Sgwrs:Tom Pryce

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gramadeg ac arddull[golygu cod]

Wedi dechrau bwrw golwg dros yr erthygl. Os byddai'n newid yr ystyr a'i wneud yn anghywir wrth wneud, neu os nad ydy'r cynigion yn plesio, dwedwch wrthai. Lloffiwr 12:00, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Buodd Pryce yn gyrru'r fan pobydd am gyfnod pan oedd yn 10 oed, yntau ond unwaith cafodd e yrru'r fan? Lloffiwr 12:50, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Mi fuaswn i'n casglu o'r ffynonellau ei fod yn gyrru'r fan yn weddol reolaidd - yn sicr fwy nag unwaith. Rhion 15:41, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Diolch Rhion. Lloffiwr 16:22, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Mae gwefan y BBC yn sillafu Formula ar gyfer y rasys ceir yn hytrach na Fformiwla (heblaw am un achos o Fformiwla). A ddylwn ni ddefnyddio Formula ar Wicipedia hefyd? Lloffiwr 16:22, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Rwy wedi gweld sawl achos ar gwefan y BBC yn defnyddio Fformiwla, e.e. [1] [2] [3] [4]. Hefyd mae Newyddion ar S4C wedi defnyddio Fformiwla ar sawl achlysur. Gan bod gair cymraeg ar gael, dylwn ni ei defnyddio yn fy marn i. AlexJ 23:49, 10 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Iawn Lloffiwr 12:12, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Cyfieithu 'main straight'. Rwyf wedi bwrw golwg ar Eiriadur yr Academi ac mae hwnnw'n cynnig hyn am 'The [home] straight': Y darn syth [olaf], yr hyd olaf. Beth felly am 'y prif hyd' am 'main straight', gan roi'r Saesneg mewn cromfachau y tro cyntaf y soniwn amdano? Oes rhywun wedi clywed beth mae sylwebyddion rasus ceffylau neu geir yn ei ddweud? Lloffiwr 12:12, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Rwy'n meddwl y busai'n well gen i "y prif ddarn syth" na "y prif hyd" - mae'n gliriach beth yw'r ystyr. Wn i ddim beth sy'n cael ei ddefnyddio gan sylwebyddion. Rhion 12:25, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Ydych chi AlexJ yn hapus gyda 'y prif ddarn syth'? Lloffiwr 16:38, 24 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Ie AlexJ 17:20, 25 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Wedi newid hwn. Lloffiwr 23:28, 12 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Diwedd timau Token a Rondel Racing. Dwi ddim yn hollol siwr o'r hanes fan hyn: ai Token ynteu Rondel Racing oedd y cyntaf i gau? Dilyn ei gilydd oeddent ynteu a oeddent yn cydredeg? Os oeddynt yn cydredeg, a oeddent yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, y naill tîm fel y llall yn gyrru ceir Royale, ynteu a oeddent yn cystadlu mewn rasus o Formula gwahanol i'w gilydd? Lloffiwr 15:48, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi creu erthygl fer ar Token Racing sy'n help i egluro'r sefyllfa, gobeithio. Rhion 06:56, 18 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
A bwrw bod erthygl ar Token Racing yn bod nawr a fyddai'n well cael gwared ar: 'Cafodd y tîm ei greu gan Tony Vlassopulos a Ken Grob ar ôl i'r tîm gwreiddiol Token cael ei gau i lawr yn 1973 oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol, oedd hefyd wedi gorfodi Rondel Racing i gau.' - gan bod y wybodaeth yn yr erthygl? Lloffiwr 16:29, 24 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Ydy hyn yn gywir, ac yn plesio? - Cafodd y tîm ei greu gan Tony Vlassopulos a Ken Grob ar ôl i'r tîm gwreiddiol Token cael ei gau yn 1973. Rondel Racing oedd wedi dechrau datblygu'r car Token ond collasant gefnogaeth ariannol allweddol yn 1973 a gorfod rhoi heibio datblygu'r Token.' Lloffiwr 19:54, 22 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]


1976: 'a hefyd deiars newydd'. Dwi ddim yn deall hwn yn iawn. Oedd pawb yn gorfod derbyn y teiars newydd (h.y. oedd hi'n reol rasio eu bod yn defnyddio'r teiars newydd?), ynteu ai dim ond y teiars newydd a gai eu cynhyrchu? (Fel y gwelwch o'r uchod dwi ddim yn gwybod llawer am rasio ceir!) Lloffiwr 16:45, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Newidiad yn yr rheolau oedd yr achos am yr teiars newydd. AlexJ 16:58, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Diolch. Ydy hyn yn iawn: 'Daeth newidiadau i'r rheolau, yn gorfodi timau i ostwng y bocs-aer ar eu ceir a symyd yr adain gefn ymlaen, ac i ddefnyddio teiars o fath newydd. Wedi'r newidiadau hyn, collodd...' ? Lloffiwr 18:58, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Ie, does dim 'ambiguity' yn yr brawddeg newydd. AlexJ 23:39, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Wedi newid. Lloffiwr 16:10, 24 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Byrfoddau yn y tabl canlyniadau. Ai byrfoddau'r FIA sydd yn y tabl Saesneg o'r canlyniadau? Os mai 'te, ydy hi'n well peidio â'u cyfieithu? Lloffiwr 19:02, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Mae'r Wikipedia Saesneg yn defnyddio system 'proprietary' ar gyfer yr byrfoddau. Nad yw'r system yr FIA yn addas oherwydd mae'r rasus cynnar gyda ond un llythur (e.e. F - France, J - Japan, D - Germany) rhai eraill gyda dau (BR - Brazil, GB - Great Britain) a'r leill tri. Sai'n siwr os dylwn ni defnyddio system arall (system yr International Olympic Committee effallai?) AlexJ 23:39, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]
Gan y bydd y pwynt yma yn siwr o godi eto ar erthyglau eraill mentraf godi'r cwestiwn ar y Caffi. Lloffiwr 16:36, 24 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]


Cyfle arall i ddangos fy anwybodaeth o rasio ceir! Beth yw'r gwahaniaeth rhwng qualify a pre-qualify? Mae hwn yn ran o'r nodyn ar yr allwedd i'r canlyniadau rasio. Ife llwyddo yn y ras rhagbrofol yw 'qualify' a llwyddo i gyrraedd y ras rhagbrofol (pasio'r 'scrutineering') yw 'pre-qualify'? Lloffiwr 17:22, 22 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Dydw i ddim yn hollol siwr sut yr oedd pethay yng nghyfnod Tom Pryce, ond yn gyffredinol, y "qualifying" sy'n penderfynu safle'r gyrrwr ar y grid i ddechrau'r ras go-iawn. Mae'r gyrrwyr sydd wedi cofnodi'r amser cyflymaf yn y rhes flaen. Am y "pre-qualifying" yn y cyfnod hwnnw, dydw i ddim yn siwr - rwy'n meddwl ei fod yn fater o gofnodi amser digon da i gael cymeryd rhan yn y ras. Rhion 17:41, 22 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Wedi cyfieithu 'did not qualify' i 'heb ennill lle yn y ras' a 'did not pre-qualify' i 'heb ennill lle yn y rhagbrawf'. Os cawn wybod yn wahanol gallwn newid y cyfieithiad, glei. Lloffiwr 19:16, 22 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Mae esboniad byr o'r system 'pre-qualifying' ar gael ar Wicipedia Saesneg. Pre-qualifying oedd qualifying arbennig i'r ceir gwaethaf i cael ennill lle yn yr qualifying go iawn. AlexJ 01:15, 24 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Diolch Alex. Yn bwriadu newid 'heb ennill lle yn y rhagbrawf' i 'heb ennill lle yn yr ail ragbrawf.' Oes cynnig arall ar gyfieithu hwn?
Wedi gwneud. Lloffiwr 11:08, 30 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Mae'n ymddangos nad yw'r gwefan ar gyfer y ddolen 'Tom Pryce profile at GPRacing.net' yn gweithio, o leiaf ar hyn o bryd. Lloffiwr 20:45, 22 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Yn gweithio nawr. Lloffiwr 11:02, 30 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Rydym yn ail-adrodd bod Cyngor Rhuthun am adeiladu cofeb i Tom Pryce ar ben yr erthygl ac yna ar waelod yr erthygl. Ydy hwn yn bwynt digon pwysig i haeddu lle yn y paragraffau sy'n cyflwyno'r erthygl? Lloffiwr 21:31, 22 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Dim ymateb eto i'r drafodaeth ar fyrfoddau gwledydd ar y Caffi. Lloffiwr 11:02, 30 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]