Sgwrs:Llosgach

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Geirdarddiad[golygu cod]

Gall rhywun ychwanegu gwybodaeth ar eirdarddiad "llosgach", os gwelwch yn dda? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 09:02, 31 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Dywed Geiriadur y Brifysgol mai o "llosgrach" y daw. Mae'r "ach" yn eitha cyfarwydd yn tydy: achau, perthyn ayb. Mae "llosgfa" yn golygu clwyf, bellach, er mai "clwyf a achosir drwy losgi" oedd yr ystyr; gall "llosg" hefyd olygu "pigiad", "llid" neu "falltod". Ym meibl 1588 yr ymddengys yn gyntaf: 'am insest neu losc-ach' (Lefiticus XX) ac yna ' Am losc-ach, sef godineb o fewn cyfagos achau (I Corinth v). Ansoddair: llosgachlyd; bf: llosgachu. Hefyd llosgachwr = yr un sy'n llosgachu. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:44, 2 Tachwedd 2012 (UTC)[ateb]