Sgwrs:Tywysog Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Lle mae Owain Gwynedd?[golygu cod]

Os dwi'n cofio yn gywir, yn ôl The Acts of Welsh Rulers gan Huw Pryce (Caerdydd, 2005), mae'r ffaith bod Thomas Becket yn defnyddio'r teitl 'princeps Wallaie' mewn dogfennau o'r 1160au hwyr yn awgrymu'n gryf bod Owain Gwynedd wedi dechrau defnyddio'r teitl hwnnw hefyd. Beth am gynnwys Owain ar y bwrdd gyda'r dau Llywelyn, Dafydd ayyb., felly? Ynyrhesolaf 18:09, 26 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mae 'na lawer i'w ddweud o blaid hynny. Mabwysiadodd Owain yr ystîl princeps Wallensium yn awr ei oruchafiaeth, ond 'Tywysog y Cymry' mae hynny'n feddwl yn hytrach na 'Tywysog Cymru' (daeth y newid pan arweiniodd gynghrair o'i gyd-dywysogion Cymreig yn erbyn y Saeson yn y Berwyn... 'Brenin Gwynedd' oedd ei ystîl arferol cyn hynny). Basa'n rhaid nodi'r gwahaniaeth ystyr, er y gellid dadlau mai dwy ffordd o ddweud yr un peth ydyn nhw hefyd. Dwi'n agored i gael fy mherswadio. Efallai cawn farn Rhion ac eraill ar hyn hefyd cyn newid unrhyw beth? Anatiomaros 18:38, 26 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
ON Hen bryd i ni gael yr erthygl Brenin Cymru hefyd... Anatiomaros 18:42, 26 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Rwy'n meddwl fod hyn yn werth ei grybwyll yn yr erthygl, ond gan nodi'r gwahaniaeth geiriad hefyd. Mae angen nodi fod Princeps/Tywysog yn cael ei ddefnyddio yma i ddynodi statws uwch na e.e. "Brenin Gwynedd", nid statws is fel yn yr ystyr fodern - roedd yn hawlio goruchafiaeth dros reolwyr eraill Cymru. Rhion 19:12, 26 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, rwy'n meddwl fod Rhys ap Gruffudd hefyd wedi defnyddio teitl tebyg. Mi gaf gip ar Pryce fory. Rhion 19:14, 26 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Rwy'n newydd fwrw golwg dros Turvey, The Lord Rhys (Gomer, 1997), sydd yn cadarnhau bod Rhys yn defnyddio'r teitl 'Princeps Walliae' mewn siarter yn dyddio o'r 1170au cynnar (t. 90). Mae'n pwysleisio, fodd bynnag, nad oedd gan Rhys reolaeth dros y Gogledd - roedd o'n ceisio pwysleisio ei rym, siwr o fod, yn hytrach ha hawlio bod yn dywysog Cymru go iawn. Cytunaf gyda'r syniadau uchod, yn enwedig yr un am erthygl ar frenin Cymru! Ynyrhesolaf 17:29, 27 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Fersiwn ffeithiol gywir[golygu cod]

Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn[1], ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, pan sefydlwyd Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyndŵr.

Ers y Deddfau Uno ym 1536 a 1543 nid oes gan ddeilydd y teitl unrhyw rôl gyfansoddiadol yng Nghymru

Tywysog y Cymry, Tywysog Gogledd Cymru a Thywysog De Cymru[golygu cod]

Bu tueddiad i ddefnyddio'r gair Tywysog am reolwyr Cymru o tua 1200 ymlaen. Cyn hynny defnyddiwyd y gair brenin hyd yn oed gan groniclwyr Lloegr. Daeth Owain Gwynedd i ddefnyddio'r teitl princeps Wallensium (tywysog y Cymry) erbyn diwedd ei oes. Disgrifir ei fab Dafydd ab Owain Gwynedd fel princeps Norwalliae (tywysog gogledd Cymru) a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth fel proprietarius princeps Sudwalie, (priod dywysog de Cymru). Mae John Davies yn ei gyfrol Hanes Cymru yn pwysleisio nad yw newid teitl o frenin i dywysog yn golygu lleihad yn eu statws o angenrheidrwydd. Ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' yw "un sy'n tywys, arweinydd, rheolwr" neu'n llythrennol "un sydd ar y blaen, un sy'n arwain."

Defnyddiai Llywelyn Fawr y teitl "Tywysog Gogledd Cymru".

Rhestr o Dywysogion Cymru[golygu cod]

  1. Llywelyn ap Gruffudd 1267-1282
  2. Edward o Gaernarfon 1301-1307
  3. Edward, y Tywysog Du 1330-1376
  4. Rhisiart o Bordeaux 1376-1377
  5. Harri Mynwy 1399-1413
  6. Edward o Westminster 1453-1471
  7. Edward mab Edward IV 1470-1483
  8. Edward o Middleham 1483-1484
  9. Arthur Tudur 1486-1502
  10. Harri Tudur 1502-1509
  11. Harri Stuart 1603-1612
  12. Siarl Stuart 1612-1625
  13. Siôr mab Siôr I 1714-1727
  14. Frederick 1727-1751
  15. Siôr mab Frederick 1751-1760
  16. Siôr y Rhaglyw Dywysog 1762-1820
  17. Albert Edward 1841-1901
  18. Siôr mab Edward VII 1901-1910
  19. Edward mab Siôr V 1910-1936
  20. Siarl Windsor (ers 1958)

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. Hanes Cymru, t. 138, John Davies, Penguin 1990

Sanddef 10:31, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]