Sgwrs:Yr Oesoedd Canol

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pam mae hon pictiwr yn yr erthygl? /CrossOfDalriada 19:07, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Cwestiwn da! Llywelyn2000 22:27, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Erthygl arall sydd angen ei hailwampio yn drylwyr - ond mae'n dasg anferth os am wneud cyfianwder â'r cyfnod ac ystyried cymaint o bethau sydd i'w crybwyll ym mhob maes, gwlad a rhanbarth - hanes, crefydd, llenyddiaeth, teyrnasoedd, athroniaeth, pensaerniaeth, celf ayyb. Be fedra'i ddeud am y llun ond - ia, hollol?! Anatiomaros 22:34, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Wedi rhoi map yn lle'r llun, am rwan... Anatiomaros 22:44, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Dyna gychwyn! Roedd gymaint o gywdel, i mi benderfnyu peidio a chychwyn heno! Ond mi ymosodwn ar hon yn reit fuan. Llywelyn2000 22:50, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Roedd yn anobeithiol o wael i ddechrau. Wnes i fymryn o waith arni hydoedd yn ôl - yn hwyr yn y dydd, fel arfer! - a'i gadael wedyn. Ond lle i ddechrau? Adrannau bychain ar bob maes efallai - braslun o hanes (phew - 1,000 mlynedd a channoedd o deyrnasoedd mewn 1,000 o eiriau!), adrannau ar gelf, hanes crefydd ac athroniaeth, llenyddiaeth, economi a masnach... Mae dyn yn tueddu i anghofio mor wael yw rhai o'n prif erthyglau am ein bod yn canolbwyntio ar bethau haws i'w sgwennu, yn naturiol (oes rhywun yn teimlo fel esbonio i'r byd a'r betws beth yn union ydy Athroniaeth, yn ei holl agweddau ac ym mhob cyfnod, er enghraifft?). Fesul donc...! Anatiomaros 23:06, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Alla i ddim siarad Cymraeg yn dda, wrth reswm... mae ddrwg gen i. Diolch yn fawr achos y atebion! /CrossOfDalriada 22:55, 6 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Croeso, a diolch am dynnu ein sylw at hyn. Yn sicr mae angen ei gwella - mae'n gwestiwn o gael yr amser i wneud popeth yr hoffem ei wneud. (You're welcome, and thanks for bringing this to our attention. It certainly needs improving - it's just a question of finding the time to do everything we'd like to do.). Anatiomaros 23:08, 6 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr. /CrossOfDalriada 19:04, 7 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Oesoedd Canol neu Ganol Oesoedd?[golygu cod]

Yr Oesoedd Canol sydd gan Geiriadur yr Academi yn gyntaf (3ydd yw y Caol Oesoedd). Felly hefyd Geiriadur y Brifysgol - nad yw'n ystyried y Canol Oesoedd o gwbwl. Cadw fel ag y mae felly, mwn. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:29, 27 Mai 2016 (UTC)[ateb]