Sgwrs Defnyddiwr:Evanscartref

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Hei ho, croeso cynnes! Melys moes mwy! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:03, 19 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

S'mai[golygu cod]

Llongyfarchiadau ar dy benodiad. Dwi'n ddefnyddiwr (a gweinyddwr) reit prysur yma fel arfer, ond yn cymryd brec bach ar y funud, ond liciwn rannu syniadau a chlywed mwy am beth sydd gyda chi fel Llyfrgell mewn golwg - paid a bod yn swil dechrau trafodaeth yn Y Caffi - achos nid pawb fydd yn gweld newidiadau i'r dudalen hon.

O ran fy syniadau i:

  • A fydd y golygothonau yn cael eu cynnal yn Aberystwyth yn unig, neu ledled Cymru - gan gymryd bod gan y Llyfrgell Gen gysylltiadau gydag archifdai a llyfrgelloedd lleol, falle byddai modd teithio ychydig.
  • Beth am roi thema i bob golygathon/neu dewis thema y mis. Gellir cyrchu categoriau Wicipedia e.e. Categori:Genedigaethau 1915 i weld canmlwyddiant geni pwy sydd eleni. os oes rhywun enwog a bod deunydd yn y llyfrgell amdano/i, yna beth am amlygu hyn drwy dy gyfrif Twitter / blog y Llyfrgell a gweld os neidith pobl eraill i mewn a dechrau golygu. Un amlwg wrth gwrs yw dathliad 150 mlynedd ers glaniad y Mimosa. Mae gwefan Ffrwti'n le i hyrwyddo pethau fel hyn hefyd ac yn fwy na hapus i roi llwyfan dwi'n siwr.
  • Mater mwy technegol yw hyn yn hytrach nag un swydd Wicipediwr Preswyl, ond gall fod yn rhywbeth i ti ei wthio, sef botwm 'Dyfynnu ar Wicipedia' ar gyfer tudalen pob eitem ar wefan y Llyfrgell (fel y ceir ar Europeana, ar y chwith). Maea sawl mantais i hyn: 1. Codi ymwybyddiaeth o gynnyws y Llyfrgell 2. Mwy o ymweliadau/linkback i wefan y Llyfrgell 3 Ei gwneud hi'n haws i olygwyr Wicipedia gan ei fod bach o ffaff gwneud hyn 4. Gwella ansawdd y Wicipedia drwy sicrhau bod mwy a gwell dyfynnu ffynhonellau - rhywbeth rydym wedi bod bach yn ddiog gyda yn y gorffenol

Mae'n siwr bydd mwy o syniadau gyda fi, felly falle dof yn ôl gyda mwy eto. Hwyl am y tro.--Rhyswynne (sgwrs) 22:18, 20 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Diolch am y croeso[golygu cod]

Diolch yn fawr am y croeso cynnes a’r holl syniadau! Rhyswynne

Bydd y Golygothonau cyntaf yn y Llyfrgell yn Aberystwyth ond hoffwn i gynnal rhagor o amgylch Cymru yn ystod y flwyddyn. Bydd themâu pendant i bob digwyddiad. Ar hyn o bryd mae llawer o syniadau diddorol, yn cynnwys Patagonia 150, Y Rhyfel Byd Cyntaf a Llawysgrifau Cymraeg.

Hapus i helpu gyda unrhyw hyrwyddo a threfnu, yn enwedig yn y de ddwyrain, er falle mentraf i Aber 'fyd. Trefnais Wicipedia:Golygathon Caerdydd 2012 ac mae ambell un wedi gofyn pryd mae'r nesaf, ond dwi heb drefnu dim eto. Tydi hi ddim yn edrych fel bydd yr ystafell yn y Llyfrgell Ganolog ar gael am sbel, os o gwbl eto am ryw reswm.--Rhyswynne (sgwrs) 21:17, 21 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Ar ran y botwm ‘Dyfynnu ar Wicipedia’…WAW! Am syniad arbennig - yn enwedig am wefannau fel Cylchgronau Cymraeg a Phapurau Newydd Ar-lein. Bydd rhaid i ni drafod hwn yn fewnol yn y Gen cyn gynted a bosib.

Wel ia, dwi ddim yn gwybod faint o feta data sydd tu cefn i bob erthygl o fewn y cyhoeddiadau hyn, ond petai modd dyfynu teitl a dyddiad cyhoeddiad unigol yn ddiffwdan ar gyfer pob erthygl a ddyfynir, yna byddai hynny yn wych.--Rhyswynne (sgwrs) 21:17, 21 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Hwyl fawr – am nawr. Evanscartref (sgwrs) 16:01, 21 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Rhyswynne Rwyn edrych i mewn i'r syniad o'r botwm ‘Dyfynnu ar Wicipedia’...fingers crossed! Ar rhan Editathons. Os ydych angen lloeliad bydd croeso i chi defnyddio gofod a adnoddau y LLGC yn Aberystwyth. Mae croeso i chi ebostio fi unrhiw amser. jje(at)llgc.org.uk. Diolch. Evanscartref (sgwrs) 16:28, 27 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]