Sgwrs:Tartessos

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Tartes[s]os[golygu cod]

Hyd y gwelaf i, y ffurf gyfarwydd Tartessos sy gan bron pob un o'r wicipediau eraill. Oes sail i'r Cymreigiad un 's' hwn? Anatiomaros 21:51, 9 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

ON Mae gennym ambell ddolen goch Tartessos. Anatiomaros 21:53, 9 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Τάρτησσος yw'r ffurf Roeg, gyda dwy s. Fe fuaswn i'n awgrymu ei symud, os nad oes gwrthwynebiad. Rhion 22:23, 9 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dwi wedi symud yr erthygl ac ychwanegu'r enw Groeg. ON Croeso 'nôl o Batagonia! Anatiomaros 23:14, 9 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Ble mae'r tân? Beth yw'r ras wyllt i newid teitl y dudalen cyn rhoi cyfle i'r un greodd y dudalen i ymateb? Y rheswm dros gosod Tartesos yn deitl yw mae dyma'r sillafiad oedd ar y daflen y cafodd y rhai (breintiedig) ohonom oedd yn bresennol yn narlith Dr John Koch yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe allwch fentro mai'r ffurf Tartesos y bydd yr acamedyddion yn defnyddio pan yn ysgrifennu am hwn yn Gymraeg, a chyda thipyn o lwc fe fydd y BBC a'r newyddiaduron yn dilyn yr un sillafiad. Byddai'n well gennyf weld hwn yn symud nôl i'r ffurf Tartesos. Ond dw'i ddim am dorri nghalon drosto fe chwaith! Lloffiwr 14:37, 10 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]