Sgwrs:Luzon

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

[y] Pilipinas[golygu cod]

Dwi'n drysu efo enwau'r categorïau am y wlad. Ar hyn o bryd mae gennym ni Categori:Daearyddiaeth Pilipinas a Categori:Dinasoedd Pilipinas ond hefyd Categori:Mynyddoedd y Pilipinas. Rhywsut mae 'Ynysoedd y Pilipinas' ayyb yn swnio'n fwy naturiol i mi na heb y fannod. Mae yna ddigon o engreifftiau o "y Pilipinas" i'w cael ar y we hefyd. Cyn imi ddechrau creu rhagor o gategorïau hoffwn gael barn pobl: be sy'n well gennych chi? Anatiomaros 17:08, 4 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Rwy'n cytuno fod "y Pilipinas" yn swnio'n fwy naturiol na "Pilipinas". Rhion 17:20, 4 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Rhion. Dwi wedi mentro creu'r categori 'Ynysoedd y Pilipinas'. Bydd angen newid y ddau gategori uchod hefyd, er mwyn cysondeb. Anatiomaros 17:28, 4 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Nid mater o ba un sy'n swnio'n gywir ydy o; mae rheol (euraid) ynglyn a hyn, ond does gen i ddim amser i chwilio ar hyn o bryd. Ble mae'r hen Bedwyr? Beth am ddod dros y broblem drwy alw'r lle'n Ynysoedd y Gloyn Byw? medda fi a nhafod yn fy moch! Na, gofyn i Ganolfan Bedwyr, dwi'n siwr y cei ymateb. Ond cofia, hefyd, fy marn bersonol i ydy mai defnyddio rhestr Bwrdd yr Iaith y dylem ar bob achlysur. Llywelyn2000 22:13, 4 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am dy sylwadau, Llywelyn. Ia, ond y broblem yw fod y "rheol euraidd" honno yn hynod annelwig; mae'n llechian rhywle ond wn i ddim lle. O fwrw golwg dros yr enwau yn Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg mi welir fod nifer o anghysondebau. Yn achos "Ynysoedd y Pili-pala" ceir Pilipinas gan yr Atlas Cymraeg Newydd ond Ynysoedd y Philippines (hanner Cymraeg hanner Saesneg) gan y Bwrdd ac Ynysoedd y Philipinos a/neu Ynysoedd y Philipinau gan yr Academi. Ar y cyfan mae cynigion Bwrdd yr Iaith yn rhesymol, ond mae nhw'n anghyson hefyd. Er enghraifft: mae'r Cymreigiad Ffiji yn dderbyniol ganddynt ond mae nhw'n gwrthod y 'rheol euraidd' yn achos Affganistan (ByI: Afghanistan) ayyb. Hefyd Moroco, lle mae'r Bwrdd yn dewis yr enw Saesneg Morocco yn lle'r ffurf Gymraeg naturiol Moroco (Atlas, Academi). Y broblem arall gyda derbyn rhestr Bwrdd yr Iaith (neu un o'r lleill) fel ein canllaw ydy fod nifer o wledydd llai heb eu cynnwys yn y rhestr o gwbl. Rhaid ystyried hefyd beth i wneud yn achos enwau i ddisgrifio cenedligrwydd pobl (dewisais Pilipiniaid yn yr achos yma am fod gennym Pilipinas fel enw'r wlad; mater o orfod dewis rhywbeth neu fynd heb gategori) lle nad oes unrhyw ganllawiau o gwbl bron? Hen hen ddadl, mi wn, ond yn absenoldeb canllaw cynhwysfawr sy'n cael ei dderbyn yn eang fel awdurdod be fedrem ni wneud ond dewis y gorau (yn ein barn ni, wrth gwrs!) o'r hyn sydd ar gael - os ydy o ar gael yn y lle cyntaf? Anatiomaros 22:50, 4 Awst 2009 (UTC)[ateb]
M. Dwi'n cytuno a thi: Ar y cyfan mae cynigion Bwrdd yr Iaith yn rhesymol, ond mae nhw'n anghyson hefyd. OND nhw sy'n anghyson. Os y glynwn ni at eu termau nhw yna mi rydan ni'n gyson. Mae nhw'n fwy o arbenigwyr ar hyn nac ydan ni. Nid yma i fathu termau ydan ni mewn gwirionedd ond i gael ein credu ac i'r erthyglau ddal-dwr. Mae ein bona fide ni gymaint cryfach os y glynwn at un corff o arbenigwyr, pa un bynnag yw hwnnw.
(Gyda llaw, welais ti fy ateb i ti y diwrnod o'r blaen ynglyn a chael Bot i wneud y gwaith boring? Fama)