Sgwrs:Pennwydh

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pa ffurf ar yr enw sy'n addas yma? Dyma'r tro cyntaf imi weld 'Pennwydh'.

Cymraeg Canol - Penwaedd (gweler Penrhyn (gwahaniaethu))
Cernyweg - Pennwydh
Saesneg - Penwith (ail-gyfeirio yma)

Dwi'n hoff o Gernyweg ac yn ei pharchu fel iaith Geltaidd a chwaer i'r Gymraeg, ond os ydym am ddefnyddio'r enw Cernyweg yma byddai'n rhaid cysoni pob enw arall yng Nghernyw (heb sôn am Iwerddon a'r Alban, Ynys Manaw a Llydaw!). Anatiomaros 19:02, 13 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Dw i'n cael hyn yn anodd. O beidio defnyddio Pennwydh pa un fyddet yn awgrymu? Fyddem ni ddim yn hapus iawn i weld Kydwelly,Llanelly neu Trevine yma fydden ni? Ar y llaw arall fydd yna ddim fersiwn Gymraeg o nifer o enwau lleoedd Cernyweg ar gael rwyn tybio. Project tymor hir yw hwn felly ydy hi'n werth ystyried derbyn y fersiwn Gernyweg - dw i ddim yn gwybod. Dim lot o help rwyn ofni! Dyfrig 20:18, 13 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Diolch am dy ymateb, Dyfrig. Wrth gwrs dydwi ddim isio gweld ffurfiau Seisnigaidd yn lle enwau Cymraeg brodorol. Fy mhwynt, mae'n debyg, yw fod y ffurf 'Pennwydh' (sydd i'w ynganu yn 'Penwydd', mae'n debyg?) yn anghyfarwydd iawn. Byddai Penwaedd yn adnabyddus i bobl sy'n ymddiddori mewn hanes a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol ond go brin fod un o'r ddau enw (Cymraeg/Cernyweg) yn gyfarwydd i bobl ar y stryd. Efallai nad yw 'Penwith' yn adnabyddus i bawb ond siawns gennyf ei fod yn llawer mwy cyfarwydd na'r ddau arall. Felly dylem ni ddefnyddio ffurfiau Cymraeg (ac eithrio rhai hynafol iawn sydd ddim yn cael eu defnyddio heddiw) fel rheol ond derbyn pa ffurf bynnag sy'n debyg o gael ei ddefnyddio gan Gymry cyffredin fel arall. Mae Rhion newydd sgwennu erthygl am Kells a dydwi ddim yn meddwl fod dadl dros newid hynny i'r enw Gwyddeleg Ceanannas gan fod Kells yn llawer mwy adnabyddus. Meddyliwch am yr holl enwau lleoedd Gwyddeleg ac Albaneg (hyfryd a bendigedig er y bônt) - buasai'n ddigon i ddrysu pobl yn lân! Mae'n bwysig bod yn gyson. Fel rwyt ti'n ddeud, mae hyn yn brosiect tymor hir. Fôn. Anatiomaros 20:50, 13 Awst 2007 (UTC)[ateb]