Sgwrs:Ysgrifennwr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi heb siecio'r dolenni rhyngwici, ond mae'r enw Ffrangeg écrivain yn cyfateb i'r gair llenor yn Gymraeg. Mae'r gair Saesneg writer yn fwy amwys, wrth gwrs, ac yn cyfateb i'r gair 'ysgrifennwr' (h.y. does dim rhaid i'r gwaith a sgwennir fod yn llenyddiaeth o safon). Dyna ffodus rydym ni i gael y gair 'llenor' yn y Gymraeg, i osgoi'r amwysedd! Ond mae'n creu problem bach gyda'r dolenni rhyngwici achos yr un rhai fydd wrth yr ethygl 'llenor' (pan ddaw!). Dwi ddim yn siwr be i wneud gyda 'awdur' chwaith... Anatiomaros 18:52, 22 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Hmm, ie... dwi'n gweld y broblem... a dw i wir ddim yn siwr sut mae delio 'da hynny... Fe adawa i'r penderfyniad yn dy ddwylo medrus di! Wele'r 'byc' yn cael ei basio! (Sori!) Rhodri77 19:02, 22 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Diolch (?!). Yn bendant mae angen 'llenor' fel erthygl ar wahân, beth bynnag achos mai llenor yn fwy nag ysgrifennwr (er ei fod yn un hefyd, wrth gwrs) a dydi pob ysgrifennwr ddim yn llenor (sgwennwr colofn papur newydd etc.). Nes ymlaen, efallai. Rwan, i bwy fedra'i basio'r 'byc' ymlaen....? Anatiomaros 19:17, 22 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]