Sgwrs:Nicole Cooke

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi'm yn siwr am y term Marchog am reidiwr beic. Wedi edrych mewn nifer o eiriaduron ac mae nhw i gyd yn cyfeirio at y term yn y cyd-destun o farchogaeth a cheffylau... Does dim term safonol o pob golwg felly efallai mai defnyddio'r term Wenglish cyfarwydd reidiwr yw'r gorau, gan mai reidio beic fydd pawb yn gwneud. Thaf 13:09, 15 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Rwyt ti yn llygad dy le. Mae 'marchog' yn enw am rywun sy'n marchogaeth ceffyl, a hefyd yn yr ystyr Knight, ac felly byddai "marchog ar feic" yn cyfeirio at ryw lord neu'i gilydd ar gefn ei feic! Mae reidiwr yn iawn (neu 'beiciwr'), er eu bod yn eiriau benthyg diweddar. Anatiomaros 14:32, 15 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
"Marchogaeth beic" yw'r ffordd cywir/hen ffasiwn o ddweud "reidio beic," felly, wrth reswm mae rhywun sy'n gwneud hynny'n "farchog"! Ond dwi'n derbyn fod hyn yn obsgiwar braidd - cynnig newid i "beiciwr". Gwell gen i "beiciwr" am ei fod yn perthyn yn amlwg i'r gair beic, tra fod "reidiwr" yn Saesneg iawn a does dim son amdano mewn unrhyw eiriadur Cymraeg am wn i. --Llygad Ebrill 20:47, 15 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Rhagor o dermau[golygu cod]

Mae gwefan y BBC yn defnydddio'r termau a'r teitlau canlynol yn eu hadroddiadau chwaraeon:

  • stage - cymal (defnyddir cymal yn ogystal â rownd ar gyfer 'round'
  • Womens' Road Race - Ras Lôn i Ferched, Ras Ffordd i Ferched
  • Ras Ffordd i Feiciau
  • Time trial - Ras yn erbyn y cloc
  • velodrome - felodrom, (trac beiciau yng Ngeiriadur yr Academi)
  • cyclist - beicwraig, (un canlyniad ar gyfer seiclwraig)
  • cycle/ing - beicio, seiclo
  • British Championship - Pencampwriaeth Prydain.
  • Tour - cylchdaith

Heb newid 'treial amser' i 'ras yn erbyn y cloc' - gormod o waith wrtho!

Lloffiwr 12:06, 21 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]