Sgwrs:Gwreiddyn Semitaidd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pa hwyl, lanhawr? Mae'r Interwiki yn dangos: en:Gwreiddyn Semitiaidd sydd yn gamarweiniol. Hefyd, fedra i ddim gwneud na phen na chwmffon o'r frawddeg: Fe deillir geiriau ystrylon o'r gwreiddiau dansoddol hyn drwy ychwanegu llafariaid a chytseiniaid di-wreiddyn o amgylch y cytseiniaid.

Mae 'fe deillir' yn groes i reolau'r iaith; wyt ti'n golygu 'fe ddeillia'r geiriau...' neu a ydw i'n methu yn rhywle? Llywelyn2000 18:23, 20 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Llywelyn, rydych chi'n iawn. Trio cyfieithu brawddegau llethchwyth Saesneg o'n i. Dwi wedi ysgrifennu'r holl beth yng ngeiriau'n hun nawr a dwi wedi cywiro'r Inter-wiki 'na. Diolch am bwyntio hyn allan i fi - roedd rhaid i mi frysio at rwybeth arall cyn gallu gorffen yr erthygl ac o'n i yn bwriadu'i chywiro ac ychwanegu ati. Hwyl. Glanhawr 11:34, 21 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dim probs. Mae cadw pethau'n syml drwy ddefnyddio ein geiriau ein hunain yn amlach na pheidio yn well na chyfieithu yn llythrennol. Dylem ddechrau Mudiad Cymraeg Syml, dwi'n credu! Llywelyn2000 23:32, 21 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]