Sgwrs:Geraint Bowen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Fi roddodd y wybodaeth bod Geraint Bowen wedi bod yn athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberaeron. Roedd ei ferch yn y coleg yr un pryd a fia dyna yw y cof sydd gennyf i. Ar ba sail y dywedir fod y ffaith yn anghywir. Gobeithio nad ydwyf yn diodde o dimensia hyd yn hyn o leiaf! Dyfrig

Fi yw mab Geraint Bowen. Roedd fy nhad yn ddisgybl yn Ysgol y Sir Aberaeron. Roedd e'n athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Rhiwabon o 1947 hyd at 1961. Efallai wna'i ychwanegu buwgraffiad manwl at yr erthygl nes 'mlaen. Mae gen i syniad hefyd mai un gair yw Ceinewydd. Dwi'n siwr mai un gair oedd e beth bynnag, os nad ydy e wedi newid yn ddiweddar. Fe fydda'i ddim yn newid e'n ôl heb ymchwilio'n bellach. Rhys 17:15, 4 Ebrill 2006 (UTC)[ateb]

Dw'i wedi ymchwilio Ceinewydd yn bellach. Un gair yw e erioed, ond dau air New Quay yn Saesneg. Er hynny; un gair yw Newquay, Cernyw. Dwi wedi cywiro'r erthyglau berthynol.Rhys 20:36, 4 Ebrill 2006 (UTC)[ateb]