Sgwrs:Llyn Ogwen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch am sbotio hyn Luke. Mae'r ffiniau "newydd" yn ddigon i ddrysu rhywun. Ond mae'r Anglopedia yn anghywir i ddweud "Somewhat unusually, the county boundary at this point is drawn so that the lake itself lies in the county of Gwynedd, but all the surrounding land (excluding the outflow) lies in Conwy County Borough." Dydy'r holl dir o gwmpas y llyn ddim yn gorwedd yn sir Conwy, dim ond y tir i'r dwyrain o'r llyn (a'r afon) - newydd siecio'r map. Mae'r ffaith fod llefydd fel Llyn Ogwen a Llynnau Mymbyr yn sir Conwy heddiw yn un peth - mi fedra'i fyw efo hynny - ond yr hyn sy'n gwbl hurt ydy bod sir Conwy gyfan wedi cael ei rhoi yng Nghlwyd gan ryw anwybodusyn o was sifil: Llyn Ogwen yn rhan o "Glwyd" yn lle Gwynedd (h.y. y Gwynedd go iawn, yr hen sir)? Mae'n hurt! Anatiomaros 21:11, 15 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn gwybod pa fap rydych chi wedi ei siecio, ond yn ôl y fap Arolwg Ordnans (megis ar multimap.com neu streetmap.co.uk), mae'r "Anglopedia"(!) yn gywir - mae'r ffîn yn amgylchynu'r llyn heblaw rhan fer yn y gorllewin ger yr hostel ieuenctid lle mae'r lan yng Ngwynedd. I'r de ac i'r gogledd o'r llyn, mae'r glannau yng Nghonwy. Luke 21:49, 15 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Drap, rwyt ti'n iawn hefyd! Sbio ar y map ffyrdd wnes i (2.5km: 1cm) ond yn amlwg dydy o ddim yn ddigon manwl; ar ôl edrych ar y map Ordnans 1:25000 rwan dwi'n gweld fod dy ddisgrifiad yn iawn. Bron iawn yn allglofan o Wynedd yng Nghonwy, felly. Anatiomaros 22:00, 15 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]