Sgwrs:Thomas Merton

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae cipolwg ar yr erthygl cyfatebol ar y wicipedia saesneg yn awgrymu mai pabydd oedd Merton nes iddo farw - ei fod yn cydfynd ac yn cydweithio â fwdhwyr, ond heb droi'n fwdhydd ei hun. A yw un o'r ffynhonellau'n dweud iddo droi'n fwdhydd? Fel arall, mae angen newid y brawddegau agoriadol rhyw fymryn --Llygad Ebrill 14:40, 5 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Yn ogystal, yn ôl y Wicipediau eraill Americanwr a aned yn Ffrainc, nid Sais, oedd Merton. --Adam (Sgwrs) 14:44, 3 Hydref 2009 (UTC)[ateb]
Ia, od iawn. Dyma sydd gan y Wici Ffrangeg: "Thomas Merton naît en France, le 31 janvier 1915, à Prades (Pyrénées-Orientales). Son père est néo-zélandais, sa mère américaine avec de la famille en Angleterre." Ganed yn Ffrainc, y tad o Seland Newydd a'r fam yn Americanes gyda theulu yn Lloegr. O ble daeth ein fersiwn ni, tybed? Gwell i mi newid y manylion yn yr erthygl. Anatiomaros 16:11, 3 Hydref 2009 (UTC)[ateb]