Sgwrs:HIV

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Tynnias hwn o'r erthygl gan y dylai od erthygl ar wahan am AIDS. Gan bod Mbhuws wedi mynd i'r drafferth o'i gyfieithu, dyma'r cynnwys:

Beth yw AIDS? Mae AIDS yn sefyll am 'Acqired Immunodeficiency Syndrome', sy'n ddiffiniad ar arwyddion, symptomau, heintiau a chanserau sydd yn gysylltiedig a'r ddiffygiad o fewn y system imiwnedd sydd yn gwreiddio o fod yn heintiedig â HIV.

Beth yw symptomau HIV? Nid yw'r rhan helaeth o bobl sydd a HIV yn wybodol eu bod wedi cael eu heintu oherwydd nad ydynt yn teimlo'n sâl yn syth ar ôl cael eu heintio a'r firws.Ar ôl dweud hyn, mae rhai pobl yn ystod sero-addasiad (sero-conversion) yn datblygu beth a elwir yn Syndrôm Gwrthfirws Dwys (Acute Retroviral Syndrome)sef symptomau tebyg i'r hyn a geir yn ystod chwarenglwyf (glandular fever), gyda gwres, brech ar y croen, poen cymalau a gordyfiant o'r chwarennau lymff.Cyfeirir sero-addasiad i ddatblygiad gwrthgorffynnau i HIV sydd fel arfer yn digwydd rhwng 1 a 6 wythnos ar ôl i heintiad â HIV ddigwydd. Hyd yn oed os nad yw HIV yn achosi symptomau cynnar, mae person â HIV yn heintiadwy iawn yn ystod y cyfnod cynnar hwn a all trosglwyddo'r firws i berson arall. Yr unig ffordd i benderfynnu os yo HIV y bresennol yw i brofi am gwrthgorffynnau (antibodies) HIV neu am HIV ei hun. Ar ôl i HIV achosi dirywiad cynyddol o'r system imiwnedd, gall cynnydd mewn rhagdueddiad i heintiau ddilyn i symptomau.Yn ôl Cyfundrefn Iechyd y Byd (World Health Organization), gall HIV ei gamu'n seiliedig ar gyfuno rhai symptomau, heintiau a chanserau.

>Heintiad HIV Cynradd, - all fod yn ansymptomatig neu all ei brofi fel Syndrom Gwrthfirws Dwys.

>Rhan Clinigol 1, - ansymptomatig neu gordyfiant cyffredinnol o'r chwarennau lymff.

>Rhan Clinigol 2, - cynnwys colli ychydig o bwysau, amlygiadau mwcocwtonaidd, a heintiau'r rhan uchaf o'r system anadlu.

>Rhan Clinigol 3, - cynnwys dolur rhydd cronig anesboniadwy, gwres uchel anesboniadwy parhaol, candidïasis y geg neu lewcoplacia, heintiau bacterol difrifol, twbwrwlosis yr ysgyfaint, ac enyniad madreddol dwys yn y geg. Mae rhai pobl sydd yn Rhan Clinigol 3 gydag AIDS.

>Rhan Clinigol 4, - cynnwys 22 o heintiau manteisgar new chanserau ynghlwm â HIV. Mae pob person yn Rhan Clinigol 4 gydag AIDS.

Gall yr rhan helaeth o'r heintiau manteisgar hyn gael eu trin yn hawdd mewn pobl fel-arall iach.

(cyfieithwyd y wybodaeth yma o wefan UNAIDS,- Joint United Nations Programme On HIV/AIDS)

--Ben Bore 10:14, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Dwi wedi cychwyn yr erthygl AIDS trwy gopïo ac addasu hyn. Anatiomaros 17:29, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Ymddengys mod i wedi bod yn llawer rhy fyrbwyll yn tynny hwn o'r erthygl. O'i ddarllen yn iawn (beth ddylwn wedi ei wneud tro cyntaf), mae'r rhan fwyaf yn ymwneud â HIV nid AIDS.--Ben Bore 07:17, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]