu    C11     yn darllen:      canrif un deg un                    yr unfed Ganrif ar ddeg
      Canrif 12   neu    C12     yn darllen:      canrif un deg dau                   y ddeuddegfed Ganrif
      Canrif 13   neu    C13     yn darllen:      canrif un deg tri                   y drydedd Ganrif ar ddeg
      Canrif 14   neu    C14     yn darllen:      canrif un deg pedwar                y bedwaredd Ganrif ar ddeg
      Canrif 15   neu    C15     yn darllen:      canrif un deg pump                  y bymthegfed Ganrif 
      Canrif 16   neu    C16     yn darllen:      canrif un deg chwech                yr unfed Ganrif ar bymtheg
      Canrif 17   neu    C17     yn darllen:      canrif un deg saith                 yr ail Ganrif ar bymtheg
      Canrif 18   neu    C18     yn darllen:      canrif un deg wyth                  y ddeunawfed Ganrif
      Canrif 19   neu    C19     yn darllen:      canrif un deg naw                   y bedwaredd Ganrif ar bymtheg
      Canrif 20   neu    C20     yn darllen:      canrif dau ddeg                     yr ugeinfed Ganrif
      Canrif 21   neu    C21     yn darllen:      canrif dau ddeg un                  yr unfed Ganrif ar hugain

Mae'r dull modern yn hawdd, yn syml, ac yn berffaith ar gyfer pobl ifanc a dysgwyr. Cymraeg Clir ym mhob sir! Diolchiadau fil.

Hwyl,

Madog1000

Diddorol iawn. Dw i'n cytuno gant y cant efo ti! Efallai y byddai'n syniad symud y sgwrs i fan arall, a mi wnaf hynny yn nes ymlaen! Byddai'n golygu coblyn o lot o waith, ond mae'n bosibl i ei wneud! Arloesol iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:22, 14 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
Ydi hyn yn gwneud synnwyr ?
Pa ddarllennwr llyfrau cymraeg nad ydynt wedi syrffedu neu alaru oherwydd y gor-ddefnydd gwirion o rifo canrifoedd ers dyddiau'r concwerwyr hynaws o ogledd Gál peth amser yn ól erbyn hyn. Mae trio darllen llyfr ar bwnc diddorol pan y'ch baglir a'ch rhwystrir gan hanner dwsin o gyfeiriadau chwithig at ddigwyddiadau o'r canrifoedd blaenorol yn y dull hen-ffash yn ddigon i'ch perswadio i roi'r llyfr yn ól ar y silff a chychwyn darllen un arall sy'n llai tramgwyddys.
Mae darllen
"...bu methodistiaid y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llawer mwy awyddus na'u disgynyddion yn yr unfed ganrif ar hugain ac hyd yn oed na'u cyndadau o'r ail ganrif ar bymtheg os nad yr unfed ganrif ar bymtheg hefyd sef cyfnod y piwritaniaid cynharaf, clod yw mudiad etc..."
yn ddigon i wneud yr iesu chwydu, heb són am bobl ifanc Cymru ein dyddiau ni.
Oni fyddai darllen
"...bu cristnogion canrif un deg wyth ac un deg naw yn llawer mwy awyddus na'u disgynyddion yng nghanrif dau ddeg un ac hyd yn oed na'u cyndadau o ganrif un deg saith os nad canrif un deg chwech hefyd sef cyfnod y piwritaniaid cynharaf, clod yw mudiad etc..."
yn haws o lawer ?
Mewn llyfr Cymraeg modern gellid talfyrru hyn eto er lles y darllennydd ifanc:
"... bu cristnogion canrif 18 ac 19 yn llawer mwy awyddus na'u disgynyddion yng nghanrif 21 ac hyd yn oed na'u cydadau o ganrif 17 os nad canrif 16 hefyd sef cyfnod y piwritaniaid cynharaf, clod yw mudiad etc..."
beth amdani ta ? madog1000 (sgwrs) 11:31, 15 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
Does gen i ddim gwrthwynebiad i gael gwared a phethau fel "bedwaredd ganrif ar bymtheg" ond mae darllen "canrif un deg wyth" yn edrych yn chwithig i fi a fawr gwell. Cefais i fy nysgu 'dull modern' i ddefnyddio 19G, 20G ac ati. Mae'n bosib darllen hwnna yn eich pen fel "pedwaredd ganrif ar bymtheg" neu "un deg naw-fed ganrif" neu "canrif un deg naw", beth bynnag mae rhywun wedi arfer ag e.--Dafyddt (sgwrs) 11:51, 15 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
@Emyr Ceredig Evans: Haws, ydy, llawer haws! Ond oni fyddem yn colli'r hen bobol? Mae na un golygydd sydd wrthi fel y diawl yn 'cywiro' Cymraeg wici i gynnwys pethau fel 'eithr' a 'pe megid' - sy'n hurt bost, gan fod hen eiriau fel hyn y tu hwnt i eirfa darllenwyr wici. A pwy mewn difri sy'n defnyddio 'yr ail ganrif ar ddeg ar hugain' pan y mae'n siarad efo Mrs Jones yn y garej? Be ydy oed cyfartalog darllenwyr wicipedia? Yn bersonol - dw i'n cytuno gydag Emyr / Madog, cyn belled nad ydym yn colli darllenwyr hŷn. DafyddT: cytuno efo hyn hefyd! Cadw at y 'rhif', a fyddwn ni ddim yn pechu'r to hŷn. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 11:58, 15 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
@John Jones: Mi welais i yn rhywle tua blwyddyn yn ol fod 80% o'n darllenwyr rhwng 16 a 23 oed. Cytuno efo pawb hyd yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:24, 15 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
Fel un sydd mor hen fasiwn fy mod yn dal i alw hanner punt yn chweugain ceiniog, rwy'n casáu'r dull newydd o rifo, ond os dyna sy'n cael ei ddysgu yn yr ysgolion bellach, mae'n debyg bydd rhaid ildio i'r drefn gyfoes, ysywaeth. Yn bersonol byddwn yn cael hi'n anodd ysgrifennu erthyglau yn cynnwys Canrif un deg wyth gan ei fod yn edrych mor chwithig byddai'n effeithio ar lif fy meddwl. Cytuno efo Dafyddt parthed 19G 20G ac ati, fel cyfaddawd i blesio pawb. AlwynapHuw (sgwrs) 22:19, 16 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]


Diolch bawb ac oll am eich cyfranogiad i'r sgwrs sy'n trafod sut i ysgrifennu (teipio) a darllen (yngannu) cyfnodau y canrifoedd gwahanol. Soniodd un am gadw'r rhif efo'r ffurf ysgrifennedig fel bod dewis gan bob un i'w ddarllen fel ag y mae'n fwyaf cyfarwydd iddo ef/hi.

Y dewis felly ydi defnyddio rhif gyda'r dull traddodiadol, neu defnyddio rhif gyda'r dull modern. h.y.;


Dull 1 : - ysgrifennu 19G i'w ddarllen fel "y bedwaredd ganrif ar bymtheg", e.e. cafodd ei eni yn y 19G etc. = cafodd ei eni yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg etc.

[Pobl Traddodiadol: defnyddio y "rhif", ac yna "G" fawr: fel 7G, 13G, 20G... etc.], neu;


Dull 2 : - ysgrifennu C19 i'w ddarllen fel "canrif un deg naw", e.e. bu cynnydd erbyn C19 yn y de etc. = bu cynnydd erbyn canrif un deg naw yn y de etc.

[Pobl Modern: defnyddio "C" fawr, ac yna y "rhif": fel C8, C14, C21... etc.]


Ac felly, iechyd da pob siaradwr Cymraeg. Madog1000 yn cau y sgwrs. madog1000 (sgwrs) 09:18, 21 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]

@Adam, Breckenheimer, Llusiduonbach: Diolch Emyr / Madog1000. Oherwydd oblygiadau hyn - o ran amser ayb, wnewn ni ddim cau'r drafodaeth am tua pythefnos eto. Er mwyn gweld sut mae hyn yn edrych, mi ddefnyddiais y dull newydd yn yr erthygl Arthfael: dull 2, heb dreiglo. Er ei fod yn chwithig i mi, mater o arferiad fydd hyn, dw i'n meddwl. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:06, 24 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
O edrych ar erthygl Arthfael rwy'n gweld mantais o ddefnyddio fformat 'G' rhag cymysgu gyda circa e.e. "Ganwyd C5 Marw c. 570" Mae'n bosib weithiau fydde chi eisiau defnyddio "c. 5G" a fe fyddai "c. C5" yn hyll (er yn y testun fe fyddai "tua C5" yn well).--Dafyddt (sgwrs) 18:03, 24 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
Cwpl o gwestiynau: O ble mae'r system fodern hon wedi dod - ai dyma beth sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion erbyn hyn? Neu os yw'n rhywbeth newydd sydd ond yn perthyn i Wicipedia, ai'n swydd ni yw bod yn rhagnodol a chreu system newydd yn hytrach nag adlewyrchu'r iaith sy'n cael ei defnyddio mewn llyfrau ac ati? (Sa i'n dweud ie neu nage, ond yn gofyn.) Llusiduonbach (sgwrs) 07:25, 25 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
Dw i ddim yn sicr pa drefn sydd gan ysgolion / CBAC ayb, mi ymchwiliai. Ond, does dim byd o'i le mewn gwneud pethau'n syml i'r darllennydd (a'r golygydd) - a dyna yw diben y cynnig hwn, dw i'n meddwl. Yn yr erthgl ar Arthfael, dywedais: Sant a thywosog Llydewig o ganrif 5 a 6 oedd Arthfael a oedd yn goblyn o chwithig i mi - ar y cychwyn. Mi fedra i ei dderbyn yn iawn bellach! Fel y dywed Dafyddt uchod, mae 5C neu C5 a 5G a G5 yn bosib ac yn caniatau hyblygrwydd i'r darllennydd ddewis ei fford ef/hi o'i ddweud. Mae: Sant a thywosog Llydewig o 5G a 6G oedd Arthfael yn bosib, ond yn hen ffasiwn yn yr ystyr ei fod yn defnyddio'r terfyniad 'ed' (hy maent yn drefnolion). Be sy'n anodd ydy plesio'r ddwy drefn (hen a newydd). Mae Emyr Ceredig Evans yn awgrymu defnyddio'r ddwy ffordd, a dyna blesio pawb! Mae na achosion yn y gorffennol ble rydym wedi bod yn rhagnodol, yn enwedig drwy fathu geirfa decholegol nad oedd yn bodoli cyn hynny. Fy mhoen mwyaf ydy a fedrwn droi'r hen ddul i'r dull newydd yn ddi-fai? A pha ddul newydd fyddai'r bot yn ei ddefnyddio 5C neu 5G? Cyn belled a bod y ddolen yn arwain at y 5ed ganrif, does dim ots. Mae newid y categoriau yn mynd i fod yn dipyn o dasg, ond nid yn amhosib. Fe lwyddom i newid enwau'r gwledydd yn bur dda, blwyddyn neu ddwy yn ol, felly, dw i'n cynnig y dylem fynd ati. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:21, 28 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]
Grét bod rhai am ymestyn cyfnod y sgwrs hon. Sylwais uchod bod y són am y ddau ddull wedi swnio fel fy mod yn awgrymu parhau gyda'r ddau. Yn bersonol, rwyf o blaid y 'dull modern' fel y ceisiais egluro, ond i fod yn deg i bawb, byddai gwneud rheol o un dull yn unig yn debygol o achosi gwrthwynebiad. Efallai y byddai'n well holi opiniwn arbennigwyr iaith yn gyntaf, er mwyn sicrhau dadansoddiad synhwyrol a chytbwys, cyn mynd ati i newid hen drefn ieithyddol sy'n brysur ddiflannu oddiar wefusau pobl ifanc Cymru, cyn y bydd yr iaith yn ei holl ogoniant yn diflannu am byth hefyd. Dio ddim yn neis cael dictator fel athro dosbarth, ond byddai cyflwyno dull newydd, modern, a llawer haws, yn gallu atal adwaith 'diflasdod dysgu cymraeg' neu 'diflasdod siarad cymraeg' oherwydd y dull rhifo-ar-bymtheg megis deunaw a deugain, pedair-ar-bymtheg a deugain, y trydydd cyfrol ar ddeg ar hugain, y pedwerydd-ar-bymtheg a phedwar ugain, yr ail-ar-bymtheg, y deunawfed, y pedwerydd-ar-bymtheg... Oes rhaid dweud mwy ?
Mae'r dull hynafol hwn yn perthyn i'r dyddiau pan oedd arbennigedd mewn rhifyddeg yn ddefnyddiol i gyfrif nifer mawr o ddefaid, gwartheg, wyau, a chynhyrchion y tir ar gyfer marchnadoedd agos a phell.
Does dim angen y stwff yma ddim mwy, rydym yn byw yn oes yr wybodaeth ddigidol, y cyfrifiadur, y metrau cyfandirol, a chanrif 21 (ysgrifenner C21). Beth amdani ta ? madog1000 (sgwrs) 10:42, 5 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Meddyliais dros goffi: Hwyluso rhifyddeg oedd yr hen ddull siwr o fod. Ydi dull 9 canrif oed (o bosib), yn rhwystro rhifyddeg (Cymraeg) yn y cyfnod modern hwn (C21) ? madog1000 (sgwrs) 11:06, 5 Mai 2016 (UTC)[ateb]
Cynnig

@Emyr Ceredig Evans, Llusiduonbach, Dafyddt, AlwynapHuw, Penyderyn, Rhyswynne, Lesbardd:
Noder fod 'Esboniadur' y Coleg Cymraeg (ee yr erthygl hon a hon) yn defnyddio'r fersiwn 17c. Mae hyn yn rhoi cynsail i'r ddadl. Gall y darllenydd ei ynganu fel y mynn (os oes ynganiad yn y meddwl wrth ddarllen!) Mae hwn yn arddull cliriach na 'c17' a ellir ei ddarllen fel circa / tua. Ychydig iawn o ieithoedd eraill sydd mor hael a ni gyda'n llythrennau mawr (prif lythrennau), gorau po leied o ran amserolion; islythyren (llythrennau bach) sydd gan y Col Cym. Mae derbyn arddull y Coleg Cymraeg, fel safon, yn ateb cwestiwn pwysig Llusiduonbach ynghylch cynsail, dw i'n meddwl. Bum yn petruso am ychydig a ellid ei gamddehongli i olygu 'c' am 'ceiniog', ond dwi'n meddwl fod y cyd-destun yn dileu'r posibilrwydd hwnnw!

Ar sail y drafodaeth uchod: cynigiaf ein bod yn derbyn y drefn hon (17c CC; 16c, 17c, 18c...) o hyn ymlaen, ac yn newid yr hen drefn yn ystod y misoedd nesaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:19, 18 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]

Syniad da! Ond dyw'r erthyglau hynny ddim yn defnyddio 14c, 15c, 16c, maen nhw'n defnyddio 14g, 15g, 16g. Llusiduonbach (sgwrs) 08:59, 21 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
Whwwwp! Ti'n iawn hefyd; ac mae hyn yn well - dim amwysedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:30, 21 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]
'Na fe 'te. Rwy'n hoff o gael cynsail a defnyddio rhywbeth bydd pobl eraill yn ei ddeall, felly diolch am wneud yr ymchwil. #g amdani o hyn ymlaen! Llusiduonbach (sgwrs) 13:01, 21 Tachwedd 2016 (UTC)[ateb]