Sgwrs Categori:Trefi Sir Gaerfyrddin

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae cadw rhestr o drefi ac yna o bentrefi arwahan yn creu problem yn fy marn i. Sut y penderfynnir beth sydd yn dref a beth sydd yn bentref. Braidd yn fympwyol fydd y gwahanaieth yn aml yn fy marn i. Dyfrig 23:56, 27 Gorffennaf 2006 (UTC)[ateb]

Ac hefyd yn fy marn i. Byddai'n well gen i gyfuno'r categorïau "Trefi X" a "Pentrefi X". Daffy 20:11, 3 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Cytunaf hefyd. Dydwi ddim wedi dechrau newid nhw hyd yn hyn achos fod cymaint o waith i'w wneud. Ond mae'n wir, sawl gwaith dwi wedi pendroni wrth greu tudalen newydd - "ai tref ta' pentref di hyn?". Roedd yr un peth yn wir yn achos y bryniau a'r mynyddoedd ond da ni wedi uno'r ddau hen gategori erbyn hyn. Beth am rannu'r gwaith rhyngom ni? Dwi'n cynnig gwneud Gwynedd a Chonwy (digon fan 'na) dros y dyddiau nesaf. Anatiomaros 20:51, 3 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]