Sgwrs:Gagauzia

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
  • Dylai'r teitl dweud 'Gagauzia'*

Rhanbarth Twrcaidd o Foldofa ac Wcrain yw Gagauzia. Datganodd ei hun yn Weriniaeth Gagauzia yn 1991 ac yn fuan enillodd y Gagauz yr hawl i fod yn rhan o Foldofa, gan eu halluogi i ddefnyddio iaith eu hunain yn eu rhanbarth hunan-reoledig [1].

Cenedl Dwrcaidd sy'n tarddu o lwyth yr Oghuz yw'r Gagauz (Gagauz-Yeri yn eu hiaith frodorol)ac maent yn gwahaniaethu rhwng eu hunain a Thwrciaid eraill ar sail eu crefydd; yn wir, wedi iddynt droi at Gristnogaeth wrth anheddu ym Messarabia yn y nawfed canrif ar hugain, mae'r Gagauz yn Gristnogion Uniongred ac yn siarad iaith Altaiaidd sydd yn dra gwahanol i Dwrcaidd. Mae'r Gagauz yn weddol anadnabyddus. Dan lywodraethau Moldofaidd a Rwsiaidd, gwrthryfelasant wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd yn yr 1900au cynnar. Yn 1991, etholwyd arweinydd y 'Weriniaeth Gagauz', Stephan Topal. Ar ôl datgan eu hanibynniaeth yr un pryd â'r Rwsiaid yn Nhrawsistria, bu'n rhaid i Foldofa cyfaddawdu gyda'r Gagauz i gadw penarglwyddiaeth ei hun: lluniwyd deddfwriaeth hunan-reolaeth a wnaethpwyd yr iaith Gagauz yn swyddogol. Pan greuwyd Gagauzia bu bob tref gyda mwy na 50% o'i phoblogaeth yn Gagauz o fewn ei ffiniau.

Heddiw deil i fod tyndra rhwng yr awdurdodau canolog a llywodraeth Gagauzia. Mae canlyniadau'r etholiadau yn aml yn ffynhonnell gwrthdaro rhwng y Moldofiaif a'r Gagauz. Er gwaethaf y pellter rhyngddynt, cadwant gysylltiadau agos gyda'u perthnasau yn Nhwrci; bu Lywodraeth Dwrci yn cyllidio canolfan ddiwylliannol a llyfrgell yng Ngagauzia.

Gwall cyfeirio: Paramedr annilys yn nhag <references>

Gosodwyd yr uchod gan Defnyddiwr Crwydryn yma yn wreiddiol, cyn i mi ei symud. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:11, 4 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

  1. http://www.eurominority.eu/version/eng/minority-detail.asp?id_minorities=94