Sgwrs:Peiriant arian parod

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Peiriant arian parod neu PAP yw'r cyfieithiad cywir yn ôl llyfr technoleg gwybodaeth sydd da fi. Hwyl, Rhys Thomas 18:04, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Iawn, dim problem Rhys. Dwi'n cyfadde doeddwn i ddim yn siwr am y term "swyddogol" gorau ond gan fod pawb yn deud 'Twll yn y wal' roedd angen cael yr ailgyfeiriad beth bynnag. Diolch i ti! Anatiomaros 18:42, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Ac mae 'Peiriant arian parod' hefyd yn gynghanedd Draws bach taclus! (Ond parhau i ddweud twll-yn-wal wnâ i!! Llywelyn2000 18:47, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Ydy, ac mae'n digwydd yn 'Englynion y Piau' hefyd (Llyfr Du Caernarfon): "Piau'r peiriant arian parod? / ...." Anatiomaros 19:03, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Bois bach! Anacronistig iawn! (A gwall yn y linell hefyd!) Ydy'r ail linell yn mynd rhywbeth fel hyn:
"Piau'r peiriant arian parod?
Y banc, nad yw eto'n bod!"
Gyda llaw, dwi'n meddwl dy fod yn llygad dy le Rhys, pan fo term safonol / "swyddogol" ar gael (ac mae CBAC yn gwbwl safonol!), yna dylid mynd amdano, ei ddefnyddio, er bod term hŷn, mwy naturiol yn bodoli. Mae'n gas gen i ddweud hyn, gan mai iaith naturiol, organig yw ei chryfder! Gallem wedyn (y tu allan i Wici) godi'r ddadl gyda CBAC: ydyn nhw'n ymwybodol o'r hen air Cymraeg.... Llywelyn2000 13:36, 31 Mai 2009 (UTC)[ateb]