Sgwrs:Tri Chopa Swydd Efrog

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Fel fy nghwestiwn rhywle arall am dreiglad llais ar ôl "chwe", beth am ar ôl "tri" (yma, "Tri Chopa")? Ond dydw i ddim am fod yn hen ffasiwn. Y ddraig felen 21:51, 5 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Digon posib dy fod ti'n iawn, efallai gall rhyun arall gadarnhau.--Ben Bore 12:56, 6 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Un Copa, Dau Gopa, Tri Chopa, Pedwar Copa, Pum Copa (colli'r 'p' olaf), Chwe Copa (colli'r 'ch'), Saith Copa, Wyth Copa, Naw Copa, a Deg Copa :) Xxglennxx 14:29, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Newid enw'r erthygl[golygu cod]

Os nad yw neb yn anghytuno erbyn 24 Mawrth 2010, cawn ni symud enw'r erthygl o "Tri Copa Swydd Efrog" i "Tri Chopa Swydd Efrog." -- Xxglennxx 14:43, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Rwyt ti yn llygad dy le, Glenn, mae angen y treiglad llaes (hyd yn oed os ydy rhai pobl yn siarad a sgwennu Cymraeg y dyddiau hyn fel pe bai dim ffasiwn beth â threiglad yn bod!). Croeso i ti symud yr erthygl. Anatiomaros 15:28, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
:D Diolch yn fawr. Gwnaf i symud yr erthygl nawr 'te :) Xxglennxx 00:27, 18 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]