Sgwrs:Ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Niwtraliaeth[golygu cod]

Mae'n anodd weithiau, dwi'n gwybod, ond rhaid i ni geisio bod yn niwtral ac mae modd darllen enw'r erthygl fel un sy'n mynegi barn (mae'n wir bod fawr neb wedi cefnogi gweithred Israel, ond...). Dwi'n awgrymu symud hyn naill ai i 'Gwrthwynebiad yn erbyn ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010' neu, yn well efallai, 'Ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010'. Anatiomaros 23:33, 31 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Wedi ei symud i 'Ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010' er ei fod yn salach teitl! Llywelyn2000 00:07, 1 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Enw diflas o 'ddiogel', ond rwyt ti'n gwybod fel y mae rhai wedi cyhuddo ni yn barod o fod yn wrth-Israelaidd. Mae'r ffeithiau'n dweud y cyfan a'r cwbl sydd rhaid yw eu cofnodi. 'Mond awgrym oedd yr enw, ond diolch i ti am symud yr erthygl: "salach" ond "saffach" efallai? (dwi ddim yn siwr os gellir galw ymateb yr Unol Daleithiau yn "gryf" chwaith!). Anatiomaros 21:30, 1 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Oes gennym ni faner NATO yn rhywle os g yn dda? Llywelyn2000 21:41, 1 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Er syndod (neu ddim, efallai!) doedd gennym ni ddim ond roedd 'na un ar Gomin: Delwedd:NATO flag.svg. Dwi mond yn codi pum punt am y gwasanaeth bris arbennig hwn...  :~) Anatiomaros 21:54, 1 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Diolch Anat! Oes angen ei ailenwi? Llywelyn2000 22:01, 1 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Y dewis yw naill ai creu nodyn fel y rhai Alias baner gwlad (ond ydy hynny'n briodol gan nad yw NATO yn wlad?) neu, am rwan o leiaf, ei rhoi i mewn fel delwedd bychan 25px.
Gyda llaw, 'William Haig' = 'William Hague. Dim isio newid o fy hun rhag ofn dy fod yn gweithio ar yr erthygl. Anatiomaros 22:10, 1 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Gwych. Hwnna wedi ei wneud. Yr Haig arall oedd ar fy meddwl! Drosodd i ti, rwan... a nos da! Llywelyn2000 22:17, 1 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]