Sgwrs:Noethlymuniaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gan fod hyn yn erthygl am "nudism"/"naturism", efallai ei fod yn well ei symud i enw arall gan fod "(bod yn) noethlymun" yn wahanol (os ydy rhywun yn noethlymun yn y stafell molchi dydyn nhw ddim yn noethlymunwyr, er enghraifft). Mae 'na sawl dewis yn y Gymraeg, ond dwi'n meddwl mai "noethlymunaeth" yw'r agosaf i'r ystyr. Os gan rywun gynnig arall? Anatiomaros 20:29, 24 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Mae'n debyg mai "Noethlymunaeth" yw'r gorau. Rhion 20:40, 24 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Chlywais i mo'r gair ar lafar erioed, ond mae'n gwneud synnwyr, yn disgyn yn naturiol ar y glust, felly ymlaen! Diolch. Llywelyn2000 23:06, 24 Awst 2008 (UTC) Ond ow! Rhywsut mae 'nghlust i'n gweiddi am 'i' rhwng yr 'n' a'r 'a'. Llywelyn2000 23:08, 24 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Efallai dy fod yn iawn, Llywelyn. Roeddwn i'n cloffi rhwng dau feddwl ond methu ffindio y ffurf gyda -iaeth. Croeso i ti symud o. Anatiomaros 23:16, 24 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Ia. Noethlumuniaeth medd Geiriadur Bruce, felly dyna geuad ar y mater. Diolch i ti. Llywelyn2000 11:24, 25 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Cyswllt amherthnasol?[golygu cod]

86.197.18.157 - gyfaill: ym mha ffordd mae esiamp dilys (Eva Brown) yn amherthnasol? Cwbwl berthnasol yw rhoi enghraifft, fel hyn. Neu ydw i'n methu rhywbeth? Llywelyn2000 20:39, 22 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Cytuno. Y rheswm am ei nodi oedd er mwyn dangos mor boblogaidd a derbyniol oedd yr arfer yn yr Almaen - yng nghyfnod y Natsiaid bron nad oedd yn "gwlt swyddogol". Efallai bod angen rhagor o enghreifftiau, o wahanol wledydd a chyfnodau, i gael mwy o falans, ond dwi ddim yn gweld fod torri rhywbeth allan yn helpu (mae gennym ni erthygl amdani hefyd - rheswm arall dros adfer y ddolen!). Anatiomaros 20:43, 22 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Caniateir noethlymuno ar y traethau canlynol yng Nghymru[golygu cod]

Dw i ddim yn arbennigwr ar noethlymuniaeth, ond dw i ddim yn siwr os yw'r gair 'caniateir' yn addas ar gyfer y traethau hyn i gyd - mae'n awgrymmu bod y lle wedi ei ddynodi'n swyddogol ar gyfer noethlymuniaeth, tra mewn gwiriaonedd (hyd y gwelaf i) mae jyst wedi dod yn beth gymharol gyffredin ar ambell draeth.--Ben Bore 09:02, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]