Sgwrs:Tŷ Croes

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Beth ydy Tŷ Croes?[golygu cod]

Oes rhywun sy'n nabod yr ardal yn well na fi? Ar y wici Saesneg mae Tŷ Croes yn "bentref" gyda erthygl dwy linell iddo ei hun ("stub", wrth gwrs!) ac un arall i'r orsaf, ond hyd y gwelaf i o'r map does dim ond rhyw hanner dwsin o dai ar wasgar yno, ar y mwyaf, felly dwi wedi cyfuno'r ddau, y lle (os lle!) a'r orsaf. Anatiomaros 21:11, 29 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Dim clem; ond be goblyn ydy 'amlwd'? Llywelyn2000 21:18, 29 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Y gair am "hamlet" yn Gymraeg. Braidd yn hynafol efallai? Methu meddwl am enw gwell am le mor fychan! Anatiomaros 21:20, 29 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Ond falla dylwn i newid o i "pentref bychan iawn" gan ei fod yn air mor anghyfarwydd? Ia, dyna'r peth gorau. Anatiomaros 21:22, 29 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Ia, de! Dyfi Jyncsion o le! Llywelyn2000 21:30, 29 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dyfi Jyncsion heb y bobl?! Anatiomaros 21:32, 29 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]