Sgwrs:Glynebwy

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Glyn Ebwy)

Newid yr enw[golygu cod]

Mae rhywun wedi newid yr enw yn yr erthygl o Glyn Ebwy i Glynebwy. Ceir dros 11,000 o enghreifftiau o'r ffurf Glyn Ebwy ar Google ac ychydig dros 1,000 o Glynebwy. Ymddengys fod y ddwy ffurf yn dderbyniol, ond pa un sy'n safonol? Anatiomaros 18:53, 9 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Dwi ddim o blaid "Glynebwy;" nid dyma ffurf a ddefnyddir gan unrhyw ym Mlaenau Gwent, neu gan y Cyngor ei hun (ewch at wefan Blaenau Gwent am ragor o enghreifftiau). Defnyddiwyd "Glyn Ebwy" gan yr Eisteddfod o ddiweddar hefyd, a cheir 30,700 canlyniad ar gyfer "Glyn Ebwy" a dim ond 7,610 ar gyfer "Glynebwy" yn ôl Google. Mae Enwau Cymru bellach yn hen, ac mae'n rhestri plwyf "Glynebwy" fel "Glyn Ebwy." Yr enw Cymraeg ar y lle yn ôl y Cyngor, eto, yw Blaenau Gwent. Allwn drafod y peth yma cyn ei symud (o gwbl ac eto), os gwelwch yn dda?! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:03, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Dyma ddywed "Dictionary of the Place-names of Wales" (Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer; 2007): Glynebwy. The name is taken from the Ebbw Vale Ironworks began in 1789. The industrial town was alternatively known as Ebbw Vale and Pen-y-cae (one of the estates on which it developed) down to c. 1836. Located in the upper parts of Glyn Ebwy (Glynebboth 1314, Glynebo c. 1593-5, Glyn Ebwy 1839). The river name Ebwy (Eboth 1101, Ebwy 1631) is an earlier Ebwydd with loss of final "dd" to Ebwy and then Anglicized to Ebbw. It is eb- 'horse' (as in ebol 'colt') and gŵydd 'wild', falling into the category of river names based on animals.
Sylwer, mai un gair ydy Glyndyfrdwy, Glynceiriog, Glynttrefnant, Glynarthen, Glynogwr a Glyncorrwg; ceir llinell heiffen yn yr enwau Glyn-Nedd, Glyn-Taf a Glyn-y-Groes (sydd oll yn diweddu yn unsill) a deuair ydy Glyn Tarrell (yr unig un).
Trown at Gwyddoniadur Cymru. Un gair ydyw yn hwnnw hefyd. Mae'n sillafu Cwm Ebwy fel deuair.
Dau lyfr psafonol; a'r ddau yn mynd am Glynebwy.
Llywelyn2000 21:24, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Hmmm. Mae'r dysdiolaeth hynny'n iawn, ond dwi o blaid mynd gydag "awgrym" a ffordd Cyngor Blaenau Gwent, ond wrth gwrs, byddaf yn cytuno â'r mwyafrif ... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:13, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Pa hwyl? Paid saethu'r negesydd! Na o ddifri, dw i'n meddwl fod y Cyngor Sir wedi dewis y ffurf tebycaf i'r addasiad Saesneg, sy'n beth da i'w wneud, dw i'n siwr. Ydy o'n driw neu'n dilyn rheolau naturiol y Gymraeg sy'n beth arall. Fy hun, dydy o diawl o ots gen i gan fod y gwahaniaeth mor fach ac mae'n hen bryd newid llawer o reolau orgraff ayb yn y Gymraeg!!! Llywelyn2000 22:38, 25 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Ymlaen â'r enw! Dwi'n meddwl y dylem ni fynd â dewis Cyngor Blaenau Gwent, sef Glyn Ebwy - mae pawb ym Mlaenau Gwent yn cyfeirio at "Glyn Ebwy," ac mae'n cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth, 'Steddfod, Cymraeg i Oedolion ayyb ayyb. Nid Bwrdd yr Iaith neu Enwau Cymru yn dweud yr enw, ond y cyngor lleol. Mi allem anwybyddu'r hyn a ddywedir mewn hen lyfrau - yr enw Cymraeg nawr arni yw "Glyn Ebwy". -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:41, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Mae hynny'n iawn gen i, Glenn. Cyn belled â bod pawb mewn cytundeb er mwyn osgoi symud hyn nôl ac ymlaen fel io-io! Tybed, er hynny, a oes dadl dros 'Glynebwy' am y dre ond 'Glyn Ebwy' am y cwm/ardal? Dwn i ddim, mond meddwl am hynny rwan. Dylem nodi'r amrywiadau ac os ceir cynnig i symud hyn eto yn y dyfodol bydd rhaid i'r rheswm dros hynny gael ei osod allan yma a'i drafod. Anatiomaros 19:00, 28 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Iawn. Fel gyda'r Coed Duon, arhosem tan ddydd Mercher nesaf, ond yn y cyfamser, anfonaf e-bost at F. Olding sy'n gweithio i Gyngor BG; fe sy'n gyfrifol am enwi llefydd BG ac yn gwybod llawer iawn am yr ardal. Gofynnaf am yr ardal ei hun a'r glyn :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:22, 29 Medi 2010 (UTC)[ateb]
O edrych ar Streetview, Glyn Ebwy yw'r ffurf a welir ar yr arwyddion, a Glyn Ebwy a geir yma. Mae'n amlwg fod anghysondeb yn rhemp. Clywais sôn yn rhywle mai eisteddfod 1958 oedd yn rhannol gyfrifol am osod yr enw Glyn Ebwy (ym mha bynnag ffurf) ar y dref, ond wn i ddim faint o wir sydd yn hynny. Eisingrug 17:24, 29 Medi 2010 (UTC)[ateb]