Sgwrs:Rhif

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cyfri yn Gymraeg[golygu cod]

Mae rhywbeth gwrthun iawn am y paragraff am y sustem gyfri Gymreig. Credaf ei bod yn sustem brydferth ac mae'n rhyfygus i ddweud mai iaith capel yw hi. Credaf hefyd na ddylai Wicipedia draethu syniadau fel hyn sy'n seiliedig ar farn, ac y dylai'r paragraff hwn amlinellu'r traddodiad cyfri yn hytrach na'i ddiystyru. Mae'n bwysig cadw traddodiadau fel hyn yn lle gwyro at ddull mwy mecanyddol. Eisingrug 22:08, 3 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno, fel mae'n digwydd. Yr "hen ddull capelaidd" dwi'n defnyddio fel rheol - ac wrth reddf - fy hun, a go brin mod i'n mynychu na chapel na llan yn aml! Mae gan y "dull modern" ei le mewn mathemateg ond mae gan y dull traddodiadol brydferthwch arbennig hefyd sy'n cyfoethogi'r Gymraeg, yn fy marn i o leiaf. Anatiomaros 22:55, 3 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, does dim ffasiwn beth â barn y Wici mewn erthyglau, dim ond barn y cyfranw[y]r, ond rydych chi'n iawn fod angen diwygio'r paragraff a rhoi amlinelliad o hanes a natur y ddau ddull yn gytbwys heb fynegi barn o gwbl. Dwi'n siwr mai sgwennu hyn ar garlam braidd wnaeth Llywelyn, efallai - fel rydym i gyd yn tueddu i wneud weithiau - ac mai hynny sy'n cyfrif am y farn a fynegir. Cofiwch fod pawb yn rhydd i olygu unrhyw erthygl felly mae croeso i chi, neu Lywelyn neu unrhywun arall fynd ati i'w diwygio. Anatiomaros 23:06, 3 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ym mhle mae yna "fynegi barn" yn y paragraff rydych chi eich dau yn ei feirniadu? Dyma'r paragraff:
"Ceir dau ddull o gyfri yn Gymraeg." Ffaith
"Mae'r hen ddull, sef y dull clasurol, i'w glywed ar adegau yn y capeli a llefydd tebyg e.e. saith a phedwar ugain." Ffaith
"Mae'r dull modern, mathemategol, fodd bynnag yn llawer haws: wyth-deg-saith = 87." Ffaith
"Eto, derbynir ambell enghraifft o'r hen ddull e.e. deunaw = 18 yn ogystal ag un-deg-wyth." Ffaith
"Bellach (2010) rydym yn clywed hyd yn oed yn y capel y dull modern "Emyn cant-saith-deg-tri". Ffaith
???? Llywelyn2000 00:21, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Anatiomaros: wyt ti o ddifri'n defnyddio "Pum punt ar hugain a saith a phedwar ugain ceiniog" pan wyt ti'n talu am dy betrol? Sgersli bilîf!!! Ac yn ail, beth sy'n "FFIAIDD" (chwedl Eisingrug uchod) yn y paragraff? A mi rwyt ti'n cytuno? Llywelyn2000 00:33, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Llywelyn, mae'n hwyr yn y nos a dwi newydd gweld hyn. Mae'n ddrwg iawn gen i os dwi wedi dy dramgwyddo. Wrth ddweud "dwi'n cytuno" roeddwn i'n cyfeirio at y ffaith fy mod i'n defnyddio'r "dull clasurol" yn aml - ond nid bob tro! - ac yn meddwl ei fod yn cyfoethogi'r iaith. Dyna'r cwbl. Dwi yn meddwl fod y geiriad presennol yn awgrymu mai peth "hen ffash iawn" ydy deud "dwy bunt ar bymtheg" ayyb ac mai gwell fyddai cael disgrifiad llawn o'r ddau ddull. Yn sicr doeddwn i ddim isio dweud fod hyn yn "ffiaidd" nac unrhyw beth tebyg - dylswn i wedi darllen sylw Eisingrug yn fwy ofalus a nodi hynny: nid fy ngeiriau i oedden nhw. Doeddwn i ddim wedi bwriadu brifo dy deimladau ac ymddiheuraf i ti eto os dwi wedi gwneud hynny (sgwennu "ar garlam"...). Anatiomaros 01:00, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dw i'n derbyn dy ymddiheuriad Anatiomaros, gyfaill.
Eisingrug: Wnei di dynheru dy iaith os gweli di'n dda; mae defnyddio geiriau fel "gwrthun" a "rhyfygus" yn ymylu ar fod yn "brocio drwg" ac yn fandaliaeth. Cymer bwyll. Llywelyn2000 08:21, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Asgob, do'n i ddim yn bwriadu bychanu neb! Y cwbl 'dw i'n ddeud ydi fy mod yn credu y dylid hyrwyddo dull Cymreig o gyfri yn lle dweud mai iaith capel ydyw ac y dylir defnyddio'r dull modern gan ei fod yn "llawer haws" (barn). Wrth gwrs, ni fyddwn fyth yn dweud "cant namyn un" am naw-deg-naw, ond fe fyddaf yn defnyddio'r rhifau Cymreig hyd at "unfed-ar-ddeg-ar-hugain" pan fyddaf yn sôn am ddyddiadau, ac yna bob yn ugain eto hyd at gant bron bob tro. Fe fyddwn i hefyd yn dadlau bod galw fy ieithwedd i yn ieithwedd capel yn fychanol ohonof fi. Y cwbl o'n i'n trio'i gyfleu oedd y dylai'r wybodaeth fod yn eitha niwtral, gan fy mod yn credu'n gryf mewn gwahaniaethu rhwng rhifyddeg a iaith, er fy mod yn cymryd diddordeb byw yn y ddau. Eisingrug 11:35, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Wnes i ddim defnyddio'r gair "ffiaidd" o gwbl yn fy nodyn gyda llaw. Eisingrug 12:10, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Hoffwn gynnig ein bod yn rhoi hyn y tu ôl i ni a derbyn fod geiriau a fynegir ar bapur neu mewn print yn agored i gael eu camddehongli weithiau ac na fyddai ffrae mewn tebot fel hyn wedi digwydd o gwbl rhyngom ni ar lafar ac mai gorffen gyda gwên nid dagrau fyddai'r canlyniad pe baem yn trafod hyn wyneb yn wyneb? Ynglŷn â'r cynnwys mae gen i awgrym neu ddau (heb fod yn ddadleuol, gobeithio!) dwi am roi isod yn nes ymlaen, mewn adran newydd, ond y peth pwysicaf rwan ydy cael pawb i gydweithio er mwyn y Wicipedia ac er mwyn yr iaith sy'n golygu cymaint i ni i gyd. Gawn ni gytuno i symud ymlaen felly? Anatiomaros 14:30, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, Anatiomaros, am ddwyn 'chydig o synnwyr i'r ddau ohonym ni. 'Dw i'n ymddiheuro am godi cwenc - gwneud pwynt oedd fy nod ond efallai fy mod wedi'i eirio braidd yn gryf. Wedi'r cyfan, 'dw i'n gwerthfawrogi'r gwaith mae pawb yn ei wneud yma. Diolch hefyd am y paragraff sydd rwan yn fwy crwn. Mae Cymru'n rhy fach i wneud gelynion, felly 'dw i'n ymddiheuro am yr hyn a wnes. Eisingrug 13:36, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Camgymeriad?[golygu cod]

Ai camgymeriad yw hwn: Bellach (2010) mae'r dull modern "Emyn cant-saith-deg-tri" wedi goddiweddu'r "Emyn cant a saith a phedwar ugain" traddodiadol?

cant-saith-deg-tri = 173

cant a saith a phedwar ugain = 187

Neu fi sy'n anghywir? —Adam (sgwrscyfraniadau) 06:20, 2 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]

He! Doeddwn i ddim yn ceisio cael yr un ateb, ond mi fyddai hynny'n fwy cyson, ac yn well! Beth am newid y dull modern i: "cant-wyth-deg-saith"? Well spotted! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:28, 2 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]
Wedi cywiro. —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:10, 4 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]