Sgwrs:Lein Amlwch

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

'Leiniau' sydd wedi cau[golygu cod]

Roeddwn am roi'r erthygl yma mewn categori, ond ar dudalen Categori:Rheilffyrdd Cymru, mae'n ymddangos fel rhestr o reilffydd bach presenol Cymru. A ddylid creu is-gategori i linellau/rheilffyrdd sydd wedi cau? Dwi'n gwbod yn iawn sut i wneud hyn fy hun, ond ddim yn siwr ydw i a ddylid gwahaniaethu rhwng 'lein' a rheilffordd + oes gair gwell na lein i'w gael (fel gofynwyd uchod)?--Ben Bore 11:29, 2 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Dwi wedi rhoi'r erthygl yn y categoriau Ynys Môn a Rheilffyrdd Cymru am rwan. Mae "lein" yn dipyn o broblem. Dydi o ddim yn safonol iawn - rheilffordd yw'r unig ddewis mewn gwirionedd - ac eto dyna sy gan y mwyafrif ar lafar, mae'n debyg, yn arbennig am, wel, "lein" unigol. "Anglesey Central Railway" yw'r enw ar yr erthygl Saesneg - a fyddai cyfieithiad o hynny yn well? (Ond a ydy "central" yn cyfeirio at ganol Môn/Central Anglesey ynte "canolog"?). Anatiomaros 15:17, 2 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

At y mater o Central, fe fyddwn i'n tueddu dewud ei fod yn rhedeg drwy Canolbarth Môn, yn hytrach na'i fod yn reilfford Canolog. Ar y mater o'r enw Lein, Wedi fy magu'n lleol i'r ardal ers y 1980au, Lein Amlwch yw'r enw 'dwi fwyaf cyfarwydd gyda, a roedd ar het cofroddol y cefais yn 1991(?) tra'n teithio ar y rheilffordd yma. Mae gwefan y cefnogwyr yn defnyddio Lein Amlwch fel teitl tudalen, ond yn sôn am Cwmni Rheilffordd Canolog Ynys Môn Cyf / Lein Amlwch. 'Dwi wedi ail-eirio agoriad yr erthygl i gydweddu at hyn, ond yn bersonol byddwn yn cefnogi cadw'r teitl presennol. Ansbaradigedfran 20:20, 6 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Mae Atlas Môn (1972) yn cyfeirio ato fel Rheilffordd Canol Môn. Ansbaradigeidfran 12:48, 12 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]