Sgwrs:Ynysoedd Solomon

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw Cymraeg[golygu cod]

Diolch am greu'r erthygl, ond dwi'n meddwl fod 'Selyf' yn ddewis hen-ffasiwn ac anghyffredin ar gyfer yr enw. Mae'n wir fod 'Selyf' yn hen ffurf Gymraeg ddigon parchus am 'Solomon', ond prin fod llawer o bobl yn ei ddefnyddio heddiw (gan gynnwys y Beibl Cymraeg Newydd). Dwi wedi googlio am 'Ynysoedd Selyf' a dim ond tair enghraifft a ddaeth i fyny, i gyd o'r wiki Cymraeg. Ar y llaw arall mae 'na 815 enghraifft o 'Ynysoedd Solomon' ar y we. Dwi'n awgrymu ei newid i 'Solomon'. Anatiomaros 16:21, 3 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Dwi wastad o blaid defnyddio enwau Cymraeg neu addasu nhw i enwau lleoedd (nes i wneud yn siŵr bod ieithoedd eraill yn defnyddio fersiynau nhw ar "Solomon" am yr ynysoedd cyn defnyddio "Selyf"), hyd yn oed os ydyn nhw yn ffurfiau hynafol, ond byddai'n symud y dudalen gan fydd dim ond ychydig o bobl - os unrhywun - yn chwilio am neu adnabod "Ynysoedd Selyf". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:55, 4 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Mae 'Selyf' yn enw hyfryd ond meddwl am y defnydd mwyaf cyffredin o'r enw oeddwn i. Piti mewn ffordd, ond dyna fo... Anatiomaros