Sgwrs:Moscfa

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r ddinas yn Gymraeg[golygu cod]

Gawn ni drafod enw'r ddinas yn Gymraeg? Does dim teimladau cryf gen i ond dau: (1) Dyw'r anghysondeb sy gyda ni ar hyn o bryd yn anfoddhaol; a (2) mae'n anodd amddiffyn yr opsiwn Moscfa. Dyma'r dadleuon a'r posibiliadau:

  • Moscow. O blaid: dyna beth mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn galw'r ddinas. Yn erbyn: onid jyst enw Saesneg wedi'i ddefnyddio o achos diffyg enw Cymraeg go iawn yw hyn? Ond efallai dyna yw'r gair Cymraeg am y ddinas erbyn hyn??
  • Mosgo. O blaid: mae'n weddol gyffredin ar y We (tua 10%, dwi'n credu), mae'n dilyn system sillafu'r Gymraeg. Yn erbyn: eto ddim mor gyffredin â Moscow.

Os nad oes ffurf Gymraeg ar enw lle, y confensiwn yw defnyddio'r enw brodorol. Felly naill ai...

  • Moscfa, hynny yw, trawsgrifiad o'r enw Rwsieg yn defnyddio gwerthoedd Cymraeg i'r llythrennau. O blaid: dim lot, ond mae 'na ychydig o siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio hyn (ychydig o enghreifftiau ar y We). Yn erbyn: dydyn ni ddim yn defnyddio'r math 'na o drawsgrifiad yn unman arall ar y Wici (hynny yw, Chekhov nid Tsiechoff yw ein confensiwn erbyn hyn); dim digon o bobl yn defnyddio hyn yn barod.
  • Moskva, hynny yw, trawsgrifiad yn defnyddio'r system trawsgrifiad yr ydyn ni wedi'i dewis. O blaid: mae'n gyson ag ein rheol o drawsgrifio'r Rwsieg. Yn erbyn: yr un mor brin ei ddefnydd ar y We â Moscfa (ond mae [hyn] yn enghraifft).

Yn ôl amlder ar y We (yn Gymraeg), mae Moscow yn ennill (tua 90%), wedyn Mosgo (tua 10%), wedyn Moscfa a Moskva (1% yr un) gyda'i gilydd (ymhell y tu ôl i'r rhai eraill).

Daffy 19:46, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Mae Moscfa yn edrych yn ddeniadol ac yn agos iawn at yr enw brodorol, ond does neb bron yn ei ddefnyddio. Moscow fyddai dewis naturiol pawb bron, waeth os ydyw'n dod o'r fersiwn Saesneg. Dwi ddim yn hoffi Mosgo o gwbl ac dwi'n meddwl ei bod yn ffurf reit ddiweddar (10% ar y we = 1% yn gyffredinol efallai?). Mae'n biti am Foscfa druan, ond dwi'n meddwl fod Moscow yn ennill. Anatiomaros 20:21, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]