Sgwrs:Ffiseg gronynnau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi ddim yn siwr beth a olygir gan "ffiseg [g]newyllol" (mae angen treigliad). Ai "particle physics" sy gen ti mewn golwg, Llywelyn? Yn anffodus does gen i ddim copi o Eiriadur yr Academi yma ond buasai'n ddiddorol gweld be mae Bruce a Dafydd yn cynnig. Anatiomaros 14:28, 11 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Ia, 'particle physics'. Does dim sôn yn y Gwyddoniadur amdano (wyt ti'n synnu!!) nac ychwaith Bruce na'r Brifysgol. Digon teg, yn dechnegol oes mae angen treiglad; ofni roeddwn i y byddai hynny'n cymylu'r ystyr - sydd eisioes yn gymylog! Ond, wedyn, ar ôl ail feddwl (neu drydydd?) efallai mai Ffiseg y Cnewyllyn fyddai orau? Syml ac eglur. Llywelyn2000 21:48, 12 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am yr esboniad. Ydy "gronyn" yn well tybed? "Ffiseg y gronyn" efallai? Dwi ddim yn wyddonydd o bell ffordd ond mae "particle physics" yn derm cyfarwydd ac mae'r ystyr yn eglur; rhyfedd nad oes term Cymraeg safonol yn bod. Efallai dylem ni aros am sbel i weld os daw rhyw gynnig arall i fyny? Anatiomaros 21:58, 12 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Ydy, wrth gwrs! Mi wna i olygu'r dalennau priodol. Cnewyllyn ydy'r term cyfoes am 'Nucleus'. Diolch. 195.62.202.141 22:49, 12 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Sorry, I'm not going to try writing this in Welsh at this time of night... Try "ffiseg gronynnau". Seems more logical in principle to use the plural, and also there seems to be a sprinkling of relevant google hits. Alan 23:54, 12 Medi 2008 (UTC)[ateb]