Sgwrs:Mecaneg cwantwm

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

A oes modd o greu eiriau gymraeg am termau gwyddonol yn lle cymreicio eiriau saesneg. Yn aml iawn mae'r saesneg wedi saesnegu eriau groegaidd neu lladin. Er enghraift yr air am "Quantum" sy'n dod o "Quantas" - hynny yw "i fesur." Allwn ni defnyddio air gymraeg sy'n bodoli a'i addasu i'r defnyddiaeth newydd? Allwn cymeryd yr air "Maint" a'i addasu i'r unigol gyda'r diwedd "-yn" i greu "Meintyn" Yna, felly, mae "Quantum Mechanics" yn gyfieithu fel "Mecaneg Meintynol." Rydw i'n anianegwr gymraeg ac mae'n fynhonnell o rhwystredigaeth i mi i glywed halogiadau o termau saesneg lle all dermau gymraeg wreiddiol cael eu greu. (sylw gan 90.203.173.178)

Diolch am eich sylwadau. Dwi'n cytuno i gryn raddau. Yr anhawster yw ein bod yn dibynnu ar ffynonellau ac nid yw'n rhan o'n gorchwyl i fathu enwau Cymraeg newydd oni bai fod hynny'n anorfod. Ceir sawl enghraifft o'r term 'mecaneg cwantwm' ar y we, e.e. gan Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth. Os oes termau amgen yn bodoli ac yn cael eu defnyddio ar raddfa eang medrem ystyried eu defnyddio. Oes gennych chi ffynhonnell safonol a fyddai'n gymorth i ni, ar-lein neu mewn print? Mae diffyg canllawiau a rhestrau termau safonol, cynhwysfawr, yn faen dramgwydd i ni mewn sawl pwnc! Anatiomaros 16:40, 23 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]