Sgwrs:Parc Cenedlaethol Eryri

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Adfer hyn[golygu cod]

Dwi wedi adfer y dudalen hon, a drowyd yn dudalen ailgyfeirio gan Delusion23 gyda'r esgus "no other Wikipedia has an article for both the region and National Park"! Wel, does affliw o ddim ots gennyf i os ydy wicis eraill, yn eu diniweidrwydd, yn dilyn y wici Saesneg yn eu hanwybodaeth druenus ond rydym ni'r Cymry Cymraeg yn gwybod yn amgenach, gobeithio: NID yr un peth ydy Eryri - ardal arbennig yn hanes a diwylliant Cymru ers gwawr ei hanes - a'r parc cenedlaethol a ffurfwyd megis ddoe ac sy'n cynnwys bron y cyfan o Feirionnydd, ardal na fu ERIOED yn rhan o'r Eryri go iawn. Anatiomaros (sgwrs) 00:47, 23 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

Cytuno gan y cant!!! Cadwer Wici cy yn Wici cy! Sut allwn ni gryfhau hyn? Polisiau cryfach? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:35, 25 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]
Diolch. Be sy'n ngwylltio fi ydy'r agwedd drahaus sydd mor ddiflas o gyfarwydd. Wn i ddim be 'di'r ateb o ran polisi Wici. Mae pawb yn rhydd i symud tudalen i enw newydd mwy addas neu gywirach ond mae ailgyfeirio tudalen fel hyn - gan ddileu'r erthygl fu arno i bob pwrpas - heb unrhyw drafodaeth o gwbl a hynny gan gyfranwr sy ddim yn deall Cymraeg hyd yn oed yn annerbyniol. Anatiomaros (sgwrs) 23:13, 25 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]