Sgwrs:Siroedd seremonïol Lloegr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi ddim yn deall yr ymadrodd "Swyddi seremonïol". Cywiriwch fi os dwi'n anghywir, ond dydi'r disgrifiad "Ceremonial Counties" yn Saesneg ddim yn gyfarwydd imi chwaith. Beth yn union a olygir wrth hyn? Onid "Swyddi / Siroedd Traddodiadol Lloegr" a olygir? (Gwelaf fod Rutland ar y rhestr blwch - sydd ar gael ar y dudalen Norfolk, er enghraifft). Yn ogystal mae "Swyddi Seremonïol" yn swnio fel cyfeiriad at swydd ddefodol, fel Black Rod. Nid yw pob un o'r siroedd ar y rhestr yn "swyddi" chwaith; "Swydd Gwlad yr Haf", "Swydd Ynys Wyth"? Anatiomaros 16:41, 4 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Ceir esboniad manwl ar y Wicipedia Saesneg. Mae yna wahaniaeth rhwng y siroedd traddodiadol a'r siroedd seremonïol. Y siroedd traddodiadol yw'r siroedd hyd at 1888. Siroedd a ddefnyddir heddiw at bwrpasau seremonïol yw'r siroedd seremonïol. Cyn dyddiau'r awdurdodau unedol, yr un peth oedd sir a sir seremonïol - roedd eu ffiniau'n newid o bryd i'w gilydd (er enghraifft ym 1974). Ar ôl diwygiad llywodraeth leol 1997, doedd dim siroedd fel y cyfryw mewn llawer ardaloedd yn Lloegr (yr awdurdodau unedol), felly casglir siroedd ac awdurdodau unedol at ei gilydd i lunio siroedd seremonïol. Er enghraifft, mae'r sir seremonïol Gwlad yr Haf yn cynnwys sir weinyddol Gwlaf yr Haf a'r awdurdodau unedol oedd yn draddodiadol yn rhan o Wlad yr Haf ond sydd bellach yn awdurdodau unedol (Gogledd Gwlad yr Haf, a Chaerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf). Ond dyw'r siroedd seremonïol hynny ddim yn cyfateb yn fanwl i'r hen siroedd: er enghraifft, doedd Cumbria ddim yn bod cyn 1974, felly does dim sir draddodiadol Cumbria (dim ond Cumberland a Westmoreland), ond defnyddir Cumbria fel sir seremonïol heddiw; mae Middlesex yn sir draddodiadol, ond Llundain yw'r sir seremonïol gyfatebol heddiw; mae Bryste yn sir seremonïol, ond ddim yn sir draddodiadol, ac yn y blaen. Dwi ddim yn gweld unrhyw ffordd allan ond i ni ddefnyddio siroedd seremonïol yn ogystal â siroedd traddodiadol yn yr un ffordd (gymhleth) â'r Wikipedia Saesneg. Cwestiwn arall yw pam yn y byd 'dyn ni'n eu galw nhw'n swyddi. Daffy 17:15, 4 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Diolch am yr esboniad. Mae'n swnio fel system cymhleth iawn! Gwell gadael pethau fel y maen' nhw felly. Ynglŷn â'r cwestiwn olaf, tarddiad y defnydd o "swydd" am "sir" / "shire", mae'n gwestiwn dwi wedi gofyn fy hun cyn rwan hefyd. Mae'n ddirgelwch. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae swydd² yn golygu "ardal, tiriogaeth, neu uned o dir, yn aml yn dynodi arglwyddiaeth, cwmwd neu gantref" yn ogystal â "sir", ond dydi o ddim yn cynnig ateb i'n cwestiwn ni. Tybed ai oherwydd bod uned o diriogaeth o'r fath dan reolaeth swyddog? (Mae'r gair swyddog yn ddigon hen hefyd - fe'i ceir yn y llyfrau Cyfraith, e.e. "24 Swyddog Llys y Brenin"). Dirgelwch i'w ddatrys eto, un o'r dyddiau 'ma? Anatiomaros 22:48, 4 Medi 2006 (UTC)[ateb]