Sgwrs:Hanes Sweden

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dim ffynonellau[golygu cod]

Fel y mae hi ar hyn o bryd, nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu ffynonellau. Ychwanegwyd cynnwys enfawr yn ddiweddar gan Defnyddiwr:Echotranslations. Wrth gynnal ymchwiliad gyda Google ar yr enw, credaf mai Echo International ydynt. Wrth feirniadu safon iaith yr erthygl fel y mae hi ar hyn o bryd, nid oes llawer o bryder, ond wrth i'r bobl gyfieithu (o'r fersiwn Saesneg ar en), y maent wedi anghofio i gynnwys y ffynonellau. Efallai mae'n werth cysylltu â nhw a ânt i ychwanegu ragor o gynnwys at erthyglau...? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:57, 17 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Ydy, mae'n well cyfieithiad nag arfer!!! O ran cyfeiriadaeth, mae'n biti ein bod ni'n defnyddio fformat wahanol i en, oherwydd mae'n broses llafurus iawn yn Gymraeg, ac mae'n amheus gen i ydy'r giam yn werth y gannwyll! hy Pe baem yn medru mewnforio'r Nodyn/au Saesneg fel y maent (fel y gwnaethom efo'r Nodyn Trefi / Infobox UK place) yna mi fasa hi'n hawdd fel baw! Dim angen cyfieithu Recalled i Adalwyd ayb ayb. Dw i'n siwr y gallem gwneud hyn? Llywelyn2000 06:13, 18 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]