Sgwrs:Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Di-deitl[golygu cod]

Onid Heol Y Frenhines, Caerdydd sy'n gywir? Llywelyn2000 20:01, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n swnio'n goblyn o chiwthig, ond dw i'n meddwl mai dyma ydy'r enw cywir. Dyna sydd ar wefan Arriva (nid bod hynny'n golygu lot!) a wele y llun yma.--Ben Bore 20:32, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Bois bach! Llywelyn2000 20:39, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Os hwn ydy'r enw swyddogol gan Arriva a'r lleill mae angen saethu rhywun! (A minnau'n heddychwr fel rheol...). Enw hollol hollol hurt! Anatiomaros 21:19, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
ON Ceir sawl enghraifft o 'Gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd' ar y we, e.e. gan y Cynulliad. Does dim rhaid i ni dderbyn Cymraeg wallus Arriva. Anatiomaros 21:26, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dw i ddim yn gwybod os yw hyn yn helpu, ond yn hytrach na meddwl am enghreifftiau Cymru, mae gorsaf ym Mryste or enw Bristol Temple Meads (ac nid Temple Meads, Bristol). Ydy o'n bolisi efallai mae enw'r dref/ddins sydd wastad yn dod gyntaf mewn enw gorsaf sgwn i?--Ben Bore 08:11, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Yn Saesneg dyna ydy'r arfer, ond mae'n swnio'n chwerthinllyd yn Gymraeg (cyfieithiad: "Queen Street's Cardiff!"). Ar ben hynny mae'r enw hurt yma ar ein "tudalen flaen" i bawb ei weld. Dwi'n cynnig symud hyn i 'Gorsaf [neu 'Gorsaf reilffordd'] Heol y Frenhines, Caerdydd'. Anatiomaros 14:28, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno. Mae'r enw'n swnio'n ofnadwy ar hyn o bryd. Mae Gwefan y Parciau Cenedlaethol[1], y Gwasanaeth Apelio (?) [2], yr Eglwys Norwyaidd [3], Bwrdd Croeso Cymru [4], Llyfrgell Genedlaethol Cymru [5], Neuadd Dewi Sant [6] a Llywodraeth y Cynulliad yn cyfeirio ato fel "Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd". Dw i ddim yn meddwl y dylen ni ddibynnu ar gyfieithu gwael un neu ddau sefydliad pan fo cynifer o sefydliadau cydnabyddedig yn defnyddio "Heol y Frenhines Caerdydd." Pwyll 13:10, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ti fuost brysur a manwl dy waith, gyfaill. Mae'r dystiolaeth i gyd o blaid Heol y Frenhines, Caerdydd. Ychwanegais atalnod, gan nad "brenhines Caerdydd mohoni"! Llywelyn2000 14:44, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Gai awgrymu symud hyn eto i 'Gorsaf...' gan fod stryd o'r un enw? Anatiomaros 14:48, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Wrth gwrs, gyfaill. Llywelyn2000 15:08, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, Llywelyn! Anatiomaros 15:12, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Gai awgrymu adio'r gair reilffordd at teitl yr erthygl yma? Dw i wedi cyfeirio at yr Wici Saesneg am gweddill yr erthyglau dw i ar hyn o bryd yn gweithio ar sydd yn defnyddio'r term Gorsaf reilffordd Tref Engreifftiol, a hefyd ella yr un peth am Caerdydd Canolog? Diolch. Llewpart 20:44, 2 Hydref 2011 (UTC)[ateb]