Sgwrs:Gwyddor Seinegol Ryngwladol

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Termau seinegol[golygu cod]

O'r gorau, wy wedi cyrraedd diwedd y symbolau am y tro. Bydd rhaid mynd drostyn nhw eto i'w gwirio ond yn y cyfamser wy wedi dod ar draws ambell i derm wy ddim yn gwybod sut mae'u cyfieithu. Sut mae gwahaniaethu rhwng y canlynol gwed:

Acen (e.e. mae'r acen ar y goben yn Gymraeg fel arfer) ac acen (e.e. tân, caniatáu, gwnïo)

Aspirated a breathy voice: anadlog yw "aspirated" yn Geiriadur yr Academi a Termau Ieithyddiaeth ond mae TI yn rhoi anadlog hefyd am "breathed". Chwythlyd sy o dan "breathy" yn GyA ond sai'n siŵr ai dyna beth y'n ni moyn.

Centralised a mid-centralised: mae llafariad ganoledig (= "centralised") wedi'i hynganu yn nes at ganol y "vowel space" (Cymraeg?) ond mae llafariad "mid-centralised" wedi mynd i lawr (os taw llafariad gaeedig yw hi) neu lan (os yw'n agored) sef "mid-", ac wedyn mae'n cael ei chanoli.

Unrhyw gynigion gan arbenigwyr/rywun 'da mwy o glem na fi?

Ia, dyrys braidd. Am 'acen' yn yr ail ystyr - yr acen grom a.y.y.b. - dwi'n meddwl mai 'arwydd[ion] acen' yw'r term, neu o leiaf dwi ddim yn gwybod am ynrhyw derm amgen. Am y ddau arall, bydd rhaid i mi chwilio! Anatiomaros 13:53, 19 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Wy wedi dod o hyd i arwyddnod neu marc diacritig (ych!) hefyd yn y cyfamser...rhywbeth gyda 'arwydd' ynddo falle 'te? (O ie ac ro'n i wedi anghofio llofnodi o'r blaen sori.) Llusiduonbach 13:58, 19 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Mae 'arwyddnod' yn cyfleu'r ystyr i ddim hefyd, ond cytunaf fod 'marc diacritig' yn erthyliad o air! Erthygl ddiddorol iawn, gyda llaw. Anatiomaros 14:02, 19 Medi 2008 (UTC)[ateb]
ON Dyfaliad yn unig, ond beth am 'lled-ganoledig' am "mid-centralised"? Anatiomaros 14:04, 19 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Ŵŵ falle, ond on'd byddai hynny'n golygu fod y llafariad rywfaint ar ei ffordd tuag at y canol yn lle'r ffaith bod hi wedi esgyn/disgyn ychydig yn ogystal â mynd at y canol? Llusiduonbach 14:36, 19 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Mae'n debyg dy fod yn iawn, roeddwn yn amau hynny fy hun ond methu meddwl am derm arall. Dwi wedi edrych yn Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn Thomas ond hyd y gwelaf i does na ddim cynnig ganddo fo chwaith. Mae hyn yn broblem gyfarwydd wrth gwrs. Dwi wedi ceisio sgwennu am y Siapaneg a'r Dibeteg, er enghraifft, ond mae nifer o'r termau gramadegol diarth yn amhosibl bron i gyfieithu. Dwi'n meddwl mai rhoi cynnig arni a nodi'r term Saesneg yw'r unig ddewis am rwan, yn y gobaith y daw goleuni o rywle (ond wn i ddim lle yn union!). Anatiomaros 14:48, 19 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Mae fy ngeiriadur yn awgrymu "gwyddor ffonetig ryngwladol" fel term yn lle "gwyddor seinegol ryngwladol". P'un sy'n gywir(ach)? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:00, 3 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]

"Seinegol" = "ffonetig", ond gan taw "seineg" yw enw'r maes (sef, phonetics), mae'n gwneud mwy o synnwyr i fi ddefnyddio "seinegol". Llusiduonbach (sgwrs) 16:01, 4 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Central a Mid[golygu cod]

Hoffwn i greu siart debyg i'r rhai ar Wikipedias ieithoedd eraill sy'n dangos siâp y vowel space ("y gofod llafarog" falle?) ac sy'n dangos gwahaniaethau manylach nag sy yn yr un bresennol. Y drafferth yw'r geiriau central a mid 'ma (gweler uchod). Hanner ffordd rhwng tu blaen a thu ôl y geg yw central, a hanner ffordd rhwng llafariaid uchel caeedig a rhai isel agored yw mid. Ond rwy'n methu dod o hyd i derm Cymraeg i wahaniaethu rhwng y ddau leoliad. "Canol" yw'r ddau.

O beth alla i weld, mae'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewropeaidd gorllewinol yn debyg i'r Saesneg (e.e. Eidaleg centrale, medio, Almaeneg zentral, mittel). Credu bod rhai o'n chwaer-ieithoedd wedi defnyddio "canol" am central a ffurf ar "rhwng" am mid (gweler Llydaweg "a-greiz, etre", Manaweg "meanagh, eddyr"). Fallai dylen ni gadw central yn "ganol" ond sai'n gwybod am mid - "canolog, *rhyngol, hanner"? Llusiduonbach (sgwrs) 16:43, 4 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

"Cydrhwng"? Llusiduonbach (sgwrs) 21:20, 7 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]