Sgwrs:Wica Celtaidd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rwy wedi glanhau iaith yr erthygl. Pa mor ynysig ydy Wica Celtaidd a'r mathau erall o Wica? Hynny yw, fydde un cwfen yn datgan mai 'Cwfen Wica Celtaidd' ydyn nhw tra bod un arall yn datgan mai 'Wica Gardneraidd' yw eu cred? Yn ail, onid ydy pob cwfen yng ngogledd-orllewin Cymru yn gwfanau Celtaidd NATURIOL gan eu bont wedi parhau yr hen draddodiad (Celtaidd) ers cenedlaethau - ac yn dal i wneud hynny'n naturiol cyn i Gardner gael ei eni? Llywelyn2000 06:18, 24 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

I ddweud y gwir, nid oes dim llawer o wahaniaeth rhwng pob Llwybr o Wica, jyst gwahaniaeth rhwng Cylchau ei hunain. Bydd Cylchau Celtaidd yn addoli Duwiau a Duwiesau Celtaidd, megis Arianrhod, Ceridwen, Dylan ail Don, a Gwydion ac ati. Ym, ni fyddaf yn deud bod Cylchau yn Ngogledd-Orllewin Cymru yn Gylchau Celtaidd naturiol, oherwydd os eu bod yn ymarfer WICA, wedyn bydden nhw'n jyst ymarfer Wica efo wynebweddau Celtaidd/Cymreig, oddieithr eu bod yn ymarfer Dewiniaeth Gymreig bur, a nid crefydd o gwbl. Ond ar y llaw arall, fyddaf yn deud eu bod yn fwy Geltaidd efo'u ymarferiadau oherwydd, fel dywedest, eu bod yn parhau efo hen draddodiad Celtaidd (efallai).
Diddorol. Oes 'na ambell gwfen (neu gylch, fel y dywedi) yn gwneud eu gwaith drwy'r Gymraeg? Byddai ychwanegiadau fel hyn yn ddiddorol i'r darllenydd, yn hytrach na jest cyfieithu o'r Saesneg. Hefyd, ydy'r traddodiad "Dewiniaeth Gymreig Bur" wedi parhau ers dyddiau'r Celtiaid - heb dorriad? Llywelyn2000 21:38, 28 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Wn i ddim os yw llawer o Gylchau'n ymarfer trwy'r Gymraeg. Ceir Cylchau yn llefydd fel Blaenau Ffestiniog, Sir Gâr, a Cheredigion, ond ni wn i os eu bod yn ymarfer trwy'r Gymraeg. Fi yw'r unig berson yng Nghylch fy hun sy'n siarad Cymraeg, felly weithiau dwi'n datgan bendithion yn ddwyieithog ayyb. Eto, wn i am y Ddewiniaeth Gymreig bur, oherwydd bod dewiniaeth yn rhywbeth personol iawn i bob un person, a fydd yn dibynnu ar yr ymarferydd. Dewiniaeth ydy dewiniaeth, jyst wedi'i hymarfer gan wahanol bobl yn gwneud gwahanol bethau / ymarferiadau. Gwnaf i ofyn yn ffrind, sy'n astudio gradd mewn crefydd ym Mhrifysgol, efo crynodiad ym Mhaganiaeth. ÔN, yn darddiadol, fydd dewiniaeth yn ymarferiad clywedol / llafar, felly efallai os yw'n parhau ers y Celtiaid gwreiddiol, wedyn ni fyddwn wybod oherwydd nid oedd llawer o bobl yn gallu ysgrifennu yn y dyddiau yna, sti?
Diolch. Hynod o ddiddorol. Mi fuasai rhestr gyflawn o enwau cylchoedd / cwfanau / ardaloedd yn werthfawr ar Wici, ond a oes rhestr ar gael? Llywelyn2000 22:19, 3 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Oes. Os cei di fan-hyn, gweli di holl fath o bethau ynglŷn â Phaganiaeth ddiweddar yng Nghymru. Os cei di fan-hyn, gweli di restr o Gylchau - ni yw "Cylch Golau'r Cysgod." Wiccan1 18:23, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Piti nad yw'n dweud a ydyn nhw yn y Gymraeg. A rhyfedd nad oes dim yn Ynys Mon. Yn drydydd, does yr un yn datgan eu bon nhw'n perthyn i'r Dynion Mwyn? Ond diddorol, hefyd. Llywelyn2000 18:43, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Pa un wyt ti'n golygu, Llywelyn? Ond na, does dim sôn oddi wrth unrhyw Gylch yn deud bod ganddynt berthnasau i'r Dynion Mwyn. Mi wnes i gysylltu â Mr. Roland Hutton, awdur o "The Triumph of The Moon" a safbwynt ysgolheigaidd o Brifysgol Rhydychen, a mi wnaeth o'm cyfeirio at "A History of Magic and Witchcraft in Wales", felly dwi'n bwriadu prynu hi'n fuan. Hefyd, cael ôl-olwg ar fy nodion, mae Teyrnon yn Dduw o Went Is-Coed. Diddorol, ond ni allaf ddod o hyd i unrhyw Dduwiau (neu Dduwiesau) eraill ar gyfer ardaloedd eraill. Wiccan1 16:22, 6 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Pa hwyl? Son am y rhestr (fan-hyn, ) y soniaist ti amdano roeddwn i. Doedd yr un cwfen yn datgan eu bont yn cynnal eu cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Dim sôn am Ynys Môn chwaith; rhyfedd. Mi gredais i erioed mai yno roedd gwrachyddiaeth Geltaidd yn ffynnu fwyaf? Sgrolia i lawr i waelod: Rhestr duwiau a duwiesau Celtaidd a mi gei griw da ohonyn nhw, efallai y bydd hynny'n help. Dwi'n siwr hefyd fod hanes gwrachyddiaeth Cymreig yn ddiddorol iawn; gobeithio y gelli gyfeirio ato yma ac acw. Llywelyn2000 22:08, 6 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Nag ydyn, sy'n drueni. Hefyd, (dyma lle daw'r wahanfur iaith), wyt ti'n golygu "moots" neu gyfarfodydd y Cylch / Cwfen? Oherwydd ym Mhaganiaeth, gall "cyfarfod" golygu "moot" neu "Coven meeting." Ha. Fy Nghylch fy hun yn rhedeg "moot" yng Nghasnewydd, ond trwy'r gyfrwng y Saesneg, oherwydd fi yw'r unig sy'n medru'r Gymraeg. Diolch am y ddolen ta waith Wiccan1 23:32, 6 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Croeso! A dwi'n hoffi dy Ddalen Defnyddiwr di. Lliwgar, gwladgarol iawn. Ia, son am iaith y cwfen oeddwn i; oes yna gylch cyfrwng Cymraeg? Llywelyn2000 00:13, 7 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Diolch, Llywelyn :D Roeddwn yn meddwl, "Wel, dwi fan hyn bron pob dydd, felly dyslaf dacluso a gwneud rhywbeth gyda fy nhudalen." Fel y rhain sy'n dysgu trwy'r Gymraeg? O'm gwybodaeth i - na, ond dwi wedi cwrdd â Chylchau o'r De'n unig, felly efallai eu bod yn byw yn y Gogledd neu Orllewin. Dwi wedi gosod neges ar fwrdd [www.druidry.org www.druidry.org] yn yr adran Gymraeg yn holi am Gylchau Cymreig/Cymraeg, felly dof i'n ôl â'r wybodaeth yn fuan. Wiccan1 14:21, 7 Mai 2009 (UTC)[ateb]