Sgwrs:Ynysoedd y Falklands

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

"Falklands"=gaer Saesneg, "Malvinas"= gaer Spaeneg. Beth am gaer Cymraeg, am yr ynsoedd? 00:54, 29 Rhagfyr 2011‎ 31.100.252.92

Wel, mae'r British Legion yn defnyddio "Ynysoedd Falkland" yma, ac mae'r BBC yn defnyddio "Ynysoedd y Falkland" yma. Dyw hwn ddim yn ateb dy gwestiwn, ond efallai yn dangos cyfeiriadau? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:53, 29 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]
Ceisiodd defnyddiwr anhysbys gael gwared ar yr enw "Ynysoedd Malvinas" heddiw, gan ddweud, "Nid ydy'r enw Malvinas neu fachigyn yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg." Mi wnes i dadwneud y golygiad, gan ddweud: "Efallai nad yw "Ynysoedd Malvinas" yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru. Ond mae yna siaradwyr Cymraeg yn yr Ariannin. Mae hyn yn rhywbeth y dylid ei drafod yn y Sgwrs cyn tynnu'r enw." Felly dyma fi yn ei sgwrsio. Mae Atlas Cymraeg Newydd , ein ffynhonnell arferol ar gyfer enwau daearyddol yn defnyddio "Ysdd. Falkland/Malvinas (D.U.)" fel label ar t.75, ac yn y mynegai "Falkland, Ysdd. (Malvinas)" a "Malvinas = Ysdd. Falkland". Mae'n ymddangos i mi felly y dylid newid enw yr erthygl o "Ynysoedd y Falklands" i "Ynysoedd Falkland" a newid "Ynysoedd Malvinas" i "Malvinas" yn syml. Bid siŵr, mae "Ynysoedd Falklands" yn gwneud mwy o synnwyr nag "Ynysoedd y Falklands", fel roedd Xxglenxx yn awgrymu 10 mlynedd yn ôl. Craigysgafn (sgwrs) 10:09, 5 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]
O roi "Ynysoedd Malvinas" yn Google, daw ambell i ganlyniad annisgwyl, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, côr meibion, papur bro a hyd yn oed Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymruǃ Mae BydTermCymru (Llywodraeth Cymru) yn ffafrio 'Ynysoedd Falkland', ac yn nodiː Gellid defnyddio'r ffurf "Malvinas" yn Gymraeg pe cyfyd y ffurf honno yn y testun Saesneg, ond dylid bod yn ofalus â sensitifrwydd gwleidyddol yr enwau. Felly dwi'n cydfynd â chynnigion Craigysgafn. --Rhyswynne (sgwrs) 17:19, 5 Ionawr 2022 (UTC)[ateb]