Sgwrs:Sielo

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Er bod gen i ddim ffynhonnell am hwn. Dwi'n eithaf siw bod y rhan fwyaf o eiriaduron yn defnyddio 'sielo' yn lle 'soddgrwth'. - Tomos ANTIGUA Tomos

Mae'r geiriadur “BBC Learn Welsh” yn defnyddio'r geir “soddgrwth” gyda “sielo”. Yr [Practical Dictionary”] hefyd... owain2002
...tra bod Geiriadur yr Academi'n defnyddio'r ddau. Rhodri77 07:30, 27 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Un o'r ddau sy'n fy iaith i! Clywais i rioed am y gair Sielo tan rwan! Llywelyn2000 21:02, 5 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'r ddau yn y geiriadur. Gair gwneud ydy 'soddgrwth' (tua 1850) a gair benthyg yw 'sielo' (20fed ganrif: mae GPC yn nodi'r amrywiad 'tsielo' ar lafar). Dwi ddim yn gwybod am unrhyw air Cymraeg arall am cello. Ychydig iawn o bobl fyddai'n defnyddio'r gair 'soddgrwth' heddiw, mae'n debyg, ac mae 'sielo' yn un o'r geiriau benthyg hynny mae'n rhaid i ni eu derbyn neu ddefnyddio geiriau anghyfiaith yn eu lle. Anatiomaros 22:05, 5 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Os mai fi di'r unig un sy'n defnyddio 'soddgrwth', yna 'tsielo' amdani, gan mai 'tsi' ydy'r swn ac nid 'si'? Mi faswn i'n meddwl mai Cymreigiad o'r gair ydy 'sielo', ond Cymreigiad clinigaidd iawn. Galla i ddychmygu rhywun o Benclawdd yn cerdded mewn i Wers Sielo! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:09, 25 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]