Sgwrs:Rhestr cymunedau Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Trafod cyn symud[golygu cod]

Copiwyd o Sgwrs:Bae Cinmel a Thywyn

Os dyma'r ffurf swyddogol, sef 'Bae Cinmel a Thywyn' yn hytrach na 'Tywyn a Bae Cinmel', popeth yn iawn. Ond sylwer 1. Mae angen newid yr enw yn y nodyn:Trefi Conwy hefyd, a 2. Mae enw'r dudalen yn wahanol rwan i enw'r categori ac mae'n rhaid cysoni hynny.

O ran yr enw, does fawr o ddim ots gen i pa un sy'n cael ei ddefnyddio yma, ond mae chwilio ar y we yn dangos enghraifftiau o'r ddwy ffurf ar wefannau swyddogol neu safonol, e.e. "Cyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel", "cafodd Darren ei urddo’n Faer Tywyn a Bae Cinmel" (gwefan y Maer ei hun!) ayyb. Byddai nodi ffynhonnell neu ddwy ar y dudalen yn syniad da.

Yn olaf, mae sawl tudalen wedi cael ei symud yn ddiweddar. Mae rhai yn ddigon teg ond eraill yn fwy dadleuol: e.e. Y Waun > Y Waun, Wrecsam, Pont Fadlen > Merlin's Bridge, Y Gellifedw > Birchgrove, Abertawe. Dydy Gwyddoniadur yr Academi ddim yn anffaeledig. Yn achos newid enw Cymraeg i un Saesneg yn enwedig byddai'n dda rhoi cyfle i bobl fynegi eu barn cyn penderfynu. Anatiomaros (sgwrs) 23:36, 15 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]


Mae'n bechod nad yw Wicipedia yn gallu diweddaru'r holl cysylltiadau i dudalennau sy'n cael eu symud, felly bydd rhaid gwneud hyn ein hunain. Onid yw'n haws cysoni'r holl rhestrau a chategorïau ar ôl gorffen cysoni'r erthyglau eu hunain fel nad oes rhaid mynd drostynt tro ar ôl tro?
Synnwn i ddim bod y pobl yn gyfrifol am y fath gwefannau yn cyfeirio yma at Wicipedia am yr enw/cyfieithiad Cymraeg yn y lle cyntaf. Dyma restr cyflawn a chywir o holl gymunedau Cymru: Cod SYG.
Coeliwch fi, dw i'n casáu newid enwau Cymraeg i rai Saesneg, ond dilyn trefn ydwyf. Mae gennyf restr o gannoedd o leoedd yng Nghymru na sydd eto ar Wicipedia, ynghyd a'r wybodaeth i greu infobocs a'i geotagio. Maen nhw bron i gyd yn bentrefi a phentrefannau o fewn cymunedau, felly bydd frawddeg gyntaf yr holl erthyglau newydd fel hyn; "Pentre/pentrefan yng nghymuned --Enw Cymuned-- yn --Enw Awdurdod-- yw --Enw Lle--." Yn naturiol, mae'n haws sicrhau bod yr holl enwau cymunedau yn gywir cyn bwrw ymlaen â ychwanegu'r holl erthyglau newydd. Rwyf yn y broses o gwirio'r holl enwau yn y data gyda'r enwau swyddogol (Cod SYG), yr enwau yma ar Wicipedia (cymunedau Cymru) a'r enwau yng Ngwyddoniadur yr Academi. Pan fydd yr enwau yn cywir ac yn safonol, bydd rhestrau a chategorïau yn cael eu diweddaru. --Cymrodor (sgwrs) 12:33, 16 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Symudwyd yr ateb hwn i un lle gan - Llywelyn2000 (sgwrs) 13:04, 16 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Yn dilyn y gwaith a wnaethom ar graffiau Cyfrifiad 2011, fe ychwanegwyd y canllaw yma, sy'n nodi mai fersiwn y Gwyddoniadur sy'n cael ei derbyn. Tua chwe mis yn ôl, yn dilyn chwip-din gan rai aelodau o Gymdeithas Enwau Lleoedd ym Mhlas Tan y Bwlch, mi es drwy bron y cyfan o'n cymunedau gan eu haddasu i un canllaw yn unig - Gwyddoniadur Cymru. Mi adewais i rai enwau heb eu newid - llond dwrn, a hynny'n fwriadol: newidiadau o'r Saesneg i'r Gymraeg. Fedrwn i ddim, ond fe ddylwn fod wedi gwneud! Hyd yn oed pe bawn yn nghytuno. Ein lle ni ydy derbyn un safon, a chadw i'r safon honno. Dydy'r Gwyddoniadur ddim yn berffaith, fel y gwyddom, ond os cadwn ato, yna bydd gennym ninnau safon dderbyniol. Os awn ar ôl dwy safon wahanol, fe syrthiwn rhwng dwy stol. Mi fydd Cymd Enwau Lleoedd, yn y man, yn cyhoeddi rhestr safonol. Ond hyd nes i hynny ddigwydd, awgrymaf ein bod yn dal yn dynn yn ein canllaw ni. Yn y cyfamser, dw i mewn trafodaethau efo Cymdeithas Enwau Lleoedd / HWO, ac mae croseo i unrhyw un ohonoch ddod i'r cyfarfod nesa efo fi. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:39, 16 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Mae llawer iawn o synnwyr mewn cael drefn o'r fath, wrth gwrs. Dwi'n derbyn hynny. Ond gwyddom hefyd "dydy'r Gwyddoniadur ddim yn berffaith." Pam nad ydym yn aros i CELl orffen eu gwaith felly? A beth os ydy rhai o'r enwau a argymhellir ganddynt fel rhai safonol yn mynd yn groes i'r enw Cymraeg arferol a ddefnyddir gan bawb yn gyffredinol? Er enghraifft, dwi'n byw mewn tref ar arfordir Cymru y sillefir ei henw gan rai awduron Cymraeg gor-safonol gyda hyphen ynddo; ond arfer pawb gan gynnwys Cymry Cymraeg lleol yn ddieithriad, y cyngor tref a'r cyngor sir hefyd ydy ei sgwennu heb yr hyphen. Buaswn i'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw newid i'r ffurf ar yr enw sydd gennym ni yma oni bai fod y cynghorau tref a sir yn derbyn hynny ac yn newid y ffurf yn swyddogol. Anatiomaros (sgwrs) 00:05, 17 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
O ran gwahaniaethu gyntaf neu ar erthygl (Y Waun y cael ei newid yn Y Waun, Wrecsam), yna mae ein canllaw cyfredol i'w weld yn fama: Wicipedia:Gwahaniaethu. Mae'r paragraff ola'n golygu fod y newid gan Cymrodor yn gywir, gan fod 3 (jyst!) Ond mae synnwyr yn dweud, gan fod tref yr Waun yn mynd i gael llawer mwy o 'hits' ac felly'n haeddu fod yn ddolen uniongyrchol (hy "Y Waun"). Os felly, mae angen newid y canllawiau. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:58, 16 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Oes yn wir, mae angen newid y canllawiau os dyna sy gennym yma (sut? ers pryd?) - ac mae hynny'n rhyfedd o beth hefyd achos mae'n mynd yn erbyn y drefn Wici arferol yn ogystal â synnwyr cyffredin. Pe bae'r Wici Saesneg yn dilyn yr un canllawiau yn llythrennol byddai Cardiff yn cael ei symud i 'Cardiff, Wales' achos mae sawl lle arall o'r un enw a phe bai rhyw fryn isel dinod ym Mhowys o'r enw Yr Wyddfa yn bodoli byddai'n rhaid i ni symud Yr Wyddfa i 'Yr Wyddfa (Eryri)' er mwyn gwahaniaethu (mae sawl defnydd o'r gair Snowdon hefyd ond 'Snowdon' sy gan y Wici S. nid 'Snowdon (mountain)'). Mae amlygrwydd - y canlyiad y byddai rhywun yn disgwyl ei gael ar ôl teipio enw yn y blwch chwilio - yn cyfrif. Dyna pam ddylem ni adfer Y Waun (=Chirk) a dyna un rheswm pam mae angen ystyried yn ofalus cyn symud tudalen er mwyn gwahaniaethu. Anatiomaros (sgwrs) 23:44, 16 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Sut? Ers pryd? (Llywelyn yn sibrwd y canlynol) - "Ers i ti eu llunio!" Gweler Hanes y Dudalen. Dw i'n cytuno fod angen eu newid, felly gad i ni barhau'r sgwrs ar dudalen yr erthygl uchod yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:08, 17 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Wps! Ond "Ers i mi greu eginyn i lenwi dolen goch nôl yn Oes yr Arth a'r Blaidd (2006)" mewn gwirionedd, pan nad oedd ond rhyw 3,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg. Dwi'n cyfadde roeddwn i ar gymaint o frys neithiwr fel wnes i dderbyn dy ddisgrifiad (uchod) "Mae'r paragraff ola'n golygu fod y newid gan Cymrodor yn gywir, gan fod 3 (jyst!)" yn lle darllen pob gair yn y ganllaw. Mae angen ei diwygio a'i gwneud yn eglurach - mwy o engrheifftiau, er enghraifft - ond rwyt ti'n iawn i awgrymu parhau'r trafod yno nid yma. Diolch. Anatiomaros (sgwrs) 23:29, 17 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Conwndrwm difyr[golygu cod]

Beth ydym ni am wneud os ydy enw swyddogol, statudol, cymuned fel a geir ar wefan llywodraeth.gov.uk lle ceir rhestrau o orchmynion statudol am gymunedau yn cynnwys cymunedau newydd 2011 (dwi'n cyfadde doeddwn i ddim yn gwybod am hyn - diolch i Cymrodor am y wybodaeth) yn wahanol i'r enw(au) a argymhellir gan y Gwyddoniadur a/neu CELl? Does dim canllaw am hynny ond byddai'n rhaid i ni benderfynu y naill ffordd neu'r llall. Anatiomaros (sgwrs) 00:46, 17 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

yn wahanol i'r enw(au) a argymhellir gan y Gwyddoniadur a/neu CELl? Dw i'n sicr mai fel hyn fydd hi! Yr unig beth allwn wneud ydy glynu at un o'r tri ffynhonell yna fel enw'r erthygl, ond bod pob amrwyiaeth arall o sillafiad yn cael ei grybwyll yn yr erthygl. Hefyd, pa fath o 'awdurdod' fydd gan enwau CELl? Nid trio eu amharchu ydw i, ond onid criw o bobl hunanetholedig ydynt yn y bôn, a pa sicrwydd sydd na fyddant yn dewis enw ar le yn ôl eu syniadau nhw eu hunain yn hytrach na beth sy'n ddefnydd cyffredin? Pa fath o adborth mae trigolion lleol yn eu cael yn y broses? Mae'r un peth yn wir wrth gwrs am bwy bynnag benderfynodd ar enwau'r Gwyddoniadur / rhestr y Llywodraeth. Oes ffordd o ddethol bod un yn fwy o authority na'r llaill?--Rhyswynne (sgwrs) 09:10, 17 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Pwyntiau da, Rhys. Y gwir ydy bod anghytundeb ac anghysondeb yn anorfod bron. Dwi'n teimlo'n gryf y dylem ni barchu'r enw a ddefnyddir yn lleol hefyd (Cymraeg dwi'n meddwl, nid enwau Seisnigaidd a llurguniau). Dydy enwau lleoedd ddim yn faes i ymarfer gramadeg beth bynnag - pethau organig ydyn nhw sydd wedi datblygu dros yr oesoedd ac mae sawr "linguistic revisionism" ar rai o'r ffurfiau gor-ffurfiol a welir weithiau.
Rhaid cofio hefyd ein bod yn wyddoniadur Cymraeg. Felly nid yw'r ddadl "rhaid derbyn yr awdurdod hyn neu hyn" yn ddigon ynddo'i hun. Pe bai'r llywodraeth yn troi rownd fory a chyhoeddi "Carnarvon is naw ddy onli offisyl sbelin of Caernarfon" a fyddai'n rhaid i ni (heb sôn am y Cofis!) derbyn hynny? Wrth gwrs, dwi'n derbyn hefyd fod rhai enwau Cymraeg ar leoedd yn y de yn greadigaethau diweddar ayyb ond mae'n gas gen i weld tudalen am lle gyda enw Cymraeg yn troi'n Saesneg am fod y llywodraeth yn anwybyddu'r ffurf Gymraeg. Anatiomaros (sgwrs) 23:46, 17 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Pa awdurdod sydd gan CELl? Dim! Dyna ddywedwyd wrtha i yn ddiweddar. O'r herwydd cytunaf yn llwyr gadag Anatiomaros - dylem gadw at y fersiwn Cymraeg hyd yn oed pan fo'r Gwyddoniadur yn defnyddio'r fersiwn Saesneg. Ac yn ail - trafodaeth cyn unrhyw newid. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:59, 18 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Merthyr Tudful[golygu cod]

O fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful mae 12 cymuned. Enw un ohonynt, yn ôl rhestr Codau SYG a map cymunedau Merthyr yn Geiriadur yr Academi yw Y Dref (Saesneg: Town). Fedra'i ddim gweld cofnod o'r gymuned hon yma ar Wicipedia (nag ar Wikipedia); erthygl am y dref yw Merthyr Tudful ond nid am gymuned Y Dref. Er mai Y Dref ydyw ar y map, mae pwt o ddisgrifiad am y gymuned yn Geiriadur yr Academi dan yr enw Tref Merthyr Tudful. Ai hon yw'r enw gorau ar gyfer Wicipedia? Cymrodor (sgwrs) 10:12, 23 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Ddim yn gwybod digon am hyn, ond os nad yw 'Y Dref' yn cynnwys tref Merthyr i gyd, gall 'Tref Merthyr Tudful' fod yn gamarweiniol. Beth am Y Dref, Merthyr Tudful? Gellir peipio fel '''[[Y Dref, Merthyr Tudful|Y Dref]]''' fel bo'r angen.--Rhyswynne (sgwrs) 10:52, 23 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:42, 10 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]