Sgwrs:Prif Weinidog (First Minister)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl[golygu cod]

Mae 'Gweinidog Cyntaf' yn swnio'n wirion. 'Prif Weinidog' yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio yn Gymraeg - hyd yn oed gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hun (ar ei gwefan, er enghraifft). Ceisio osgoi'r gair 'Prime Minister', am resymau gwleidyddol, oedd y dewis o 'First Minister' yn Saesneg. Anatiomaros 16:01, 28 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno. Ond yng ngwleidyddiaeth ryngwladol mae gwahaniaethau rhwng Prime Minister a First Minister felly mae angen rhyw ffordd o wahaniaethu rhwng yr erthyglau. Roeddwn i'n ystyried "Prif Weinidog (cabinet)" am First a "Prif Weinidog (llywodraeth)" am Prime, ond wrth ddarllen yr erthyglau ar y Wikipedia Saesneg (en:Prime Minister, en:First Minister) mae hi tipyn mwy cymleth na 'na! Unrhyw awgrymiadau? Ac hefyd, ydy Chief Minister yn cyfieithu fel Prif Weinidog yn ogystal â'r ddau arall? —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:47, 21 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Ia, dyna pam wnes i ddim newid yr enw. Dwi'n meddwl fod Prif Weinidog ar ben ei hun (ar gyfer Rhodri a Blair, er enghraifft) yn well na 'Prif Weinidog (llywodraeth)' gan fod y term mor gyfarwydd yn nhermau gwleidyddiaeth Prydain. Wedyn creu 'Prif Weinidog (tudalen gwahaniaethu)'. Ond pa enw sy'n iawn am y lleill? Tipyn o benbleth, â dweud y lleia! Mae Rhodri a Blair yn brif weinidogion cabinet a llywodraeth, er enghraifft. Ydi Geiriadur yr Academi yn help? (Does gennyf ddim gopi wrth law, yn anffodus). Byddai'n werth gofyn barn Lloffiwr efallai. Anatiomaros 20:07, 21 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Yn ôl at hyn eto. Dydi'r term "Gweinidog Cyntaf" ddim yn gwneud synnwyr yn y Gymraeg. Mae cyntaf yn ansoddair amser nid safle; "Gweinidog cyntaf" gwlad fyddai'r person cyntaf i fod yn weinidog yn y wlad honno! Mae'n amhosibl cael mwy nag un gweinidog cyntaf. Dwi'n awgrymu symud hyn i Prif Weinidog (First Minister). Dwi ddim eisiau gweld Saesneg ddiangen yma ond dyna'r unig ffordd gyfleus i egluro'r enw, yn fy marn i. Mae angen rhoi Alun Michael a Rhodri Morgan yn y categori newydd "Prif Ysgrifenyddion Cymru" yn hefyd (a dileu Categori:Gweinidogion Cyntaf Cymru), achos dyna oedd y teitl swyddogol cyn iddo newid i Brif Weinidog/First Minister (categori o ddau yn unig am byth...). Anatiomaros 14:49, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]