Sgwrs:Wiliam Mountbatten-Windsor

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Teitl[golygu cod]

Gawn ni symud hyn i William, Tywysog Cymru? Does neb yn cyfeirio ato fel Tywysgog Gwilym yn y Gymraeg. Daffy 17:31, 27 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno ynglŷn â William yn lle Gwilym. Dwi ddim yn siwr am ei deitl. Wedi'r cyfan gan ei dad y mae'r fraint o gael ei alw yn Dywysog Cymru, ond nid yw ei fab felly. Be di ei deitl swyddogol yn Saesneg? (Nid fod llawer o ots gennyf fi yn bersonol!). Anatiomaros 18:27, 27 Medi 2007 (UTC)[ateb]
O ie, mae ar y ddolen ryngwic : "Prince William of Wales." Anatiomaros 18:29, 27 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Newydd ddod ar draws hyn eto. Dyma'r canlyniadau ymchwiliad Google:
(Y) Tywysog Gwilym - 10 (ni)
Tywysog Gwilym o Gymru - 6 (ni)
Tywysog Wiliam ("o Gymru" neu beidio) - 1 (maes-e)
Tywysog William o Gymru - 7 (ni + 1 gwefan gan y llywodraeth)
Tywysog William (yn unig) - 210 (y.c. y BBC a nifer o wefannau safonol eraill)
Felly does NEB arall yn cyfeirio ato fel "Gwilym" (a does dim rhyfedd chwaith!). Dwi'n awgrymu symud hyn i Y Tywysog William. Anatiomaros 19:24, 2 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Neu William Mountbatten-Windsor (gw. hefyd Sgwrs:Tywysog Harri o Gymru). Anatiomaros 19:36, 2 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Byddai'n awgrymu William, Tywysog Cymru (a Henry, Tywysog Cymru) yn yr un modd â'r erthyglau ar frenhinoedd a brenhinesau. —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:43, 9 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Ia, buasai hynny'n well, ond yr unig broblem yw dydyn nhw ddim yn Dywysogion Cymru (Mae'r "o Gymru" am fod eu tad yn Dywysog Cymru). Ond yn bendant rhaid i "Gwilym" fynd. Mae nifer o'r wikpedias eraill yn defnyddio'r enw teuluol (gw. y dolenni). Anatiomaros 21:50, 9 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Yn bersonol dw i dros Tywysog William (yn unig). Os ydy hynny yn ddigon da i'r BBC mae'n ddigon da i fi Dyfrig 23:14, 9 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ymateb. Newydd dod yn ôl at hyn heddiw ar ôl sgwennu am Bethan Jenkins a'r Cwpan newydd. "Cwpan y Tywysog William" yw'r enw (er ein cywilydd ni) nid Gwilym na William of Wales etc. Os na cheir ymateb pellach dwi am symud hyn i Y Tywysog William heddiw. Anatiomaros 17:14, 24 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]