Sgwrs:Tŵr Eiffel

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pennawd[golygu cod]

Onid Tŵr Eiffel (heb y fannod) ddylai fod yn bennawd i'r dudalen 'ma? Daffy 14:51, 26 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn, Daffy. Byddai rhai pobl yn dweud eu bod wedi mynd "i'r Tŵr Eiffel", ar lafar, efallai, ond does dim angen y fannod o gwbl am fod y tŵr wedi ei enwi ar ôl M. Eiffel. Y ffurf ramadegol gywir yw "Tŵr Eiffel" (cf. "Colofn Nelson" yn hytrach nag "Y Golofn Nelson"). Dwi'n mynd i symud y dudalen felly. Anatiomaros 18:46, 26 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]
Ron i wedi dilyn cysyllt coch oddi wrth Paris gyda'r fannod.
Dim problem! Anatiomaros 20:19, 27 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Ynganiad[golygu cod]

'Swn i'n leicio ychwanegu'r ynganiad Cymraeg. 'Swn i'n dweud /'tu:r i'fɛl/, dwi'n credu. Sut byddai eraill yn ei ynganu yn Gymraeg? Daffy 14:51, 26 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]