Sgwrs:Gwlad

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae angen gwahaniaethu'n eglur yma rhwng "cenedl", "gwlad" a "gwladwriaeth". Mewn rhai achosion maen' nhw'n golygu'r un peth yn union (e.e. Gwlad yr Iâ, sy'n wlad fach hawdd i'w diffinio yn ddaearyddol ac yn hanesyddol, sy'n perthyn i un genedl ac sy'n wladwriaeth sofranaidd). Nid yw pob gwladwriaeth sofranaidd (sovereign state) yn wlad. Mae 'na drafodaeth fawr ar hyn ar y wiki Saesneg sy'n dangos cymaint o wahanol farnau sydd 'na ar y pwnc. Dwi'n meddwl y dylai'r erthygl hon osgoi'r dryswch a geir ar rai o'r tudalennau Saesneg.

Ydi Cymru'n wlad, er enghraifft? Mae nifer o Saeson yn dadlau nad yw hi a nifer o Cymry yn gwybod yn iawn ei bod hi. Yn fy marn i mae Cymru yn wlad sy'n gartref i genedl y Cymry ond dydi hi ddim yn wladwriaeth sofranaidd ar hyn o bryd (mae hi'n egin-wladwriaeth efallai); serch hynny mae hi'n wlad yn yr ystyr hanesyddol, diwylliannol a daearyddol. Anatiomaros 21:14, 20 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]