Sgwrs:Gwledydd y byd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd Wicipedia:Sgwrs am Gwledydd y Byd am y drafodaeth cyn i'r erthygl hon gael ei chreu, a hefyd Sgwrs:Korea.


Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r Atlas Cymraeg (1976, Golygydd Dafydd Orwig, Cynllun Gwerslyfrau ac Adnoddau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (yn yr orgraff Rufeinig) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisioes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae Geiriadur yr Academi (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji.

Er mwyn rhoi dewis i’r darllenwyr gael edrych ar y rhestr yn ôl y sillafiad y maent yn fwyaf cyfarwydd ag ef rwy’n cynnig creu dwy restr o Wledydd y Byd, wedi eu cyfeirio at ei gilydd. Bydd y rhestr bresennol yn aros o dan y teitl ‘Gwledydd y Byd’. Byddai’r ail restr yn cael y teitl ‘Gwledydd y Byd – patrwm Geiriadur yr Academi’.

Byddai pwy bynnag sy’n creu erthygl ar unrhyw wlad yn rhydd i ddefnyddio pa bynnag sillafiad y mae’n gyfarwydd ag ef, ac o dipyn i beth byddem yn creu tudalennau ailgyfeirio o’r sillafiad amgen, fel sydd yn digwydd eisioes.

(Since there are several ways of spelling the names of countries in Welsh I propose creating two lists of countries, following the two main different spelling patterns, cross-referenced to each other. Re-direct pages can be set up from the alternative spelling to the spelling used in the country article, as is already happening.) Lloffiwr 20:07, 1 Medi 2005 (UTC)[ateb]


Dw i'n cofio trafodaeth ar sillafiad enwau gwledydd, ardaloedd a lleoliadau daearyddol estron eraill rhyw flwyddyn neu fwy yn ôl.
Yn bersonol rwyn credu bod cysindeb yn bwysig a cy dylid dilyn canllawiau Yr Atlas Cymraeg Newydd 1999 Gareth Jones
1 Lle bo enw traddodiadol Cymraeg ei ddefnyddio.
2. Cymreigio ambell enw neu ran o enw.
3 Lle nad oes enw Cymraeg nac ymgais i Gymreigio'r enw a gwyddor Rufeinig cadw'r sillafiad cywir e.e.Mexico. Os gwyddor anrufeinig cadw'r fersiwn ryngwladol a arddelir gan y gwledydd e.e. Afghanistan, Guwait.
Byddai cadw at y ffurfiau a ddefnyddir yn yr Atlas Newydd yn fy marn i yn synhwyrol, yn sicrhau cysondeb ac o gymorth i ddisgyblion ysgol ac ati a fydd gobeithio rhyw ddydd yn defnyddio Wikipedia i ymchwilio ar gyfer eu gwaith cartref ac ati. Dyfrig 10:54, 2 Medi 2005 (UTC)[ateb]
Diolch am y sylwadau. Os cadw at un patrwm sillafu oni fyddai'n well egluro hyn i'r darllenwyr fel nad oes gormod o altro ar yr enwau yn y rhestr, gan rai nad sy'n gwybod y cefndir (roedd Sudan ar y rhestr deirgwaith mewn gwahanol sillafiad)? Dyma awgrym ar eglurhad:

Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae’r Atlas Cymraeg Newydd (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu’r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeining a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisioes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae Geiriadur yr Academi (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny’n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji.

Mae’r rhestr isod yn dilyn patrwm yr Atlas Cymraeg. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Ymddengys sillafiadau amgen y wlad yn yr erthygl. Lloffiwr 19:47, 2 Medi 2005 (UTC)[ateb]

Newidiadau diweddaraf (Bwrdd yr Iaith)[golygu cod]

Mae rhywun wedi newid sawl enw yn ôl rhestr o enwau gwledydd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Unwaith yn rhagor ni all yr "arbenigwyr" gytuno. Newidwyd Gwlad Iorddonen i Wlad yr Iorddonen ac Yr Ariannin i Ariannin (gyda'r Yr yn ddewisol), er enghraifft. Dwi wedi gweld Gwlad yr Iorddonen ac Ariannin am Yr Ariannin, ond dwi'n weddol hyderus taw 'Yr Ariannin' a 'Gwlad Iorddonen' yw'r ffurfiau mwyaf cyffredin mewn print, ar lafar ac ar y we (Google: 'Gwlad Iorddonen' 633; 'Gwlad yr Iorddonen' tua 90). Ac unwaith eto mae rhestr Bwrdd yr Iaith yn anghyson. Ffiji yn lle Fiji (a pham lai), ond Afghanistan yn lle Affganistan a Morocco yn lle Moroco (ydyn nhw heb glywed am Maroc tybed?). Mae 'na enghreifftiau eraill hefyd, ond dyna ddigon, gobeithio, i ddangos mor fympwyol mae hyn yn gallu bod. Unwaith eto, ga'i awgrymu fod pobl sy'n anghytuno â'r ffurfiau ar enwau gwledydd sydd gennym ni DRAFOD yn gyntaf cyn dechrau newid pethau? Mae newid enw gwlad yn golygu lot o waith weithiau gan fod rhaid newid categorïau etc. Defnyddiwr dienw wnaeth y newidiadau diweddaraf, gyda llaw. Croeso iddo fo/iddi hi roi ei ymateb yma. Anatiomaros 19:18, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Yn cytuno ag Anatiomaros. Dyma'r dudalen lle mae'r hen hen drafodaeth ar enwau'r gwledydd yn cuddio. Bues yn siarad gyda rhywun oedd yn ymwneud â'r Geiriadur Termau - nid oedd yntai'n cytuno gyda pob cynnig gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae'r trafod yma'n codi chwant arna'i i fynd ati i lunio erthygl sy'n dabl o amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Hyd yn oed os na fydd o unrhyw fudd wrth drafod canllaw ar ddewis teitlau ar Wicipedia, byddai o bosib yn erthygl y byddai ambell i ddarllenwr yn ymddiddori ynddi. Llunio tabl yn rhoi'r enwau yn ôl sillafiad rhyngwladol y wlad (rwyn credu bod yna ryw ISO ar hyn?), Yr Atlas Cymraeg, Geiriadur yr Academi, rhestr Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac amrywiadau eraill yn Gymraeg. Wedi dweud hyn, does wybod pryd y caf gyfle i lunio'r tabl - efallai y bydd rhywun arall wedi achub y blaen arna'i! Lloffiwr 14:39, 22 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Dw i wedi dechrau'r erthygl: Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Tigershrike 17:02, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Ardderchog. Gobeithio y bydd yn fodd i ddangos i bobl ei bod yn anodd dewis enw Cymraeg safonol ar gyfer rhai gwledydd a'i bod yn amhosibl plesio pawb! Anatiomaros 17:34, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Golygiadau mympwyol sy'n ymylu ar fandaliaeth[golygu cod]

Unwaith eto daeth cyfranwr dienw yma a newid enwau sawl gwlad. Newidiodd drefn a diwyg y rhestr hefyd. Y canlyniad oedd stomp llwyr gyda nifer o ddolenni coch a phob dim bron wedi newid am y gwaethaf. Dwi'n meddwl fod angen diogelu'r dudalen hon a rhai tebyg fel na all pobl sydd heb gorfrestru eu newid nhw. Anatiomaros 16:23, 29 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno. Daffy 17:41, 29 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno y gallem ddiogelu'r dudalen hon, ond ar yr un pryd y dylem gysidro newid polisi enwau'r gwledydd. Lloffiwr 18:07, 29 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Diolch am yr ymateb. Cytunaf y dylem ystyried newid polisi enwau'r gwledydd, ond waeth ini wynebu'r ffaith nad oes gobaith plesio pawb. Bydd rhai o blaid Gwlad yr Iorddonen, eraill o blaid Gwlad Iorddonen ac eraill o blaid Iorddonen, er enghraifft. Y pwynt yw dydi hi ddim yn dderbyniol nac yn deg i bobl ddod yma dim ond i newid enw gwlad am bod nhw yn meddwl eu bod yn gwybod yn amgenach na phawb arall (ac felly fod pawb arall yn wrong, mae'n debyg!). Criw bach ydym ni, sy'n treulio mwy na digon o'n hamser prin yn golygu a newid categoriau fel y mae hi. Felly awgrymaf eto y dylem diogelu'r rhestr hon ac unrhyw erthygl am wlad sy'n dechrau cael ei newid yn gyson, heb drafod nac esboniad. Gyda llaw, dwi'n hoff o syniad Lloffiwr am greu tabl o amrywiol enwau'r gwledydd, a byddaf yn barod i gyfrannu pan ddaw'r amser. Oes gennym ni drefn ynglŷn â diogelu tudalennau? Pwy sydd am wneud o? Anatiomaros 18:39, 29 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Ymddengys fod consensws i ddiogelu'r dudalen rhag olygwyr heb eu cofrestru, felly dwi wedi gwneud hynny (am gyfnod o 6 mis). Gall unrhyw weinyddwr ddiogelu neu ddad-ddiogelu tudalen dwi'n meddwl. Wrth gwrs mae lle i ail-ystyried y system enwau, a newid ambell i enw. Tabl o ffurfiau amgen yn swnio'n syniad da. Hwyl, --Llygad Ebrill 19:26, 29 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Safoni enwau gwledydd ar cywici[golygu cod]

Yn Rhagfyr 2014 cytunwyd ar ffurfiau enwau gwledydd a cheir y drafodaeth ar y dudalen Sgwrs yma: Sgwrs:Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:35, 22 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Gogledd Corea[golygu cod]

Mae Gogledd Corea yn ymddangos yn y golofn baneri fel Gwlad Iorddonen ond dw i methu gweld beth sydd o'i le yn y cod. --Cymrodor (sgwrs) 22:42, 13 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]