Sgwrs:Dawnslunio

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'n wych o beth bod gennym air ein hunain am goreograffi, sef dawnslunio. Mae'r cyfryw eiriau yn gwneud mwy o synnwyr o lawer na benthyciadau Saesneg (ond yn tarddu o'r Lladin!). Mewn ffordd debyg, creais yn ddiweddar erthygl (wel, eginyn erthygl) o'r enw 'trengholiad', sef inquest. Mae'r gair yn bodoli yn y GPC + Geiriadur yr Academi; hefyd, fe'i defnyddiwyd sawl gwaith ar flog Vaughan Roderick ar y BBC. Rydym yn ganmil cyfoethocach am sicrhau ein bod yn arddel ein geiriau Cymraeg :) Cofion cynnes