Sgwrs Categori:Rheilffyrdd Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

'Leiniau' sydd wedi cau[golygu cod]

Mae defnyddiwr newydd wedi cyfieithu erthygl am Lein Amlwch ac es i'w roi mewn categori, ond ar dudalen Categori:Rheilffyrdd Cymru, mae'n ymddangos fel rhestr o reilffyrdd bach presennol Cymru. A ddylid creu is-gategori i linellau/rheilffyrdd sydd wedi cau? Dwi'n gwybod yn iawn sut i wneud hyn fy hun, ond ddim yn siwr ydw i a ddylid gwahaniaethu rhwng 'lein' a rheilffordd + oes gair gwell na lein i'w gael (fel gofynnwyd uchod)?--Ben Bore 11:29, 2 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Cwestiwn da. Dwi wedi gadael sylw ar Sgwrs:Lein Amlwch. Anatiomaros 15:19, 2 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Ar y mater o 'lein' yn hytrach na 'rheilffordd', tydy Arriva ddim yn gyson iawn (cymharer lein y Gororau gyda Rheilffordd Calon Cymru), ond nid yw eu gwasanaeth Gymraeg yn un heb ei ail, chwaith. Fe fyddwn i'n cynnig y diffiniad technegol isod:

  • Mae rheilffordd yn cyfeirio at lwybr neu rwydwaith rheilffordd sydd yn endyd cyflawn a redir gan un cwmni.
  • Mae lein yn cyfeirio at lwybr rheilffordd sydd yn randdarn o rwydwaith fel yr uchod.

Ond y gwir ydy fod y termau am gael eu defnyddio'n anghyson, ac y byddai'n anodd ceisio gwahaniaethu ar hyn.

O ran is-gategorïau, Fe fyddwn i'n awgrymu fod lle i:

  • Rheilffyrdd Cyhoeddus
  • Rheilffyrdd Treftadaeth
  • Rheilffyrdd Diwydiannol
  • Rheilffyrdd sydd wedi cau

Nid oes rhaid i'r rhain fod yn gyd-anghynhwysol. Ansbaradigedfran 20:51, 6 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Diolch am yr ymateb. Dwi dal heb fod yn siwr iawn am 'lein' yn lle 'rheilffordd' ond mae'r syniadau am enwau categori yn gwneud synnwyr. Dwi'n hapus i gadw 'Lein Amlwch' os dyna di'r enw yn lleol, ond fel ti'n ddeud mae 'na anghysonderau mawr. Dwi ddim yn meddwl fod rhaid i reilffordd gael ei rhedeg gan un cwmni i fod yn "rheilffordd", e.e. mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn fwy safonol na "Lein Gogledd Cymru", yn fy marn i. Ond 'ta waeth am hynny - cael yr erthyglau i mewn sy'n cyfri! Anatiomaros 21:12, 6 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]
Diolch i chithau hefyd am y cefnogaeth. Dwi'n cytuno fod "Rheilffordd Arfordir..." yn well na "lein" o bell ffordd, ac y dylai defnyddio "rheilffordd" lle nad ydy arfer yn dweud yn groes. Dwi newydd sylwi ar wahaniaethun (ydy hynny'n air?) arall hefyd sy'n ymddangos yn ddilys yn y Gymraeg. Mae "Lein Amlwch" yn enwi cyrchfan ar y llwybr, tra fod "Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru" yn disgrifio'r ardal lle mae'r rheilffordd. Gallai "Lein Caergybi" ei ddisgrifio hefyd, os yn siarad o gyd-destun Caer (er nad ydw i erioed wedi gweld y term yma mewn defnydd).
Ond mae hyn yn brysur troi i fewn i ymarfer ieithyddol. "Rheilffordd" bob tro gynigwn i, ac eithrio pan "lein" yw'r enw adnabyddedig.Ansbaradigedfran 20:56, 8 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno. Mae'n rhy hawdd symud mewn cylchoedd heb gyrraedd y nod! Gyda llaw, os ydych chi am greu'r categorïau uchod, rhowch 'Rheilffyrdd cyhoeddus' (llythyren fach) etc yn lle 'Rheilffyrdd Cyhoeddus', er mwyn cysondeb gyda'r enwau categori eraill. Diolch eto. Anatiomaros 22:02, 8 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]