Sgwrs:John Phillips (addysgwr)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:John Phillips)

Phyllips neu Phillips?[golygu cod]

"John Phillips" sydd gan Y Bywgraffiadur, a dyna beth sydd gan safle we Hanesybont (http://www.hanesybont.co.uk/lluniaubont/islwyn.htm) hefyd. Rhion 18:14, 5 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

'John Phillips' sydd gan y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Mae'n edrych fel enghraifft arall o rai ysgrifenwyr Cymraeg yn Cymreigio enwau pobl (e.e. 'Hywel Harris', oedd wastad yn defnyddio'r ffurf 'Howel[l] Harris' ei hun). Mae 'na enghreifftiau hanesyddol o Gymry yn defnyddio ffurfiau Cymraeg neu Saesneg ar eu henwau gan amrywio yn ôl y gynulleidfa. Buaswn i'n deud ei bod yn dybynnu a oedd Phyllips/Phillips ei hun yn defnyddio'r ffurf Gymraeg neu beidio. Anatiomaros 19:07, 5 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Os na fedrwn brofi ei ddefnydd o o'i enw, tecach dilyn y ddau lyfr uchod (er eu bon nhw'n llawn o gamgymeriadau!!!) dwi'n meddwl. Gyda llaw, ro'n i'n meddwl mai aelod o'r 'The Mamas & the Papas' oedd John Phillips! Llywelyn2000 00:28, 8 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi ei symud. Efallai y bydd angen tudalen wahaniaethu? Rhion 06:48, 8 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]