Sgwrs:Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae eisiau dalen i bob eisteddfod yn fy marn i. Felly onid gwell fyddai teitl Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 er engraifft. Rwyn sylwi wrth wasgu ar Llanelli dalen y dref a gysylltir nid dalen ar Eisteddfod Llanelli Bydd eisiau dalen i bob Eisteddfod ac nid cysylltiad i'r trefi

Dyfrig

Roeddwn i'n meddwl am hynny, dweud y wir, ond roeddwn i'n gwneud y cyswllt i'r drefi am tri rheswm:
  1. Mae cyswllt i'r trefi ar tudalenni'r blynyddoedd ers amser,
  2. Does dim cymaint o wybodaeth ar tudalenni'r trefi eto (fydd yn bosib symyd gwybodaeth ar gyfer yr Eisteddfodau i dudalenni arbennig yn y dyfodol) a
  3. Dw i ddim yn siwr cymaint o ddefnydd oes ar gyfer pob Eisteddfod.
Does ddim llyfrau am yr Eisteddfodau gen i -- mae Cymru'n bell a gallwn i ddim ond weld y rhyngrwyd. Beth bynnag, dw i am gadael nodyn am Eisteddfodau Genedlaethol ar pob tudalen tref hefyd. Ond bydd tudalenni arbennig yr Eisteddfodau'n well, chi'n meddwl? --Okapi 14:10, 29 Aws 2004 (UTC)

Beth am gosod cyswllt i dudalen yr Eisteddfod ar dudalen y tref am y tro, fel ar dudalen Casnewydd? --Okapi 01:31, 30 Aws 2004 (UTC)

Eisteddfod Genedlaethol modern cyntaf[golygu cod]

Mae wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud y buodd yr Eisteddfod Genedlaethol modern cyntaf ym 1819... --Okapi 00:02, 1 Med 2004 (UTC)

Oes ewch chi i Hanes yr Eisteddfod ar wefan yr Amgueddfa Werin fe welwch mai Eisteddfod daleithiol oedd eisteddfod Caerfyrddin 1819 ac felly nid oedd yn eisteddfod genedlaethol.
Dyfrig 09:28, 2 Med 2004 (UTC)
O, wela i. Diolch am y wybodaeth! :-) --Okapi 12:47, 2 Med 2004 (UTC)

Newid yr enw[golygu cod]

Dwi'n cynnig symud hyn i Eisteddfod Genedlaethol Cymru, am y rheswm syml mai dyna ydy'r enw. Dwi'n meddwl hefyd y buasai categori o'r un enw yn syniad da. Oes 'na wrthwynebiad? Anatiomaros 17:05, 18 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Nac oes, oddi wrthyf i o leiaf. Alan 20:43, 18 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dim gwrthwynebiad ganddo i, nac at greu/newid enw categori.--Ben Bore 09:28, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Diolch. Dwi wedi symud yr erthygl a dechrau ar sortio'r categoriau ond mae'n mynd i gymryd amser (73 erthygl am eisteddfodau unigol, yn ddigon o stomp weithiau hefyd). Anatiomaros 19:57, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
...fel ddywedodd Alan Llwyd wrth Dic Jones yn Aberteifi! Llywelyn2000 22:48, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Adnodd[golygu cod]

Newydd ddod ar draws hwn: Canrif o Brifwyl ar wefan y BBC Mae modd clicio ar bob blwyddyn fesul un, hefyd ar y chwith mae moth clicio ar gyfnodau penodol. Lot o stwff am gyd-destun y cyfnod hefyd yng Nghymru a thu hwnt.--92.245.247.100 13:18, 15 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Y cwbwl sydd ei angen rwan ydy tri person llawn amser i addasu'r cynnwys ar gyfer y wefan fwyaf yn y cosmos! Diolch am y ddolen, mae'n adnodd wych iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:23, 15 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]