Sgwrs:Imbolc

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pa ŵyl yn union?[golygu cod]

Ga'i awgrymu symud hyn i Gŵyl Fair y Canhwyllau? Dyna'r enw Cymraeg traddodiadol (Saesneg: Candlemass), a hynny am fod sawl Gŵyl Fair arall yn y calendr. Rhaid i mi chwilio am y lleill, ond basa 'Gŵyl Fair' yn medru cael ei throi yn dudalen gwahaniaethu wedyn. Dwi'n meddwl bod rhaid wrth dipyn o bwyll hefyd wrth sôn am y calendr Celtaidd - mae haneswyr yn tueddu i feddwl mai calendr y tymhorau oedd gan y Celtiaid yn hytrach na calendr yr haul (solar calendar) - ac hefyd wrth ddefnyddio rhai o enwau gwneud Iolo Morganwg fel Alban Hefin ayyb. Roedd Gŵyl Fair y Canhwyllau yn ŵyl Gristnogol hefyd - yn sicr dyna oedd hi i'r Cymry o wawr ein hanes fel cenedl - a does dim cyfeiriad at hynny. Efallai fod angen dwy erthygl sef un am Imbolc (fel ar en: a wiciau eraill, yn ôl y rhestr rhyngwici yma) ac un arall ar Gŵyl Fair y Canhwyllau? Ai dyna'r ffordd orau i ddatrys hyn? Anatiomaros 23:39, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Yn bersonnol Gwyl Santes Brigid faswn i'n ei galw; dyna fyddai'r enw gwreiddiol am wn i... cyn i Ddewi a'i griw herwgipio'r wyl a'i galw ar ol Mair. Ond, dyna ni. Na, dwi'n cytuno â thi. Mae'n rhaid symud ymlaen. O leiaf mae'r canhwyllau'n dod a chydig o olau'r hen grefydd!
Ia, ond y broblem ydy fod Gŵyl Fair y Canhwyllau/Gŵyl Fair yn ŵyl Gristnogol "ryngwladol" sy'n rhan o'r calendr eglwysig ers canrifoedd ac sy'n cael ei dathlu mewn sawl ffordd mewn sawl gwlad, dim yng Nghymru a'r gwledydd Celtaidd yn unig. Mi fasai'n od braidd cael y Celtiaid cynnar a'r neo-paganiaid modern yn dathlu Gŵyl Fair hefyd! (Er bod yr ŵyl Gristnogol wedi'i himpio ar draddodiad hŷn, wrth gwrs). Dyna pam fod angen gwahaniaethu. Anatiomaros 23:57, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Mi fydd yn rhaid i mi edrych fwyfwy i fewn i'r un Gristnogol; dwi'n gwybod nesa peth i ddim amdani. Ond, na rwyt ti'n iawn felly. Llywelyn2000 00:04, 21 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Mae 'na lawer y gellid dweud am yr ŵyl Gristnogol yng Nghymru, tasa amser gen rywun. Digon o gyfeiriadau yng ngwaith y beirdd, er enghraifft. Ond fel ti, dwi'n gwybod mwy am yr un baganaidd! Anatiomaros 00:21, 21 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ar ôl chwilio dwi wedi cael hyd i nifer o engreifftiau dan y gair 'gŵyl' yn Geiriadur Prifysgol Cymru, hanner dwsin o nhw o leiaf. Rhy hwyr heno, ond wna'i roi nhw yma fory (os cofiaf!). Wedyn cawn benderfynu be dylai enw'r erthygl yma fod. Nos da! Anatiomaros 00:34, 21 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Gwyliau Mair[golygu cod]

Dyma'r enghreifftiau a geir d.g. 'gŵyl' yn GPC:

  • Gŵyl Fair yn Awst (+ Gŵyl Fair gyntaf: The festival of the Assumption of the Virgin Mary, 15 Awst)
  • Gŵyl Fair y Canhwyllau (+ Gŵyl Fair dechrau'r gwanwyn: Candlemas, The Feast of the Purification of the Virgin Mary, 2 Chwefror)
  • Gŵyl Fair ddiwethaf (+ Gŵyl Fair pan aned, Gŵyl Fair ym Medi: The Nativity of the Virgin Mary, 8 Medi)
  • Gŵyl Fair y Cyhydedd/y Gyhydedd (+ Gŵyl Fair hanner y gwanwyn: The Annunciation of the Virgin Mary, St. Mary's Day, Lady-day, 25 Mawrth)
  • Gŵyl Fair y Gwirodau (dim gwybodaeth bellach)
  • Gŵyl Fair yn y gaeaf (Conception Day, the festival of the Conception of the Virgin Mary, 8 Rhagfyr)
  • Gŵyl Fair yn yr haf (The Visitation of Our Lady, 2 Gorffennaf)

Hefyd:

  • Gŵyl Fair Fadlen (St. Mary Magdalene's Day, 22 Gorffennaf)

Dwi am roi'r rhain ar y dudalen gwahaniaethu Gŵyl Fair, ar ôl symud hyn. Dwi'n meddwl rwan taw'r ffordd hawsaf yw symud hyn i Imbolc a chreu tudalen arall ar gyfer Gŵyl Fair y Canhwyllau. Dwi'n meddwl eu bod yn haeddu fod yn erthyglau ar wahân, er bod yr ŵyl Gristnogol yn benthyg rhai pethau o wyliau paganaidd fel Imbolc (ac eraill, ar draws Ewrop). Oes gan rywun farn am hyn, cyn imi symud y dudalen yma? Anatiomaros 19:25, 21 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Bois bach; wyddwn i ddim fod cymaint! Imbolc yn iawn gen i, eto mae'n drist peidio a defnyddio 'Gwyl Fair' ar ei ben ei hun ar gyfer Imbolc, y gwreiddiol ohonyn nhw i gyd. Ond mae angen 'Gwyl Fair' ar gyfer y tud. gwahaniaethu wrth gwrs! Felly, cytuno. Llywelyn2000 05:20, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]