Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros/Archif 4

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Blwch defnyddiwr[golygu cod]

Helo, s'mai? Dwi newydd greu blwch i'w ddefnyddio i ddweud bod rhywun yn weinyddwr. Defnyddia'r cod {{Defnyddiwr:Xxglennxx/Blychau/Gweinyddwr}} os hoffet ti :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:39, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Diolch[golygu cod]

Diolch Anatiomaros am eich eich cymorth gyda fy erthyglau. Dwi mond newydd ddechrau hyn felly mae'n dda cael cyngor rhai mwy profiadol! Treuliais i amser yn byw yn Japan a bellach yn byw yn Llundain felly dwi'n gobeithio ehangu yr erthyglau Cymraeg sydd ar gael ynglyn a'r rhain ynghyd a nifer o bethau random eraill!

Mae'n ymddangos eich bod i gyd yn gwneud gwaith arbennig o dda, mae'r erthyglau o safon uchel ac hefyd yn defnyddio iaith realistig a naturiol - hoffais y ddadl ynglyn a Japan/Siapan!

Fel dechreuwr, mae na chydig o bethau baswn i'n licio ei ddysgu, yn enwedig sut i greu template infobox newydd? Hefyd, ai dyma'r ffordd gorau o sgwrsio - h.y. trwy sgwennu ar dudalen defnyddiwr?

Gadewch i mi wbod os oes meysydd neu bynciau eraill lle gallaf fod o help.

Osian

Diolch yn fawr, Ossian. Dwi'n meddwl fod eich cwestiynau wedi cael eu hateb yn barod gan Ben a Glenn ar dy dudalen Sgwrs. Cyn belled ac y mae meysydd a phynciau yn y cwestiwn, dwi'n meddwl fod eich cyfraniadau diweddar ar Siapan/Japan yn llenwi bwlch amlwg. Fel rhywun sy'n nabod y wlad a'i phobl dwi'n falch o weld hynny ac yn teimlo'n euog braidd o wneud cyn lleied yn y cyfeiriad yna fy hun. Daliwch ati! Anatiomaros 23:02, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Amodau blocio[golygu cod]

Helo! S'mai?! Iawn 'te, oes amodau ar gyfer blocio person, heblaw am fandaliaeth ddigywilydd? Beth am yr un a geir yma? Gwnes i ddadwneud y "cyfraniad" gan ei fod mewn iaith estron. Ydy cyfraniadau fel hynny'n haeddu bloc? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 03:47, 30 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

A. Wrth edrych i mewn i'r mater ymhellach (gweler yma), mae cyfraniadau fel hyn yn haeddu bloc! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 03:50, 30 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ydy, yn achos y cyfraniad olaf. Weithiau mae rhywun yn gosod dwli ar un dudalen yn unig a dyna ddiwedd y stori. Dadwneud y fandaliaeth ac aros i weld os digwydd yr un peth eto yw'r peth gorau i'w wneud: "one offs" ydyn nhw fel rheol. Ond oni bai bod yr un cyfeiriad IP yn cael ei ddefnyddio dros gyfnod - h.y. mwy nag un diwrnod - does dim pwynt mewn gosod bloc hir am fod rhai cyfeiriadau IP yn ddeinamig ac yn cael eu rhannu mewn 'pwll' gan nifer o bobl. Fel arfer mae diwrnod neu ddau o floc yn ddigon (eithriad amlwg yw'r "Fandal Disney", ond does fawr dim perygl o flocio pobl diniwed yn yr achos yna gan fod bron neb o UDA yn cyfrannu i'r Wici). Os wyt ti'n ystyried rhoi bloc mwy sylweddol cofia wirio'r cyfeiriad IP yn gyntaf achos daw llawer o fandaliaeth o gyfeiriadau IP ysgolion a llyfrgelloedd. Mater o ymarfer a synnwyr cyffredin ydy blocio yn y pen draw ac mae'n anodd gosod canllaw bendant am fod pob achos yn wahanol. Cofia gelli di newid y bloc hefyd, yn achos bloc IP felly mae bloc byr i gychwyn yn well (eto, heblaw IPs y boi 'na o Georgia UDA...). Gobeithio fod hynny o gymorth. Anatiomaros 15:10, 30 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Heol y Frenhines: Part Deux...[golygu cod]

Dwi wedi gadael nodyn yn Y Caffi ar y testun uchod fel nodyn o dan y drafodaeth gwreiddiol. Dal yn achosi penbleth. Ochenaid! Osian Llwyd 16:07, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Diolch am y neges, Osian. Dwi wedi ymateb yn y Caffi. Diolch am yr erthyglau ar Siapan heddiw hefyd. Wnest di gael hyd i'r categoriau newydd (gweler Categori:Rhanbarthau Japan)? Ydym ni'n barod am gategoriau am y taleithiau hefyd, tybed? Mae'n dipyn o waith ond os wyt ti am fynd ymlaen gyda'r pethau Siapaneaidd mi wnaf hynny. Anatiomaros 16:30, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Do, mae pob talaith yn gyflawn a dwi wedi cyfeirio pob un i'w rhanbarth priodol. Byddai creu categoriau ar y taleithiau yn help gan mod i'n bwriadu canolbwyntio ar ddinasoedd/trefi/mynyddoedd/ardaloedd a.y.y.b. o hyn ymlaen. Beth fyddai'n dda hefyd fyddai gallu cyfieithu y map amryliw o daleithiau Japan yn yr erthygl Taleithiau Japan a Japan. Ar hyn o bryd mae'r ysgrifen (h.y. teitlau) ar y map yn Saesneg ond mae modd golygu hyn gan bod fersiynau ieithoedd eraill i'w cael.Osian Llwyd 13:55, 5 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Un peth arall efallai fydd angen ei wneud yw newid y gair talaith. Y rheswm yw mai prefecture yw'r gair Saesneg. Y cwestiwn ydy beth ar y ddaear yw prefecture yn Gymraeg (dwi ddim yn ddigon ffodus i fod yn berchen ar Eiriadur yr Academi!). Beth am swydd/swyddau? I ddechrau, doeddwn ddim yn gweld problem gyda'r gair talaith ond wedi ymchwilio tipyn mwy darganfyddais fod hen system Japan yn y 19eg ganrif yn rhannu y wlad i mewn i beth a elwir yn Saesneg yn provinces ac fe'u dyfynnir yn aml mewn llenyddiaeth. Onid yw talaith yn fwy addas yma?Osian Llwyd 14:37, 5 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ia, mae hyn yn broblem, dwi'n cyfadde, a dydy o ddim yn effeithio Siapan yn unig. Y broblem ydy does 'na ddim gair Cymraeg sy'n cyfateb i prefecture (neu préfecture achos dynwared y Ffrancod oedden nhw pan sefydlwyd y "taleithiau" hyn). Dwi wedi defnyddio "talaith" ar gyfer préfecture (waliyat) yn achos llefydd fel Tunisia hefyd ac felly buasai'n golygu lot o waith i newid hyn i gyd. Y dewis arall yw defnyddio'r enw[au] brodorol ond wedyn cyfyd y broblem o greu ffurfi[au] lluosog sy'n gwneud synnwyr. Dwi'n meddwl, o edrych ar ddolenni rhyngwici, fod sawl wicipedia arall yn wynebu'r un broblem hefyd. Anatiomaros 15:59, 5 Awst 2010 (UTC)[ateb]
O ystyried hyn credaf fod talaith yn ddigon addas (gellir dadlau mai swydd yw 'shire' er enghraifft). Gallwn o hyd gyfeirio at hen daleithiau Japan fel hen daleithiau yn yr un modd ac yr ydym yn cyfeirio at hen siroedd yng Nghymru.Osian Llwyd 16:31, 5 Awst 2010 (UTC)[ateb]
"Cop out" efallai, ond dyna sydd orau dwi'n meddwl. Wna i greu'r categoriau dros y dyddiau nesaf - dwi'n rhy ddwfn ym myd dirgel y CIA a Google i wneud llawer amdano rwan! Hwyl, Anatiomaros 16:41, 5 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Fy mloc cyntaf[golygu cod]

Helo. S'mai. Gwnes i flocio Arbennig:Contributions/69.243.235.226 am fandaleiddio erthyglau Disney a dy dudalen di. A wnes i fe'n iawn? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:31, 14 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Do, ardderchog. "BF101"! - tipyn o give-away, te?  :-) Anatiomaros 21:02, 14 Awst 2010 (UTC)[ateb]
ON Mae wedi cael ei flocio heddiw ar 'en', Metawiki a 'simple' hefyd! Anatiomaros 21:06, 14 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Gwych :D Ie, yn enwedig pan yw'n gosod "Bambifan is here!" ar dudalennau! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:32, 14 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Dy waith ar y departments, Ffrainc[golygu cod]

Gair byr i ddiolch i ti am greu'r holl gategoriau "Pobl o departmentau Ffrainc"... Mae pawb yma ar Wicipedia'n gwerthfawrogi dy allu rhyfeddol a'th sgiliau arbennig; wyt gonglfaen Wici, dim llai.

Yn ail, sut wyt ti am gategoreiddio Corsica; fel region, mae'n debyg, heb iddi department? "Pobl o Corsica"? Mae Napoleon yn dy wylio'n ofalus! Llywelyn2000 07:36, 22 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Be fedra' i ddeud? Diolch! Dim ond hanner ffordd trwy'r gwaith ydw i ond mae'n gychwyn. Roeddwn i'n gweld yr angen flwyddyn neu ddwy yn ôl ond mae'n lot o waith ac roedd 'na wastad rhyw esgus dros beidio dechrau arno...
Mae lleoedd fel Corsica yn gymhleth. Bu'n deyrnas yn y gorffennol ac wedyn ym meddiant y Genoaid hyd y 18fed ganrif pan gafodd ei gwerthu (!) gan y cyfalafwyr mentrus hynny i Ffrainc. Mae'n rhanbarth gyda statws uwch na'r lleill heddiw a chreuwyd dau département yn y rhanbarth yn y 70au (creadigaethau diweddar iawn mewn cymhariaeth â'r gweddill felly). Ac mae rhai Corsicawyr (?) o blaid annibyniaeth, wrth gwrs, ac yn ystyried fod Corsica yn wlad. Yn ne'r ynys y ganed Napoléon (Corse-du-Sud heddiw) felly mae'n debyg ei fod yn perthyn i'r categori 'Pobl o Corse-du-Sud', a fydd yn is-gategori, gyda 'Pobl o Haute-Corse', i'r categori 'Pobl o Corsica'. Wrth gwrs, gellid dadlau dros ddefnyddio 'Pobl o Corsica' yn unig - ond 'fallai fod Bonaparte yn haeddu fod yn y ddau - ond wedyn byddai'r ynys allan o sync gyda gweddill y rhanbarthau. Mae rhywfaint o anachroniaeth yn anorfod beth bynnag, fel cael Llywelyn Fawr yn y categori 'Pobl o Gonwy' (ond roedd yr Anglopedia yn benderfynol o'i roi yn y categori "People from Caernarfonshire" nes i mi newid y drefn pan o'n i'n weithgar yno!). Anatiomaros 22:06, 22 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. A'r cymhlethdod hwn (sy'n nadreddu drwy fywyd) yw ei gyfoeth prydferth! Hir y pery'r cymhlethdod! Oblegid un byd llwyd, totalitaraidd fyddai byd syml. Llywelyn2000 05:39, 23 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Hollol! Diolch am dy waith di heddiw hefyd. Cywiriais ambell un - cofia mai enw'r categori sy'n cyfri, nid enw'r erthygl. Yn aml does dim angen gwahaniaethu gyda enw categori fel 'Loire', er enghraifft, achos os cawn ni gategori i'r afon yn y dyfodol 'Afon Loire' fyddai'r enw nid 'Loire'. Mond angen eu llenwi rwan - ymlaen â ni! Anatiomaros 15:54, 23 Awst 2010 (UTC)[ateb]

image width[golygu cod]

Hi Anatiomaros,

about this edit: the reason why RHaworth removed the 250px part is that the width statement fixes the width for all users. If no width is given the default is used. The advantage of using the default is that there's an option in the preferences that allows every user to specify his personal default size. If you have a small monitor or a slow connection you can choose 120px as default size. If you have a high resolution monitor and a good connection you can choose a bigger size (up to 300px). This preference option won't work for fixed-width images. Therefore no images should be fixed-width except if a fixed width is required by layout (e.g. mini icons, infoboxes, composed graphics). Just so you know why he did it ;-)

I'll write something about the other issue at the village pump soon. --Slomox 17:38, 20 Medi 2010 (UTC)[ateb]


Help ar Wikipedia Saesneg plîs[golygu cod]

Sh'w mae hen ffrind. Gobeithio mae popeth yn iawn 'da ti. Nei di mynegi dy farn di ar y erthigl Laws in Wales Acts 1535–1542 (prosiect Saesneg) plis, os oes amser 'da ti. Dyna rhwybeth od iawn fan 'na. Diolch byt, oddi wrth Daicaregos 22:03, 21 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Sut mae, Dai? Mae'n amser maith ers i mi ddangos fy wyneb ar "Anglopedia" - rhy brysur yma ac ar Gomin (Commons) - ac mae'n braf cael gair gen ti. Dwi wedi cael cipolwg ar yr erthygl. Hmm. Anodd dweud be ydy'r rheswm heb gael yr amser i chwilio trwy fy lyfrau, ond dwi'n meddwl fod y ddau bosiblrwydd - "Old Calendar" a "date of assent" - yn eitha teg. Dwi'n tueddu i feddwl mai'r cyntaf sy'n gyfrifol am y gwahaniaeth, ond dwi ddim yn siwr (pasiwyd Deddf 1536 yn Chwefror...). Ond er ei bod yn werth nodi hynny yn yr erthygl dwi ddim yn gweld unrhyw ddadl dros beidio defnyddio'r dyddiadau "traddodiadol", arferol, sy'n cael eu defnyddio gan bawb bron (yn cynnwys John Davies ei hun, wrth gwrs!). Os caf hyd i rywbeth wna i adael i ti wybod, ond dyna'r cwbl medra'i ddeud am rwan. Cofion cynnes, Anatiomaros 22:53, 21 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Iawn, diolch. S'dim syniad 'da ni am y rheswm cywir ar hyd. Mae'n rhyfedd iawn. Taset ti'n darganfod beth sy'r ateb, rhowch i'm gwybod (gyda cyfeiriad, 'fallai), ond os na, paid becso. Ond, byddwn i'n hapus i weld i ti wrth y lle Saisneg weithiau beth bynnag, os oes amser 'da ti. Tan hynny, pob hwyl. Daicaregos 19:17, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]

change user name[golygu cod]

Hello Anatiomaros. I asked at the help desk to change user name and Xxglennxx told me to ask you. I chose "Sais Neis" as plain "Sais" was already taken, but now I don't like it. I would prefer "Llais Sais". Many thanks. Sais Neis 10:49, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Sut mae, "Sais Neis/Llais Sais"? When I was about to rename your account I got the following message: "User Sais Neis has been migrated to the unified login system. Renaming it will cause the local user to be detached from the global one." This means you will have to log in seperately here every time. I can still go ahead and make the move if you wish, but if I were you I'd consider requesting renaming your global account. It's up to you. Please let me know what you'd prefer. Hwyl, Anatiomaros 16:00, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Thanks for that. That error message is almost gobbledegook, but I take it to mean that I won't be able to use the same username on other languages e.g. the English site. That's fine, as I would use a different username anyway. Many thanks. Sais Neis 17:43, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Yes, not a candidate for the Plain English Award! What it means is that you have a Single Unified Login account (SUL) as 'Sais Neis'. I've checked and see that the account has cy as the home account with auto-created accounts on Czech and English wikis (see here). Now, if I move you to 'Llais Sais' here that still leaves you with an active SUL account as 'Sais Neis' on those two wikis. I don't suppose you'll do much on cz, perhaps, but what about en? Have you another account there, i.e. with a different user name? If you do you'll need to sort things out as you really shouldn't have two separate accounts on the same wikipedia or somebody will think you did that to have a "sockpuppet". I can move you here, no problem, but you should consider what to do with the SUL 'Sais Neis' account. I'd suggest contacting SUL admin (use the link here after logging in as Sais Neis) and explaining the situation - perhaps it's best to ask them to delete the SUL Sais Neis account completely (after I'v renamed you here, of course!)? If you'd like to confirm the move request for me once more I'll rename the account for you. Hope that doesn't sound too complicated but as I see it that is the situation, based on the information I have. Anatiomaros 18:18, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Thanks. I certainly didn't edit on either of those sites, maybe just looked at some page on them after logging in here. That's all fine - it may be best if it's not on unified login if it's going to create accounts that I never wanted just because I visit a site. Frankly I don't even speak Czech so I'm surprised I went there at all, but I must have clicked on one of those links for versions of an article in another language. Many thanks for explaining the situation. Sais Neis 18:30, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]

P.S. I'm going to log out now in case it doesn't let you change my username while I'm logged in. I need to go do other stuff anyway. Sais Neis 18:35, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
"Mae'r defnyddiwr "Sais Neis" wedi cael ei ail-enwi i "Llais Sais"", chwedl y meddalwedd... Anatiomaros 20:30, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr. Llais Sais 23:51, 23 Medi 2010 (UTC)[ateb]


Dyma er mwyn rhoi i ti(*) gwybod fy mod i wedi ateb i'th neges ar dudalen sgwrs Porius1. Fel dwedais i, nid RHaworth yw ein problem, ond perchenogion yr hawlfraint (neu yn wir, problem yr uwchlwythwr). Yn fy ateb i, rhoddais i enghraifft o ffotograffydd rydym ni wedi defnyddio un o'i luniau heb yr hysbysrwydd hawlfraint a alwyd arno gan y drwydded. Mae ei waith dan hawlfraint, felly dim ond y drwydded sy'n rhoi i ni unrhyw hawl i'w gopïo, ac oni bai cadwn at amodau'r drwydded, mae'n anghyfreithlon i'w gopïo. Llais Sais 04:09, 26 Medi 2010 (UTC) (*) rwyt ti'n fy ngalw "ti", felly rwy'n dy alw "ti" hefyd.[ateb]


Creu sgerbydau...[golygu cod]

Dw i newydd greu dros 30 o erthyglau ar gylchoedd cerrig, fel y gwyddost. Mi alla i wneud yr un peth yn ystod y dyddiau neu wythnosau nesaf; mi fasa dy lygad barcud di'n help mawr - fel ag yr oedd o heno i chwynu erthyglau dwbwl, ychwanegu etc. Ond wrth eu rhoi nhw arno, mae'n anodd iawn, fel y gwyddost, ganolbwyntio ar y ddau beth am amser hir. O'u paratoi o flaen llaw, mae'r broses o'u copio'n eitha hawdd, ond yn boring!

Dw i'n bwriadu ganolbwyntio ar siamberi claddu, bryngaerau ayb yn ystod yr wythnosau, felly byddai'n beth gwych pe gallem gydweithio fel y gwnaethom heno. Cofion a diolch. Llywelyn2000 23:25, 7 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Gwych, gyfaill! Yr unig beth sy'n fy mhoeni am rai ohonyn nhw ydy'r ffaith does fawr dim gwybodaeth amdanynt. Er engrhaifft: cylch cerrig Cefn Maen Amor. Mae'n bosibl cerdded heibio heb ei weld yn yr haf am fod y cerrig mor isel yn y grug! Dwi ddim yn siwr y medrem ddweud gyda phedantrwydd y cafodd pob un ei ddefnyddio'r un fath chwaith. Manion, manion, manion... Wna i chwilio ar Gomin i weld os oes 'na luniau. Dwi wedi cael un - Cerrig Arthur. Dwi am ei throi hi cyn hir hefyd. Tan fory, "inchallah" a ballu, Anatiomaros 23:36, 7 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Ia, clamp o foi oedd Arthur: roedd un o'i gerrig yn Abermaw a'r llall yn y Preselau! Llywelyn2000 23:46, 7 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
[gwrthdaro golygyddol]ON Gellid symud rhai ohonyn nhw hefyd. E.e. mae 'Cerrig Pryfaid' (/'Cerrig y Pryfaid') yn enw ar y cylch ei hun a does dim angen mwy na hynny mewn gwirionedd (eithriadau: angen gwahaniaethu; cylchoedd heb enwau). Ac ia, doeddwn i ddim isio sôn amdano, ond efallai fod 'Cerrig Arthur' yn well na 'Cylch cerrig Cerrig Arthur'? (Faint diawl oedd ganddo fo?!) Anatiomaros 23:50, 7 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Mae wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl ond dwi wedi bod trwy'r cyfan. Wedi cael ambell lun o Gomin ac un arall o grombil fy nisg galed hefyd (oes "Brownie points" am hyn?). Bychan ar y naw ydy rhai ohonyn nhw - pwynt i'w ystyried wrth fynd trwy'r rhestrau o fathau eraill o henebion ydy oes digon i'w ddeud i haeddu erthygl? Meddwl am bethau fel meini hirion bychain unigol, er enghraifft, heb fwy i'w ddeud amdanyn nhw na'r ffaith eu bod yn sefyll yn y llecyn hwn a hwn. Oni bai fod darn o lên gwerin amdanyn nhw, wrth gwrs... Anatiomaros 20:12, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Dyna'r cwestiwn! Mae Cadw wedi rhestru 83 carnedd gylchog led led Cymru. Mi allai naill ai eu rhestru efo'u Cyfeirnod OS a'r dref agosaf mewn ffont du, yn ddi-ddolen, NEU greu tudalen ar bob un. Byddai angen gwneud yr un peth wedyn gyda mathau eraill o garneddau (cairns). Does dim byd tebyg ar Wiki. Byddai Wici wedyn yn tyfu'n adnodd a fyddai'n cynnwys erthygl ar bob un o henebion Cymru (Cadw). Rhagwelaist fy nghwestiwn pan soniaist am y meini hirion unigol. Mae yna 400 'round barrow' a 185 maen hir wedi'u cofrestru fel henebion ar lyfrau CADW.
Os wyt ti isio mynd ymlaen i greu erthygl ar bob un (83) carnedd gylchog, mi fedra i wneud hynny mewn dwy awr, dair. Ond byddai'n rhaid gwneud un yn gyntaf (gweler yr un a roddais ar Carnedd gylchog yn barod:, sef Carnedd gylchog Waun Gunllwch.
Be wyt ti'n ei feddwl? Llywelyn2000 20:42, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Penderfyniad anodd. Gwn am rai carneddau yn y fro sy'n henebion dilys "swyddogol" fel petai ond sy'n eitha ansylweddol, rhyw domenni isel wedi'u gorchuddio â mawn neu rug. Y rhan fwya heb eu cloddio ac os cyfeirir atynt o gwbl mewn arweinlyfrau dim ond rhywbeth fel "a further two small cairns can be found at..." a geir. Ystyria hefyd fod pob safle trigfan - "cytiau'r Gwyddelod" a ballu - yn cael eu rhestru hefyd, siwr o fod. Mae rhai ohonynt yn haeddu erthygl bur sylweddol ac mae'r deunydd ar gael i hynny, ond gwn am rai lleol eto, y rhan fwyaf heb enwau hyd yn oed, y byddai dyn heb ddiddordeb yn y pwnc yn cerdded drsotynt heb wybod eu bod yno o gwbl (mewn cymhariaeth mae Cylch Cerrig Cefn Maen Amor yn Gôr y Cewri o le!). Beth am restr(au) i ddechrau, gan fod angen cael hynny beth bynnag? Anatiomaros 21:41, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

O ran diddordeb, dyma rai o'r gwahanol fathau o henebion ynghyd a'u niferoedd a gofrestrwyd ar lyfrau Cadw (yn fras, ac yn eu hiaith nhw gan amlaf):

  • Abatai: 12
  • Amffitheatr: 3
  • Anti-invasion defence site: 5
  • Anti-tank Obstacle: 2
  • Pont ddwr: 11
  • Sgubor: 4
  • Baddondy: 3
  • Battery: 3
  • Blast Furnace: 6
  • Pont: 49
  • Adeiladau heb eu categoreiddio eto: 16
  • Burial Chamber: 3
  • Prehistoric Burnt Mound: 18
  • Cairn: 10
  • Cairn Cemetery: 4
  • Cairn circle: 5
  • Cairnfield: 6
  • Castell: 88
  • Ogof: 16
  • Chambered long barrow: 12
  • Chambered long cairn: 13
  • Chambered tomb: 38
  • Capel: 54
  • Cist burial: 3
  • Glofa: 9
  • Croes: 50
  • Cross-marked stone: 14
  • Deserted Medieval Village: 9
  • Deserted Rural Settlement: 24
  • Enclosed hut circle: 75
  • Enclosed hut circle settlement: 7
  • Enclosure: 149
  • Fort: 38
  • Henge: 5
  • Bryngaer: 275
  • Ffynnon Sanctaidd: 8
  • Hut circle settlement:44
  • Inscribed stone: 28
  • Kerb cairn: 18
  • Legionary fortress: 16
  • Linear earthwork: 96
  • Long barrow: 6
  • Long cairn: 2
  • Ty hir: 7
  • Moated Site canoloesol: 56
  • Motte: 123
  • Motte & Bailey: 42
  • Carnedd lwyfan: 20
  • caerau: 40
  • Platform Cairn: 309
  • Platform Cairn:370
  • Maen hir: 177
  • Stone alignment: 7
  • Unenclosed hut circle: 140

Cofion! Llywelyn2000 23:01, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Nefoedd wen! Bydd dim angen nhw i gyd, mae'n debyg, ond mae 'na ddigon yno i'n cadw ni'n brysur am fisoedd. Ond sylwer, "dim ond" 275 bryngaer sydd ganddyn nhw tra fod archaeolegwyr yn sôn am dros 500. Hmm. Dwi'n bwrw fy mhleidlais dros 'Adeiladau yng Nghymru heb eu categoreiddio eto'! Pam lai :-) Anatiomaros 23:08, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Haha. Cwbwlhau'r gwaith ar garneddi a siamberi fyddai orau i gychwyn, dw i'n meddwl. Os oes dros 20 yna rhestr yn unig am y tro! Ond, cofia mae na ddadleuon dros erthygl ar bob un: nid yn unig y gallwn symud i fyny yn y rhestr ieithoedd yn bur sydyn, ond hefyd - os ydyn nhw'n ddigon sylweddol i gael eu cofrestru gan Cadw gydag enw SAM a rhif SAM ayb yna mae'n ddigon hawdd cyfiawnhau erthygl arnyn nhw. Llywelyn2000 05:48, 9 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n hen bryd i CADW ddysgu parchu'r Gymraeg. Roeddwn i'n methu deall am eiliad beth yn union oedd eu "Siambr gladdu Llandudno" ond wedyn cofiais am enw 'r heneb dan sylw: gweler Llety'r Filiast! Fe allai hyn fod yn broblem gyda sawl heneb arall ar eu rhestr hefyd. Oes rhaid iddyn nhw fod mor anwybodus? "Cadw"'r henebion fel creiriau archaeolegol sych ond taflu ein tradoddiadau a'r iaith ei hun i'r domen sbwriel? Gwarthus (ac mae'n creu problemau i ni...). Anatiomaros 21:55, 9 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
ON Sylwer: mae gennym ddau gategori perthnasol yn barod, sef Categori:Cromlechi Cymru a Categori:Siambrau claddu. Dwi wedi creu'r categori:Carneddau cynhanesyddol Cymru a rhiant-gategori iddo. Anatiomaros 22:21, 9 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno; os y down ar draws heneb pitw bach, yna fe allwn ddileu'r erthygl. Mi drafodais uno rhai henebau cyfagos uchod, mae hynny'n beth rhesymegol i'w wneud. Mi wna i gywiro'r gweddill fory neu drenydd. Am rwan, gyfaill, nos da! Llywelyn2000 23:11, 12 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Iawn. Cofia chwilio am yr enwau yn gynta hefyd achos dwi wedi gorfod ailgyfeirio dwy erthygl yn barod (Pant y Saer a Branas Uchaf - pam fod rhaid i Cadw ddewis ffurfiau fel "Branas-Uchaf" mor aml, gyda'r hyphen diangen?). Rwyt ti'n taro'r rhain allan mor gyflym fedra'i ddim dal i fyny! Gormod o waith i fynd trwyddynt i gyd heno. Nos da! Anatiomaros 23:18, 12 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Unrhyw beth i'w newid / ychwanegu ar Croes Abaty Penmon O RAN TEMPLAD cyffredinol? Llywelyn2000 00:04, 17 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Wedi cael cipolwg brysiog a chywiro ambell beth (fel yr enw - priordy nid abaty, a hynny'n "swyddogol" - rhyfedd fod Cadw o bawb yn gwneud camgymeriad fel yna!). Mae'n hwyr las hefyd - chwarter wedi un! Digon am heno? Byddaf yma fory, gobeithio. Anatiomaros 00:16, 17 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am dy help: mi arbedith lawer o amser yn y dyfodol! Nos da! Llywelyn2000 00:18, 17 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Oriel luniau[golygu cod]

Ciao Anatiomaros. Nella pagina di IMMAGINE&POESIA (che ci hai aiutato a creare) ho pubblicato una Galleria delle Immagini= Oriel luniau, ma le "captions" sono in inglese. Si possono lasciare così oppure ci puoi aiutare a tradurle ? Grazie e saluti dall'Italia--Aeron10 16:25, 9 Hydref 2010 (UTC) PS: Qual è l'origine del tuo nome?[ateb]

Ciao Aeron, come sei? Good to hear from you again. I've translated the gallery for you. Interesting artworks. You ask what is the origin of my name. It's the title of a poem by T. Gwynn Jones and is a reconstructed Gaullish name meaning "great soul" (anatio > modern Welsh enaid "soul" + maros > modern Welsh mawr "great, big"). Not a very modest user name perhaps, but I like it (and the poem!). Ciao, Anatiomaros 21:37, 9 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Ciao Grande Anima. Ti ringrazio tantissimo: sei stato gentile e helpful come sempre. Ciao--Aeron10 05:04, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Norwegian chocolate[golygu cod]

Diolch. Pity though. Deb 17:18, 15 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Yes, might have been better to turn it into a readable article. Still, we are getting a lot of things dumped here for us to (re-)translate lately so I can understand the reaction. Anatiomaros 17:22, 15 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Neges e-bost[golygu cod]

Shwmae! Er gwybodaeth, dw i wedi danfon neges e-bost atat, jest rhag ofn iddo fynd i'r Blwch Sothach ;) Pwyll 18:47, 18 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Helo! S'mai? Dwi newydd ddad-wneud llawer o 'gyfraniadau' an-adeiladol a sarhaus gan Defnyddiwr:No, gan gynnwys ei rwystro am flwyddyn. Y broblem oedd yn rhaid imi ddad-wneud y cyfraniadau â llaw; oes ffordd o ddileu cynnwys a ychwanegwyd gan ddefnyddiwr yn ôl y defnyddiwr? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:29, 21 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

S'mae Glenn. Hyd y gwn i does dim modd gwneud hynny. O leia dwi erioed wedi gweld gweinyddwyr ar wicis eraill yn wneud o. Buasai bot yn medru gwneud y gwaith ond mi fasa'n fwy o drafferth nag mae'n werth oni bai fod lot iawn o olygiadau (byddai perygl hefyd o ddadwneud golygiadau dilys a wneid ar ôl y fandaliaeth). Gwaith llaw ydy'r unig ddewis felly, hyd y gwn i. Os oes golygiadau sy'n cynnwys rhegi a.y.y.b. cofia fod modd eu cuddio gan weinyddwyr (gw. Cyfraniadau'r defnyddiwr: dangos/cuddio), ond anaml iawn dwi'n gwneud hynny. Anatiomaros 18:37, 21 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Sgwrs:Castell Du Llandeilo[golygu cod]

Cym olwg ar Sgwrs:Castell Du Llandeilo os gweli di'n dda. Llywelyn2000 17:34, 24 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

170 erthygl yn Categori:Cestyll mwnt a beili Cymru. Nefoedd wen! Anatiomaros 00:11, 26 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Ond, gobeithio bydd dim rhaid wneud hyn gyda'r cyfan bron: rwan mae gennym 127 o gestyll yn Categori:Cestyll Sir Gaerfyrddin! Anatiomaros 00:16, 26 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

cyfeiriadau[golygu cod]

Darganfuais i sut i ddefnyddio'r un cyfeiriad sawl tro mewn erthygl - gwela fy newidiad i'r erthygl am S4C. Disgrifir yma: [1]. Mae'n ymddangos bod 'na lawer o dudalenni cymorth am ddewiniaeth dechnegol ar y wefan Saesneg. Nain Nain Nain 17:44, 26 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr. Dwi wastad yn anghofio'r "fformiwla" yna - ac eraill mwy cymhleth fel y nodyn:Dyf gwe! - neu dwi ar ormod o frys wrth sgwennu erthyglau. Anatiomaros 19:48, 26 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Technoleg![golygu cod]

Dwi'n cael lot o helynt gyda'r cyfrifiadur yn ddiweddar, a dyna pam dwi ddim wedi cyfrannu ers wythnos bron. Arbenig o ddrwg ar lein - rhewi bob munud, crashio ayyb. Mae'r hen gyfrifiadur druan yn perthyn mewn amgueddfa erbyn hyn a bydd rhaid i mi gael un arall cyn bo hir. Os dwi'n diflannu'n ddirybudd am wythnos arall felly mi wyddoch be fydd yn digwydd (drap, a'r Dolig ar y gorwel hefyd, fel tasa 'na ddim digon i wario arno yn barod!). Anatiomaros 21:24, 29 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Tunisia[golygu cod]

You're right. I've heard scarcely anything about it on the news. Deb 21:44, 5 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Yes, it's incredible really. A lot of people have commented about that on the web. Also there's this today by a Dutch MEP: [2]. I mean, "friend of the West" or not, this guy's government is flagrantly denying human rights, kidnapping and beating up leading lawyers, practising blanket censorship and even hacking Facebook and google. Also, the fact that Anonymous has responded by bringin down practically every official Tunisian website should be making the news: in Tunisia it's a revolt on the street and even in the classrooms and the wider story is internet censorship and "cyber warfare" on a scale never seen before. Seems to me they just don't want people to know! Anatiomaros 21:56, 5 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]
PS: Silent protest ; Not-so-silent protest. Anatiomaros 22:02, 5 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Sgwrs:Artur Balder[golygu cod]

The deletion because of spam campaign was considered mistaken by english, german and spanish wps. Please check the references. It is very easy to provide a simple translatation and match the international references. --Lolox76 20:24, 14 Ionawr 2011 (UTC)

I have reverted your edit. I don't care about whether this gentleman deserves an article or not - this is the WELSH-language Wikipedia. Do not dump a page of English text here expecting us to translate it. And please don't try using GoogleTranslate either. We have plenty of work to do already: we are not a free translation service for spam posts. Anatiomaros 22:33, 14 Ionawr 2011 (UTC)

You cannot delete my opinions on this site, first. You may have your own criteria, but you cannot call spam post other accepted articles. --Lolox76 16:15, 15 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

I'll repeat what I said on the talk page: I don't care about whether this gentleman deserves an article or not - this is the WELSH-language Wikipedia. Do not dump a page of English text here expecting us to translate it. And please don't try using GoogleTranslate either. We have plenty of work to do already: we are not a free translation service for spam posts.
This has nothing to do with "your opinions". We do not accept articles in languages other than Welsh. You must surely expect the same response if you create an article in English on any other wikipedia edition other than the English-language one. Just dumping the text here and expecting us to do all the work of translating it so we have an article on a minor author who's noteworthiness has been questioned is 'spam' as far as we are concerned regardless of the eligibility of the author for an article - and that is not "my own criteria" but the criteria of this wikipedia. Anatiomaros 16:39, 15 Ionawr 2011 (UTC)[ateb]

Helo ers tro byd! Sut mae? Hoffwn gael eich mewnbwn i'r pwnc uchod, os gwelwch yn dda :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:08, 22 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]

Hi, some pieces of news![golygu cod]

Hello, I hope you are doing fine. Sorry I don't remember the few words in Welsh I knew before. When I won't be in such a hurry I promise to learn more. I am a bit worried since you don't seem very active lately, I hope you have no problems. We recently made an event about minorized languages in Perpinyà and I wish we could have had some Welsh people there, but the organization happened too fast and our resources were scarce. My mail here is mainly to inform you that I resigned from Amical since the Association has been recently threatened and attacked juridically and that none there is willing to get out of the "nice guy" mode... On the other hand, my actions should not damage Amical's credibility or projects so it is better this way, I take the whole responsibilities of it and I am willing to pay the consequences alone. Take care my friend, I wish you, your country, your language and culture all the best. Bye, Claudi/Capsot 09:02, 22 Mawrth 2011 (UTC)[ateb]

Enaidmawr[golygu cod]

Sh'w mae Enaidmawr. Dere'n ôl fan 'ma yn fuan a dere'n ôl i Wikipedia Saesneg hefyd. Paid â rhoi ffidl yn y tô, plîs. Mae'r peth 'ma yn rhy bwysig. Ond beth bynnag, pob hwyl byt, Daicaregos 09:53, 23 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]

Ffeiliau[golygu cod]

Gweler eich tudalen sgwrs Defnyddiwr:Enw defnyddiwr/Ffeiliau am ragor o wybodaeth. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:48, 24 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Fferyll[golygu cod]

O ble gefaist ti'r gwybodaeth am eirdarddiad fferyllfa? Mae'n diddorol iawn ond 'dwi methu dod o hyd i mwy o wybodaeth. Mi glywais yr un stori o ffrind, ond nid oes tystiolaeth ganddo. Diolch, Stifyn 11:40, 22 Gorffennaf 2011 (UTC)[ateb]

Mohamed ElGedawy → محمد الجداوي[golygu cod]

Hi, I want to change my name from: "Mohamed ElGedawy" to: "محمد الجداوي", Because i have changed my username on many wikipedias.--Mohamed ElGedawy 06:48, 14 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Hi Anatiomaros. Have you got any information on M.L. Williams? The full name and especially the year of death would be interesting. If possible I would like to move the image to Commons. --Leyo (sgwrs) 16:20, 7 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]


Beth ydy hon yn gymraeg? ClunBianchi-Bihan (sgwrs) 09:07, 5 Mai 2012 (UTC)[ateb]

Faint o bobl yn byw? Bianchi-Bihan (sgwrs) 09:20, 4 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Angen Help i Ddileu Tudalen Llun[golygu cod]

Plis gallwch chi helpu fi drwy ddileu y dudalen hon, http://cy.wikipedia.org/wiki/Delwedd:Neuadd_Ysgol_Dyffryn_Ardudwy.JPG , Dim syniad sut i'w wneud fy hun ac gallwch weld fod yna lun 'dwi wedi'w uwchlwytho yn ddamweiniol yna. Diolch, Tom.

Hi, sorry for writing in English. I'm writing to ask you, as a bureaucrat of this wiki, to translate and review the notification that will be sent to all users, also on this wiki, who will be forced to change their user name on May 27 and will probably need your help with renames. You may also want to help with the pages m:Rename practices and m:Global rename policy. Thank you, Nemo 12:59, 3 Mai 2013 (UTC)[ateb]


Croeso! Croeso! Croeso![golygu cod]

Bu'n ddwy flynedd a hanner hir ac oer hebot, rhen gyfaill! Croeso'n ôl!!!! Torrodd gwawr newydd, eilwaith! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:33, 13 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Diolch, gyfaill! Mae dy waith yma wedi bod yn arwrol. Anatiomaros (sgwrs) 19:47, 13 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Croeso yn ôl! Deb (sgwrs) 20:26, 13 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Diolch! Anatiomaros (sgwrs) 20:51, 13 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Sai'n brysur yma lot y dyddiau yma, ond ie - croeso nôl :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:31, 17 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Diolch Glenn! Braf clywed dy fod yma o hyd. Anatiomaros (sgwrs) 21:20, 21 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Croeso! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:09, 1 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr! Sut mae pethau ym Maesygarnedd y dyddiau hyn? Anatiomaros (sgwrs) 21:40, 2 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Dau beth.[golygu cod]

Helo.

  1. Rwyf newydd symud fy erthygl gyntaf o Gymru i i'r mainspace. Nid wyf wedi ychwanegu unrhyw cyfeiriadau fel ar hyn o bryd mai dim ond rhai Saesneg ac nid wyf yn deall safbwynt y Wicipedia o ddefnydd o gyfeiriadau Saesneg.
  1. Dim ond bugging am os ydych yn gweld fy swydd yn y Caffi am IRC / Freenode.

Unrhyw ymateb i'r un pwynt yn cael ei werthfawrogi'n fawr. John F. Lewis (sgwrs) 22:25, 16 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Helo John a diolch am y neges. Am eich pwynt cyntaf, mae croeso i ddefnyddio cyfeiriadau Saesneg os nad oes rhai Cymraeg ar gael (sefyllfa sy'n digwydd yn aml iawn am fod y Gymraeg yn un o'r ieithoedd llai). Mae ieithoedd cyfarwydd fel Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg etc yn iawn hefyd os nad oes dewis arall.
Dwi ddim yn siwr fy mod yn deall eich ail gwestiwn. Os ydych chi angen cymorth mae croeso i chi ofyn i mi neu yn y Caffi.
Wel, mae'n mynd yn hwyr - hanner nos bron - felly Nos Da a Hwyl am rwan! Anatiomaros (sgwrs) 22:51, 16 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
Helo, yr ail bwynt yn unig oedd yn gofyn a ydych wedi gweld hawn eto. John F. Lewis (sgwrs) 14:14, 17 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
Aha! Dwi'n deall rwan. Syniad da iawn. Diolch i ti! Anatiomaros (sgwrs) 22:01, 17 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Arbed gwaith[golygu cod]

Sylwf i ti fod yn gosod nodyn 'eginyn' ar ddegau o erthyglau (Swydd Cumbria). Mae gan Llywelyn2000 bot a all wneud gwiath ailadroddus fel hyn mewn chwinciad.--Rhyswynne (sgwrs) 21:53, 19 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Syniad da. Dechrau gwneud hynny ar ôl creu'r nodyn eginyn wnes i. Wedi dweud hynny, y bot sy wedi rhoi bron y cyfan o'r 7,000+ o erthyglau yn y categori 'Pentrefi Lloegr' ac 'eginyn Lloegr' yn y lle cyntaf felly mae'n ddigon teg ei fod yn gwneud y gwaith diflas o'u cywiro! (Gwych cael yr erthyglau, er hynny!). Anatiomaros (sgwrs) 22:03, 19 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Interesting pictures for Commons[golygu cod]

Dear Anatiomaros,
I am working on contents related to Tunisia on Wikimedia projects and remarked some of your pictures:

I would like to load them on Wikimedia Commons so they could be used by other projects as well. However, they do not have any license. Would you be OK to add one, like CC-BY-SA? Regards, Moumou82 (sgwrs) 11:03, 14 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

I'll do better than that, Moumou82, I'll upload them to Commons myself later on (I have an account on Commons with same user name, although its some time since I last did much there). I thought I had already transferred most of my files here to Commons but it seems I had forgotten about these; thanks for reminding me!
PS Etes-vous tunisien? Anatiomaros (sgwrs) 17:33, 14 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Thank you for your response! Can you please leave me a message here when you upload these pictures from Tunisia? And to answer your question, I am half-Tunisian, half-Swiss. Moumou82 (sgwrs) 17:49, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Merci beaucoup !! Moumou82 (sgwrs) 17:44, 17 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Croeso! (De rien!). Anatiomaros (sgwrs) 17:45, 17 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Username change[golygu cod]

Bore da, could you please change my account's name from user:Gleb Borisov to user:Glossologist so that I can merge it with the SUL? Here's the confirmation of identity. --Gleb Borisov (sgwrs) 23:24, 17 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Hello Gleb. Unfortunately I can't rename your account as it seems that you - or someone else - have already created the account you want to change it to (user:Glossologist). I think it could be redirected but that's the best I can do, it seems (the software decides!). Anatiomaros (sgwrs) 23:36, 17 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Before doing that you should move Glossologist to something else, e.g., Glossologist-usurped, to vacate the space. Then it will work. --Gleb Borisov (sgwrs) 23:49, 17 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
I've renamed the account(s) as requested. Hope everything's alright now. Anatiomaros (sgwrs) 20:13, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Darkicebot[golygu cod]

Could you please remove the bot flag from my bot, User:Darkicebot please? He is not going to be active. Thanks, Razorflame (sgwrs) 00:59, 25 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 05:49, 25 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Llenwi'r bylchau[golygu cod]

Wedi'r holl waith ar y Cymunedau, dw i am fynd gam ymhellach a llenwi'r bylchau efo gweddill y pentrefi sydd eu hangen. Cymer olwg ar Defnyddiwr:Llywelyn2000/Rhestr trefi a phentrefi yng Nghymru; Os wyt yn dymuno mi wna i ddanfon dolen i Gwgl doc, neu'n well byth at y feil Excel (er mwyn cadw'r acen grom). Mae llawer iawn o'r gwaith ar ein trefi a phentrefi wedi'i wneud gen ti. Wyt ti gem? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:51, 31 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Pam lai? Mae'n syniad gwych ond dydwi ddim yn meddwl fod gen i'r amser na'r amynedd i wirio rhestr o holl bentrefi Cymru - sy'n dipyn o dasg a deud y lleia! Beth am ddechrau gyda chreu tudalen Wici ar gyfer pob sir, e.e. 'Rhestr trefi, pentrefi a chymunedau Sir Ddinbych'? A fydda hynny'n fan cychwyn mwy cyfleus, efallai, ac yn galluogi pawb i ymuno yn y dasg? Anatiomaros (sgwrs) 16:44, 31 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Mae'r system dw i'n ei hystyried yn caniatau hyn, fel y gweli ar: Defnyddiwr:Llywelyn2000/Rhestr trefi a phentrefi yng Nghymru. Y gwaith mawr a llafurus (amcangyf: 3 diwrnod) yw golygu / newid enw iawn y gymuned i enw Wici ee Llannon -> Llannon, Sir Gaerfyrddin. O wneud hyn gallem lenwi bwlch enfawr o dros mil o gymunedau coll. Cymer olwg hefyd ar Sgwrs Defnyddiwr:Cloddiwr. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:03, 4 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Sefydliadau[golygu cod]

Diolch! Deb (sgwrs) 07:23, 1 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Dim prob! Anatiomaros (sgwrs) 18:58, 1 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Gorll Essex -> Dwyrain[golygu cod]

Wedi beni! (gobeithio)! ar frys i'r cyngerdd... Llywelyn2000 (sgwrs) 17:51, 2 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Gret! Dwi ar frys i gael fy nghinio hefyd. Mwynhea'r gyngerdd! Anatiomaros (sgwrs) 18:07, 2 Awst 2013 (UTC)[ateb]

deaf sicilian[golygu cod]

ciao, mi capisci l'italiano? --SurdusVII (sgwrs) 16:40, 6 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Ciao SurdusVII. Solo poco, di livello semplice! Anatiomaros (sgwrs) 16:53, 6 Awst 2013 (UTC)[ateb]
ok io sto cercando delle voci della Comunità Sorda (gymuned fyddar) ma vedo che ci sono solo 2: Iaith Arwyddo Brydeining e Iaith arwyddo! --SurdusVII (sgwrs) 16:54, 6 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Si, ma Wici Cymraeg é piccolo, non grando, sfortunatamente! (Sorry my Italian is very limited - ok for reading a little but not for writing very much). Anatiomaros (sgwrs) 17:12, 6 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Translation request English -> Welsh[golygu cod]

Hello Anatiomaros, I saw you are an active user on this Wikipedia. Next month we organize Wiki Loves Monuments (also in Wales) and we would like to translate the templates/etc for that into Welsh so that more people can participate in their own language. For that purpose I wrote on Wicipedia:Y_Caffi#Wiki_Loves_Monuments_in_Wales:_Welsh_translations_needed with a request to translate some lines. Maybe I didn't wrote it on the right place but can you have a look at it for me and translate it? Thanks! Romaine (sgwrs) 17:18, 13 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Okay, Romaine, I'll have a look later on (nearly time for dinner and I've something to write here as well). If it's only a few lines there's no problem but if there's a lot perhaps others could help. Regards, Anatiomaros (sgwrs) 17:27, 13 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Sorry about the delay but I've been busy elsewhere. Also, there's a couple of questions regarding correct terminology for which I've asked a fellow Wikipedian, who is more involved with the competition than I am, for his advice before translating. Anatiomaros (sgwrs) 22:53, 14 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Hi, dear Anatiomaros, how are you?

I would like to thank you very much, because you helped this page I made about this wonderful actress. I would like to ask you if I can ask your precious help to make another nex page in Wiki.CY, please.

I can help you to make a page in Italia, Portuguese, or Lumbaart.

Thanks again

Rei Momo (sgwrs) 22:29, 25 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Ciao Rei and croeso. Perhaps I could do that tomorrow or next day, but not tonight as its late and my time is limited. What article had you in mind? Not too long, I hope? Anatiomaros (sgwrs) 22:43, 25 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Sure, not too long...[golygu cod]

Sure, my dear friend Anatiomaros. Not too long, and I think easy, because it will have somtehing to see with benedicta. I'll make and take your time to read it and correct.

GRAZIE MILLE - THANK YOU SO MUCH!

Rei Momo (sgwrs) 13:06, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Brigitta Boccoli ... as I promised, not too long!!![golygu cod]

And now take your time, and GRAZIE MILLE for your precious help!

Rei Momo (sgwrs) 13:22, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]

 Cwblhawyd
Prego! No, not too long and very little to correct. Da iawn, Rei! Anatiomaros (sgwrs) 17:07, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Thanks a lot, my new friend! Rei Momo (sgwrs) 21:23, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Wicidestun[golygu cod]

Pa hwyl gyfaill? Rhag ofn i ti ei fethu, a gan ei fod yn arswydus bwysig: wnei di lanhau ychydig o'r categoriau ayb ar Wicidestun? Disgwyl pethau gwych i ddyfod... Llywelyn2000 (sgwrs) 18:03, 9 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Pa gategoriau yn union? Ydy hyn yn ymwneud â'r adolygiadau Gwales? Dwi'n dechrau drysu braidd! :-] Anatiomaros (sgwrs) 18:20, 9 Medi 2013 (UTC)[ateb]